Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif 16 - Coridor yr afon - Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Abertawe.

 

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 10 Awst 2017 fel cofnod cywir.

 

 

16.

Coridor yr Afon - Cylch gorchwyl y Gweithdy. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ddiweddariad llafar i'r pwyllgor am y sefyllfa gyfredol o ran coridor yr afon.

 

Dywedodd fod y pwyllgor eisoes wedi derbyn cyflwyniad ar y pwnc hwn a oedd wedi rhoi'r manylion cefndir iddynt ynghyd â chyd-destun y cynigion er mwyn parhau i ailddatblygu'r ardal. Dywedodd fod y CDLl sy'n dod i'r amlwg hefyd yn cynnwys cyfeiriadau cryf at yr ardal.

 

Amlinellodd y cynlluniau i gynnal gweithdy ym mis Medi i drafod amrywiol faterion sy'n ymwneud â'r coridor megis:

·       Pa gamau gweithredu/adnoddau y mae eu hangen;

·       Materion cyflwyno;

·       Manylion yr astudiaethau blaenorol yr ymgymerwyd â hwy;

·       Hanes cefndir a threftadaeth yr ardal;

·       Cynnydd hyd yma;

·       Symudiadau ar y ffyrdd/beicio;

·       Bioamrywiaeth;

·       Cynigion ailddatblygu yn y dyfodol (Penderyn etc);

·       Materion perchnogaeth tir/yr afon.

 

Cyfeiriodd at y sesiwn yr oedd yn gobeithio y byddai'n cynnwys aelodau, swyddogion, rhanddeiliaid/sefydliadau partner amrywiol lle byddai'r holl faterion amrywiol a amlinellir uchod yn cael eu trafod.

 

Trafododd aelodau fuddion ymgymryd ag ymweliad safle yn yr ardal, cyn cynnal y gweithdy, a gofynnwyd a ellid cylchredeg unrhyw wybodaeth berthnasol sydd ar gael am yr ardaloedd a amlinellir uchod a'r cylch gorchwyl ar gyfer y gweithdy iddynt cyn y gweithdy.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn cysylltu ag aelodau'r Pwyllgor i drefnu ymweliad safle ag ardal coridor yr afon.

 

17.

Creu Parth i Gerddwyr ar Stryd y Gwynt. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ddiweddariad llafar i'r pwyllgor ynghylch cynnydd sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod ar y cyd â BID Abertawe wrth fwrw ymlaen â'r cynigion ar gyfer troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr.

 

Dywedodd fod ymgynghorwyr bellach wedi'u penodi i ddatblygu'r syniadau a'r awgrymiadau o'r ymarfer ymgynghori blaenorol a datblygu cynigion cadarn ar y cyd ag aelodau/busnesau lleol/rhanddeiliaid perthnasol a sefydliadau partner etc.

 

Dywedodd fod yr ymgynghorwyr wedi trefnu sesiwn galw heibio yn Stryd y Gwynt i bob parti â diddordeb ar 31 Gorffennaf (lleoliad i'w gadarnhau). Byddai porth ar-lein ar gael hefyd drwy gydol yr haf ar wefan y cyngor a fyddai'n amlinellu'r opsiynau posib ar gyfer yr ardal ac yn gwahodd sylwadau gan bartïon â diddordeb ynghyd â'u barn.

 

Trafododd yr aelodau fuddion ymgymryd ag ymweliad safle'n dilyn y digwyddiad galw heibio a chyn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas y byddai'n cylchredeg manylion y digwyddiad wedi i'r dyddiad gael ei drefnu'n derfynol.

 

Penderfynwyd y byddai'r Cadeirydd yn cysylltu ag aelodau'r pwyllgor i drefnu ymweliad safle ag ardal Stryd y Gwynt.

 

18.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2018/2019.

 

Awgrymodd y dylid ychwanegu'r pynciau canlynol at yr agendâu ar gyfer y cyfarfodydd a restrir isod:

16 Awst - Adborth o ymweliadau safle a'r Cerbydlu Gwyrdd

20 Medi - Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

18 Hydref - Strategaeth Cludiant a Thai Cydweithredol

 

Penderfynwyd y dylid cytuno ar y cynllun gwaith gyda'r diwygiadau a awgrymwyd uchod.