Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

34.

Cofnodion: pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir.

35.

Yr Economi - Cyflwyniad gan Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas gyflwyniad manwl ac addysgiadol ar 'Abertawe a'r Dinas-ranbarth.... Persbectif Economaidd'.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·         Cyflwyno Abertawe...;

·         Cysylltedd;

·         Ystadegau Abertawe a'n Sectorau Strategol;

·         Y Sylfaen Fusnes;

·         Safleoedd Cyflogaeth Strategol;

·         Arloesedd, dysgu, ansawdd bywyd, diwylliant, hamdden a chwaraeon;

·         Prif ystadegau rhanbarthol;

·         Yr heriau mawr;

·         Ymateb i'r Fargen Ddinesig;

·         Gweithgareddau adfywio lleol allweddol;

·         Gweithio mewn partneriaeth;

·         Rhaglen adfywio;

·         Goblygiadau Brexit;

·         Cynllun Gweithredu Ffyniant i Bawb a Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau ac ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·         Cynhyrchedd, gwerth ychwanegol gros a chymariaethau ag awdurdodau eraill yn y rhanbarth;

·         Cysylltiadau cludiant, cysylltedd, astudiaeth dichonoldeb bosib Metro Bae Abertawe a Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar gydgysylltu rhwng rhanbarthau;

·         Prosiect y Morlyn Llanw; gwella prif borth Ffordd Fabian i'r ddinas;

·         Cynnwys cymunedau y tu allan i ganol y ddinas yn y newidiadau, gwella trafnidiaeth yng nghanol y ddinas a denu siopau mawr i Abertawe;

·         Y Fargen Ddinesig - gwella rhagolygon cyflogaeth, hyfforddiant, sgiliau a hyder wrth weithio gyda phobl oedran gweithio;

·         Effaith y prifysgolion yn Abertawe a'r gwaith sy'n cael ei wneud;

·         Potensial safle Felindre;

·         Hyder yn y broses gynllunio yn Abertawe.

 

Penderfynwyd ar y canlynol: -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Cylchredeg y cyflwyniad i'r pwyllgor.

 

36.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2017/18.

 

Ychwanegodd fod yr eitemau canlynol wedi'u cynnig ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ar 8 Mawrth 2018: -

 

1)    Troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr;

2)    Cerbydlu Gwyrdd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:  -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Ychwanegu'r eitemau ychwanegol a restrir uchod i gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer 2017/18.