Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau.

 

38.

Cofnodion: pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

39.

Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Llafar).

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr Canol y Ddinas ddiweddariad mewn perthynas â throi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.

 

Nododd yr aelodau gefndir y cynnig.   

 

Mae cynnydd wedi bod yn gadarnhaol, cyhyd ag y mae ymgynghorwyr wedi bod yn rhan ohono ac mae cynllun gwaith wedi'i ddatblygu.  Roedd y cynllun gwaith yn cynnwys tri cham:  (i) y broses cynllunio busnes gan gynnwys ymchwil a dadansoddiad (ii) dylunio (iii) mireinio/costau a dichonoldeb cyllid.

 

Nododd Rheolwr Canol y Ddinas fod cam 1 bron wedi'i gwblhau a bod gweithdy a oedd yn cynnwys cynghorwyr a swyddogion wedi bod yn ymarfer llwyddiannus.

 

Byddai'r astudiaeth dichonoldeb yn cael ei chwblhau a'i hadrodd i'r Pwyllgor erbyn diwedd mis Ebrill/dechrau mis Mai 2018.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd Rheolwr Canol y Ddinas y canlynol:

 

·       Byddai penderfyniadau sy'n ymwneud â chyllid yn cael eu gwneud pan fydd yr astudiaeth dichonoldeb wedi'i chwblhau.  Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i godi arian drwy BID, cytundebau 106 ac opsiynau cyllid Ewropeaidd;

·       Ymgynghorir â'r Grŵp Cydgysylltu Anableddau a fydd yn cyflwyno sylwadau o ran eu dewisiadau;

·       Rhoddwyd y dasg o archwilio opsiynau o ran Stryd Caer a Stryd y Gwynt i'r ymgynghorwyr;

·       Datganodd y busnesau lleol ar Stryd y Gwynt y byddai buddion economaidd o ganlyniad i droi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr;

·       Y prif ffactor oedd y gwahaniaeth rhwng yr economi gyda'r dydd a chyda'r hwyr.  Byddai strategaeth yn cael ei datblygu er mwyn ceisio hyrwyddo arallgyfeirio mangreoedd a symud oddi wrth sefydliadau lle mae swm uchel o yfed';

·       Mae'r Heddlu'n cefnogi creu parth i gerddwyr yn gyffredinol;

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd aildrefnu astudiaeth dichonoldeb troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr ar gyfer cyfarfod 12 Ebrill 2018.

 

40.

Tai Cydweithredol - Geoff Bacon. pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Eiddo adroddiad ar Dai Cydweithredol Cyngor Abertawe.

 

Manylodd ar y cefndir, y rhesymeg, sut mae'r cynlluniau'n cael eu datblygu, ymagwedd 'lawr gwlad', sefydliadau cymunedol sy'n bodoli eisoes, mentrau 'o'r brig i'r gwaelod' a'r gefnogaeth sydd ar gael i Gyngor Abertawe.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd y Rheolwr Eiddo'r canlynol:

 

·       Byddai cylch gorchwyl yn cael ei archwilio;

·       Bydd strategaethau penodol yn cael eu datblygu er mwyn diogelu sefydliadau 'llawr gwlad';

·       Byddai gan denantiaid lai o ddiogelwch na thenantiaeth y 'Ddeddf Tai';

·       O ran cyfrifoldebau, bydd gan y Tai Cydweithredol hawliau a chyfrifoldebau clir;

 

Adroddodd y Rheolwr Eiddo mai'r cam nesaf yw cael barn fewnol ar yr ymagwedd beilot gyntaf ar sail 'o'r pen i'r gwaelod, o'r gwaelod i fyny' a phenderfynu ar bartner Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a lleoliad.  Yna, gallai polisi cyngor gael ei ddatblygu ar dai cydweithredol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Eiddo am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y byddai'r Rheolwr Eiddo'n darparu'r diweddaraf ar y cynnydd i'r pwyllgor ym mis Mai 2018.

41.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 92 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer 2017-18.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at yr eitem y Cerbydlu Gwyrdd ac awgrymodd y gallai hyn fod yn rhan o'r cynllun gwaith ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018/2019.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Lleoedd at y Fargen Ddinesig a Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Trefnu astudiaeth dichonoldeb troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr ar gyfer 12 Ebrill 2018;

2)    Trefnu Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol ar gyfer cyfarfod arbennig yng nghyfarfod mis Mai 2018;

3)    Cyflwyno adroddiad o ddatganiad sefyllfa ar waith y pwyllgor i'w gyflwyno ym mis Mai 2018.