Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

25.

Cofnodion: pdf eicon PDF 134 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

 

26.

Coridor yr Afon - Cyfleoedd a Datblygiad. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

 

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd ei fod wedi rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf am y strategaeth ar gyfer coridor yr afon a oedd yn seiliedig ar y ddogfen a gwblhawyd gan Hyder yn 2006 a oedd yn nodi mai'r weledigaeth ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe oedd i "ddatblygu ardal drefol fodern, deniadol a bywiog ar lannau’r afon, gan greu lle y mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld ag e, wrth gyfalafu ar gyfraniad unigryw afon Tawe i'r Chwyldro Diwydiannol a'i ddathlu”.

 

 

I gyd-fynd â’r adroddiad a ddarparwyd yn y cyfarfod diwethaf, rhoddwyd cyflwyniad gweledol gan Gail Evans, y Prif Reolwr Adfywio, a oedd yn amlinellu’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn, y sefyllfa bresennol a gofynion y dyfodol ar gyfer pob Ardal Strategaeth o ran y canlynol:

 

·                 Ffordd Ddosbarthu'r Morfa - cynllun wedi'i gwblhau.  1.7 km o hyd a llwybr defnydd a rennir 3 metr o hyd. Cyflwynwyd hwn drwy raglen gyflwyno fesul cam a chysylltu’n agos â’r sector preifat i sicrhau arian cyfatebol.  Byddai’r buddion yn gwella mynediad i swyddi a gwasanaethau, yn agor y coridor i ddatblygiadau, yn lleihau tagfeydd a phroblemau ansawdd aer ar yr A4067 Heol Castell-nedd, yr Hafod ac yn gwella cysylltiadau cerdded a beicio.

·                 Gwaith Copr yr Hafod-Morfa  amlinellwyd yr hanes, y cyd-destun a’r camau nesaf o ran:

o     Ailddatblygu'r Tŷ Pŵer drwy benderfyniad ariannu Menter CTL sy’n ddisgwyliedig ym mis Mai 2018, gyda dyddiad cwblhau arfaethedig yn yr hydref 2021 (yn amodol ar gyllid).

o     Uwchgynllun yr Hafod-Morfa – yn seiliedig ar Uwchgynllun Purcell 2014.  Uwchgynllun ar ei newydd wedd yn cael ei ddatblygu i arwain y camau nesaf.

·                 Car Cebl Nenlinell – Mynydd Cilfái i’r Hafod – yn aros am benderfyniad gan y datblygwr o Seland Newydd. 

·                 Y Garreg Wen – edrych ar gyfleoedd eraill mewn perthynas â hamdden etc, ar ochr ddwyreiniol Abertawe,

·                 Yr Ardal Gopr– Safle Addis  – wedi’i gwblhau a gwersi wedi’u dysgu ar gyfer datblygiadau’r dyfodol.

·                 Glanfa Pipehouse  – wedi’i werthu’n amodol i Grŵp Tai Coastal.  Gallai’r safle gynnwys cymysgedd o lety sy’n diwallu anghenon tai’r ardal leol, yn ogystal â detholiad o eiddo i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ar gyfer y gymuned leol.  Byddai arolygon yn cael eu cynnal yn y misoedd i ddod i archwilio meysydd megis archaeoleg a draenio.

 

Roedd hi wedi gallu cadarnhau y byddai camau’n cael eu cymryd o ran y sylwadau a godwyd gan Aelodau yn y cyfarfod diwethaf ynghylch:

 

·                 Yr angen i gynnwys llwybrau cerdded/beicio mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol.

·                 Ystyried ehangu bywyd gwyllt yr ardaloedd.

·                 Cymeradwyo'r ceir llusg arfaethedig/Ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cylch

·                 Ymgynghoriad â defnyddwyr glan yr afon (e.e. pysgotwyr etc).

 

Amlinellodd hefyd yr ystyriaethau pellach a’r camau nesaf fel a ganlyn:

 

Mynediad ac Isadeiledd 

·                 Llwybr cerdded/beicio glan yr afon - angen cwblhau’r llwybr cerdded a beicio ar lan yr afon ar ochr orllewinol yr afon, a chreu cysylltiadau priodol â blaen yr afon o gymunedau cyfagos.

·                 Glannau dwyreiniol yr afon/Llwybr beicio'r dwyrain - parc treftadaeth a chyfleoedd bywyd gwyllt/bioamrywiaeth. Ystyried cyfleoedd hamdden priodol sy’n gyfyngedig o ran maint ar yr ochr ddwyreiniol.

·                 Darpariaeth parcio a theithio amgen i ryddhau lle a’r potensial ar gyfer datblygiad/gwelliannau o gwmpas cyrchfan Gwaith Copr yr Hafod/Morfa.

