Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

48.

Cofnodion: pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod (au) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

49.

Coridor yr Afon.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Ffisegol adborth o'r gweithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref 2018 ac amlinellwyd yr amcanion drafft ar gyfer mis Ionawr 2019.

 

Nododd y cyflwyniad:

 

·       Ddiben Strategaeth Glannau Afon Tawe;

·       Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (2016);

·       4 Ardal Astudio;

·       Fformat y gweithdy;

·       Adfywio'n seiliedig ar dreftadaeth, cadw a gwella asedau treftadaeth;

·       Mynediad, symudiad, cysylltiadau;

·       Bioamrywiaeth a'r amgylchedd;

·       Defnydd Cymysg o dir, tai, defnydd masnachol a chyflogaeth;

·       Gweledigaeth strategaeth coridor glannau afon Tawe;

·       Amcanion strategaeth coridor glannau afon Tawe;

·       Y camau nesaf;

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Allanol a Datblygiad Economaidd drosolwg cynhwysfawr o'r rhaglen o gynnydd cyllid posib.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Canolbwyntiodd trafodaethau ar:

 

·       Berchnogaeth a chyflwr gwely'r afon a'r angen i weithio mewn partneriaeth â'r perchennog;

·       Manylion sensitif yn ymwneud â’r bont wrthbwys;

·       Gwella bioamrywiaeth trwy gyflwyno rhywogaethau naturiol a defnyddio egwyddorion y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd;

·       Y cynigion a'r cynnydd gyda'r prosiect Skyline;

·       Cyllid;

·       Y safle Parcio a Theithio;

·       Y gwaith a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddatblygu eu cynigion ar gyfer coridor yr afon;

·       Y cynigion ynghylch podiau addysg a rôl Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wrth helpu'r cyngor gydag agweddau ar y strategaeth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai'n trafod y materion a drafodwyd yn ei gyfarfod gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Nodi'r diweddariad;

2.     Rhannu copi o'r cyflwyniad ag aelodau'r pwyllgor;

3.     Trefnu diweddariad ar gynnydd ar gyfer 18 Ebrill, 2019.

 

50.

Cynllun Gwaith 2018/2019. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diwygiedig ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd nodi’r Cynllun Gwaith ar gyfer 2018-2019:

 

21/02/19

1.      Parcio yn y Ddinas

21/03/19

1.      Goblygiadau cadarnhaol/negyddol Brexit

2.      Ymweliadau safle i Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

18/04/19

1.      Strategaeth Coridor  Afon Tawe – Y Diweddaraf am Gynnydd

2.      Adroddiad Diwedd Blwyddyn Drafft

 

[Yn ychwanegol, cytunodd aelodau i ymgynnull am weithdy ar y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ddydd Iau 21 Chwefror, amser i'w gadarnhau].