Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

6.

Cofnodion: pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cadarnhau Cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar:

 

a)    12 Ebrill 2018;

b)    24 Ebrill 2018; a

c)     24 Mai 2018

 

fel cofnodion cywir.

7.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cylch gorchwyl.

8.

Coridor yr Afon.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Lleoedd y diweddaraf o ran Datblygiad Gwaith Copr yr Hafod.

 

Nodwyd bod cyfalaf gwerth £1.5 miliwn wedi'i gymeradwyo gan alluogi'r Cabinet i gyflwyno cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae ail gam y broses bellach wedi'i gwblhau a gwneir penderfyniad ym mis Medi 2018.  Hysbyswyd yr aelodau'n flaenorol ynghylch y strategaeth bresennol (sydd bellach wedi dyddio).  Awgrymwyd y byddai gweithdy ar gyfer aelodau tua diwedd mis Awst/dechrau mis Medi 2018 yn fuddiol gan y rhagwelwyd penderfyniad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Byddai gan yr aelodau'r cyfle i gyfrannu at y strategaeth gyntaf ar gyfer yr ardal, gan ystyried hygyrchedd, rhwydweithiau, isadeiledd priffyrdd etc.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd:

 

1.     Byddai'r llwybr gwneud penderfyniadau ar gyfer y strategaeth a'r angen am unrhyw ganllaw cynllunio atodol ffurfiol yn cael ei hadrodd i'r aelodau. 

2.     Roedd dau opsiwn yn cael eu hystyried mewn perthynas â Chynllun Skyline/Skyluge, sy'n cynnwys defnyddio'r tir yn y maes parcio neu ar ochr arall yr afon. 

 

Penderfynwyd:

 

1.     Trefnu trafodaeth ar goridor yr afon ar gyfer y cyfarfod nesaf er mwyn penderfynu pa bynciau i'w hystyried mewn gweithdy pwyllgor;

2.     Y bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn dosbarthu'r strategaeth bresennol i aelodau'r pwyllgor.  

9.

Strategaeth Cludiant.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at y diweddariad blaenorol ynghylch y Strategaeth Trafnidiaeth a sut mae hyn yn effeithio ar y Fargen Ddinesig.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu grant gwerth £140,000 i'r rhanbarthau (sy'n cynnwys 4 ardal awdurdod lleol) at ddibenion comisiynu ymgynghorwyr i ddatblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol (sy'n cynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a bysus).  Yn wreiddiol, byddai'r ymgynghorwyr yn dadansoddi'r data mewn perthynas â lle mae pobl yn byw, yn gweithio ynddo, yn ymweld ag ef ac unrhyw heriau a'r canlyniadau posib.  Byddai canolfannau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n arwain at gydgysylltedd gwell drwy'r rhanbarth hefyd yn cael eu harchwilio.  Byddai cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gael a cheisiwyd barn y pwyllgor mewn perthynas â'r polisi arfaethedig.

 

Nodwyd hefyd fod ail ddarn o waith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhwydwaith trenau strategol, a fyddai'n cael ei gynnal gan yr Athro Barry, Prifysgol Caerdydd. 

 

Roedd golwg clir ar y ddau adolygiad yn rhan bwysig o adfywio'r ddinas.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd:

 

1.     Byddai'r Panel Ariannu Allanol yn ystyried cyfres o geisiadau mewn cysylltiad â Ffordd Ffabian (yr ardal gerllaw cwmni Four Counties sy'n archwilio a fyddai llwybr mwy syth yn ymarferol); gwelliannau posib i'r cyffyrdd ar Ffordd Ffabian a'r cyfleusterau parcio a theithio. 

2.     Byddai materion amgylcheddol yn cael eu harchwilio hefyd. Fodd bynnag, nid oedd yn ymwybodol a oedd cyflwyno parthau dim mynediad i geir wedi'i ystyried.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

10.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer.

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Pobl mai un o brosiectau'r Fargen Ddinesig yw Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.  Egwyddor sylfaenol y cynllun oedd creu ynni gan ddefnyddio eiddo newydd a phresennol, wrth osod neu ail-osod yr eiddo.  Gellid defnyddio amrywiaeth o dactegau a fyddai'n gofyn am ddefnyddio technoleg ddrud. Rhagwelwyd y byddai'r gwaith arloesol a gynhelir fel rhan o'r Fargen Ddinesig yn fuddiol i'r DU yn gyffredinol.

 

Manylodd ar y modelau busnes a rôl y darparwyr tai amrywiol wrth sicrhau llwyddiant y cynllun. 

 

Roedd Castell-nedd Port Talbot wedi dechrau ei brosiect peilot sy'n cynnwys 16 o dai newydd â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Nodwyd bod y Cabinet wedi cymeradwyo adroddiad ynghylch Arfarniad Opsiynau ar gyfer Mwy o Gartrefi ar Safle Parc yr Helyg a rhagwelir y byddai lefel y dechnoleg sydd ar gael i'w chyflwyno i'r cynllun yn ddibynnol ar gyllid Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd,

 

1.     Bydd y cynllun yn ceisio adeiladu 2500 o dai newydd ac ôl-osod 7500 o dai presennol. Rhagwelir y byddai'r cartrefi'n cael eu hadeiladu fesul cam. 

2.     Roedd 'Robin Hood Energy' Cyngor Nottingham yn enghraifft dda o awdurdod lleol yn cynhyrchu ac yn cyflenwi trydan. Roedd y cyngor wedi bod yn archwilio a fyddai yn ymarferol efelychu'r cynllun hwn. Roedd achos busnes a chynigion ar gyfer ymgynghoriad yn cael eu hystyried gyda'r nod o adrodd i'r Cabinet ar ddechrau mis Medi.Byddai angen i'r cynnig ddarparu tystiolaeth drwyadl sy'n manylu ar ddichonoldeb ariannol a heb unrhyw gost i'r trethdalwr.

