Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

29.

Cofnodion: pdf eicon PDF 127 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

30.

Tai yng Nghanol y Ddinas. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol ddiweddariad i'r aelodau am rôl tai wrth adfywio canol y ddinas, gan ystyried llwyddiant y polisi yn y gorffennol ac ar hyn o bryd, a fframwaith polisi'r Cyngor sydd yn yr arfaeth.

 

Nododd y cyd-destun, cefndir y polisi (a oedd yn cynnwys adolygiad hanesyddol) a rôl tai yn y dyfodol wrth adfywio canol y ddinas.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol:

 

·       O ran llety dwysedd uchel yn y ddinas, nid oedd unrhyw reolau pendant o ran dwysedd fesul hectar;

·       Mae cyfyngiadau parcio ceir yn llac yng nghanol y ddinas ond mae'n rhaid iddynt gysylltu'n glir â'r datblygiad (ar y safle ac oddi yno);

·       Gyda gweledigaeth tra modern o fywyd, nid yw'n rhy bell i ffwrdd lle na fydd angen bod yn berchen ar gerbyd oherwydd datblygiadau mewn technoleg;

·       Bydd canol y ddinas yn newid er mwyn cynnal cymysgedd o gyfleusterau preswyl, manwerthu a hamdden ac felly'n denu pobl;

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

31.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Lleoedd drosolwg o brosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r camau arfaethedig nesaf.

 

Nododd y cefndir; angen/galw; trosolwg o'r prosiect; pecyn ariannu cenedlaethol ar lefel y DU; allbwn/canlyniadau a'r camau nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, dyma a ddywedwyd gan y Cyfarwyddwr Lleoedd,

 

·       Mae llawer o safleoedd arbrofol yn y DU, fodd bynnag, nid yw technoleg wedi symud yn ddigon cyflym (mae storfa batri wedi bod yn broblem);

·       Mae'r peilot yn ymwneud â mwy nac adeiladu tai newydd, mae hefyd yn ymwneud â gosodiadau ôl-ffitio;

·       Mae'r cynllun peilot yn debygol o gael ei fabwysiadu'n raddol o fewn y sector preifat;

·       Ni fydd unrhyw effaith ar gyllideb refeniw'r cyngor;

·       Ceir diweddariad pellach ym mis Ionawr/Chwefror 2018 pan fydd yr achos busnes wedi'i ddatblygu.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

 

32.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cynllun gwaith a chadarnhawyd y byddai Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn cyflwyno eitem ar yr Economi (yn canolbwyntio'n arbennig ar y rhanbarth a manteision gweithio mewn partneriaeth) ar 11 Ionawr 2018. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd at y cyfarfod a drefnir ar gyfer 2pm ar 8 Chwefror 2018 a nododd fod cyfarfod Arbennig o'r Cabinet wedi'i drefnu (er mwyn trafod y cyllideb) am 2pm. Oherwydd hynny, roedd yn angenrheidiol bod amser y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd yn cael ei newid er mwyn cynnal cyfarfod Arbennig o'r Cabinet.

 

Penderfynwyd:

 

1.     nodi'r cynllun gwaith;

2.     symud y cyfarfod a drefnir ar gyfer 8 Chwefror 2018 i 10.00am.