Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

 

 

                              

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

 

47.

Adborth Aelodau - Astudiaeth Dichonolrwydd - Troi Stryd y Gwynt yn Barth Cerddwyr.

Cofnodion:

Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r aelodau hynny a oedd wedi cyflwyno sylwadau i'r Cadeirydd drwy e-bost, yn dilyn cyflwyniad a thrafodaeth yn y cyfarfod diwethaf.

 

Dywedodd y gallai aelodau barhau i gyflwyno eu barn/sylwadau drwy e-bost iddo ef ei hun neu i'r Cadeirydd, ac y byddai'r rhain yn cael eu hanfon ymlaen at Lisa Wells.

 

Siaradodd y Cynghorwyr T M White ac L S Gibbard eto am y sylwadau a gyflwynwyd ganddynt yn electronig, gan gyfeirio at y meysydd canlynol: y posibilrwydd o ymweliad safle/tro o gwmpas yr ardal, cefnogi parth i gerddwyr yn ystod y dydd ac opsiwn un lôn, hyrwyddo Stryd y Gwynt yn well, materion ynghylch celfi stryd, casglu sbwriel, "glasu'r" ardal gwneud yn fawr o hanes a phensaernïaeth yr ardal leol.

 

Amlinellodd y Cynghorydd SM Jones y posibilrwydd o lasu'r ardal yn fwy a chyflwyno mwy o flodau i'w gwella.

 

 

48.

Adroddiad blynyddol ar gyfer 2017/18 y rhaglen waith. pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad trosolwg a oedd yn crynhoi'r testunau eang a archwiliwyd ac a drafodwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddinesig ddiwethaf.

Roedd y rhain yn cynnwys y meysydd canlynol:

·       Trosolwg o'r Fargen Ddinesig;

·       Cerdyn y Dinesydd;

·       Troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr;

·       Coridor yr Afon;

·       Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol a Thai;

·       Tai yng nghanol y ddinas;

·       Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

·       Abertawe a'r Dinas-ranbarth

·       Tai Cydweithredol

 

Mynegodd Aelodau, er eu bod yn croesawu'r amrywiaeth eang o destunau a phynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hoffent gael diweddariadau/adroddiadau cynnydd am bob un o'r meysydd pwnc uchod yn ystod y flwyddyn ddinesig nesaf, a bod angen ffocws manylach a chliriach ar rai meysydd pwnc mwy penodol er mwyn symud materion yn eu blaenau a phenderfynu arnynt.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad blynyddol ac y dylai'r cynllun gwaith ar gyfer 2018/2019 adlewyrchu'r materion a amlygwyd uchod.

 

49.

Cynllun Gwaith PDChP yr Economi ac Isadeiledd - 2018/2019. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Mynegodd yr Is-gadeirydd, yn ychwanegol at yr adborth a'r drafodaeth a gafwyd ar gyfer Cofnod 48 (uchod), y dylid ychwanegu'r holl eitemau a amlygwyd uchod at y Cynllun Gwaith er mwyn cael diweddariadau yn ystod y flwyddyn ddinesig.

 

Trafododd aelodau ymhellach y meysydd a amlinellir isod a'u hamlygu fel meysydd y gallai'r pwyllgor neu grwpiau tasg a gorffen posib ymchwilio iddynt yn fanylach yn ystod y flwyddyn:

·       Troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr; (diweddariad i gyfarfod mis Mehefin)

·       Cynigion ar gyfer Cerdyn y Dinesydd;

·       Ardaloedd siopa y tu allan i'r ddinas;

·       Materion anabledd;

·       Coridor yr Afon;

·       Cerbydlu Gwyrdd;

·       Polisi Isadeiledd Gwyrdd.

 

Mynegodd yr Is-gadeirydd y byddai'n trafod y materion a'r pynciau a godwyd uchod â'r Cadeirydd cyn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd ychwanegu'r materion a amlinellwyd uchod (ac yng Nghofnod 48) at y cynllun gwaith yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor ym mis Mehefin.