3.     Byddai'r morlyn arfaethedig yn darparu cyflenwad sylweddol o ynni adnewyddadwy a allai ddarparu cyfleoedd a buddion i'r sector cyhoeddus lleol.

4.     Mae'r fenter paneli solar mewn ysgolion wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau'r costau wrth brynu trydan mewn ysgolion. Datganodd y Cyfarwyddwr Pobl y byddai'n darparu dadansoddiad o'r ysgolion sy'n elwa o'r cynllun.

5.     Mewn perthynas ag ôl-osod tai cyngor, penderfynwyd nad oedd yn ariannol ddichonadwy i osod paneli solar ar stoc tai. Yn ychwanegol, mae heriau ariannol o ran storio ar fatris.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

11.

Fflyd Werdd.

Cofnodion:

Cylchredodd y Cadeirydd nodyn briffio a baratowyd gan y Cyfarwyddwr Pobl.

 

Datganodd y Cyfarwyddwr Pobl nad oedd y nodyn briffio'n cynrychioli polisi, ond ymagwedd at ddatblygu polisi.  Datganodd mai diben y drafodaeth heddiw oedd ceisio barn aelodau.

 

Nododd yr aelodau y byddai polisi'r Cerbydlu Gwyrdd yn cael ei bennu yn ôl defnydd y cyngor o gerbydau. Mae'r cerbydau a awgrymwyd yn cynnwys y rheiny y mae gweithwyr y cyngor yn eu defnyddio wrth gyflawni eu dyletswyddau (tryciau/faniau sbwriel a cheir hurio). Roedd rhaid ystyried hierarchaeth y cerbydau (e.e. cerbydau heb allyriadau, rhai diesel ac unrhyw beth yn y canol).

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd:

 

1.     Cynhaliwyd arbrofion gyda cherbydau deisel "hybrid" a cherbydau trydan, er nad yw'r rheiny sy'n ymwneud â cherbydau trydan wedi bod mor llwyddiannus oherwydd maint y batri.   Nod rhan o'r arbrawf oedd pennu a allant gyflwyno dibynadwyedd/sicrwydd ac mae angen ymagwedd fesul cam at gaffael.

2.     Mae hurio cerbyd dros gyfnod byr yn golygu nad yw'r cyngor yn gyfrifol.

3.     Nid oes polisi mewn perthynas â chael gwared ar lygredd yng nghanol y ddinas.

4.     Mae gweithwyr yn hawlio costau teithio pan fyddant yn defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion gwaith. Un opsiwn yw cynnig yr un gyfradd ar gyfer defnyddio'r ddau fath o gerbyd.

5.     Ni thrafodwyd caffael eto.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1.     Gwahodd y Swyddog Arweiniol, Mark Barrow, i gyfrannu at weithdy pwyllgor;

2.     Gwahodd cydweithwyr perthnasol o Dai, Cludiant ac Ynni i gymryd rhan hefyd; ac

3.     Y bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r Cyfarwyddwr Lleoedd cyn gweithdy pwyllgor i benderfynu ar gynllun gwaith arfaethedig.

12.

Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt.

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Pobl fod ymgynghoriadau'n dal i fod ar waith a bod tri opsiwn yn cael eu hystyried (yr opsiwn a ffefrir yw'r trydydd opsiwn).  Un o'r prif heriau oedd hyd amser cau'r ffordd yn ystod y dydd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1.     Bydd Rheolwr Canol y Ddinas yn bresennol yn y cyfarfod nesaf i ddarparu'r diweddaraf ar y cynnydd; a

2.     Bydd y Cyfarwyddwr Lleoedd yn e-bostio'r aelodau mewn perthynas ag adborth o'r ymgynghoriad, a'r adborth a gyflwynwyd gan yr aelodau'n benodol.

13.

Cynllun Gwaith 2018 - 2019.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at eitemau'r cynllun gwaith pwysig a oedd heb eu penderfynu a drafodwyd yn y cyfarfod ar 24 Ebrill 2018.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd y byddai pwnc Cerdyn y Dinesydd yn cael ei ystyried gan PDP Cyngor y Dyfodol.  Ni chyfeirwyd at ardaloedd siopa y tu allan i'r ddinas a gellid cynnwys materion anabledd mewn polisïau eraill.

 

Penderfynwyd y dylai eitemau'r cynllun gwaith sydd i'w hystyried ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019 gynnwys:

 

Dyddiad y cyfarfod

 

Eitemau a fformat yr agenda

21/06/18

1.     Trafodaeth ar y Cynllun Gwaith.

 

19/07/18

2.     Coridor yr afon - trafod cylch gorchwyl y gweithdy (Cyfarwyddwr Lleoedd)

3.     Troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.  (Rheolwr Canol y Ddinas)

16/08/18

1.     Coridor yr afon

20/09/18

1.     Coridor yr afon

18/10/18

 

15/11/18

 

13/12/18

 

17/01/19

 

21/02/19

 

21/03/19

 

18/04/19

Adroddiad diwedd blwyddyn

I’w drefnu

1.     Strategaeth Trafnidiaeth - Aelodau i dderbyn copïau o'r adroddiadau am geisiadau Ffordd Fabian a ystyriwyd yn y Panel Ariannu Allanol

2.     Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer - Y Cadeirydd i drafod ag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni.

3.     Cerbydlu Gwyrdd - Y Cadeirydd i drafod cylch gorchwyl ar gyfer gweithdy â'r Cyfarwyddwr Lleoedd.