 

Hamdden a Threftadaeth

·                 Mynydd Cilfái - angen ymagwedd gynaliadwy at ddefnyddiau hamdden newydd, gwella mynediad a rheoli ar gyfer yr ardal ehangach. Mae ymgynghoriadau’n mynd rhagddynt â CNC a pherchennog tir preifat.

·                 Cyllid i sicrhau'r dyfodol a defnydd cadarnhaol o adeiladau rhestredig amlwg a nodweddion treftadaeth, ynghyd â’u cynnal (e.e. Ceisiadau CTL am arian cyfatebol)

·                 Anghenion isadeiledd a gwasanaeth ar gyfer datblygiad newydd, a mesurau lliniaru’r perygl o lifogydd

·                 Potensial cyfleoedd hamdden dŵr, cyfleoedd treftadaeth a dehongli nad oes neb wedi manteisio arnynt. Bwriedir cynnal ymgynghoriad pellach a chyfleoedd cyllid ar gyfer adeileddau pontŵn ar yr afon.

 

Datblygiadau a Gwelliannau Amgylcheddol

·                 Annog defnyddiau tir addas a chymysg. A allai fod unrhyw gyfleoedd datblygu ychwanegol?

·                 Heriau dylunio/cynllun oherwydd ffurfwedd y safleoedd. Unrhyw gyfleoedd datblygu ychwanegol?

·                 Unrhyw ofynion ar gyfer gwelliannau amgylcheddol megis sgrinio drwy blannu saernïol, i wella golygfeydd ac amwynder.

 

Gwnaeth aelodau sylwadau ar yr eitemau isod:

 

·                 Yr angen am fwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol drwy ddatblygiadau masnachol, diwydiant ysgafn a defnydd cymysg yn y cynllun;

·                 Yr angen am groesfan gyswllt arall ar draws yr afon i gerddwyr/feicwyr er mwyn cysylltu St Thomas â chanol y ddinas i osgoi pontydd afon Tawe sy’n ddryslyd a lle ceir tagfeydd yn aml.

·                 Adfer y pontydd gwrthbwys.

·                 Bioamrywiaeth ar yr ochr ddwyreiniol – e.e. parc eco/gwarchodfa natur fach, wedi’i rheoli â chydymdeimlad a’r posibilrwydd o gynnwys arbenigwyr perthnasol mewn astudiaeth o rywogaethau planhigion/bywyd gwyllt presennol.

·                 Mwy o waith ymchwilio i gysylltu â chytundebau A106 er mwyn sicrhau mynediad i lannau’r afon – gweithio gyda pherchnogion tir.

·                 Sicrhau bod llwybrau mynediad, yn enwedig llwybrau troed/beicio yn ddiogel i ddefnyddwyr.

·                 Llwybr mynediad o’r Morfa i faes parcio’r Garreg Wen.

·                 Ymgynghoriad cynhwysol â’r holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pysgotwyr, ceidwaid, Wheelrights, defnyddwyr llwybrau ceffyl etc.

·                 Ymholiad ynghylch a ellid rhannu’r safle ailddatblygu tai posib yn lleiniau llai i’w prynu’n breifat e.e. perchnogion tai a allai gael eu mynediad eu hunain i bontŵn ar lan yr afon (y tir gorau).

·                 A fyddai’r datblygiad tai’n cynnwys tai fforddiadwy neu gymysg.

·                 Datblygiad/oriel addysgol i ysgolion astudio ynddynt neu eu defnyddio.

·                 Yr angen i ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn osgoi arwahanrwydd o ran mynediad, parcio ac isadeiledd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd :

 

1.               Nodi'r cyflwyniad;

2.               Rhannu copi o'r cyflwyniad ag aelodau'r pwyllgor;

3.               Y dylai swyddogion fwrw ymlaen â’r cynlluniau ond os bydd unrhyw anawsterau’n codi yn ystod y broses, dylid rhoi gwybod i’r pwyllgor amdanynt er mwyn eu hystyried ymhellach.

 

 

27.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

 

Awgrymodd y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwr Lleoedd y diwygiadau canlynol i’r cynllun gwaith:

 

07/12/17

Tai yng nghanol y ddinas

Lee Morgan, Phil Holmes, Huw Mowbray

07/12/17

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

 

Martin Nicholls

11/01/18

Yr Economi

Phil Holmes (a gwahoddiad i gynrychiolwyr busnes)

08/02/18

Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol (agweddau allweddol, astudiaeth dichonoldeb ranbarthol)

Stuart Davies a Ben George

08/02/18

Strategaeth Coridor yr Afon

Phil Holmes a Huw Mowbray

I’w drefnu

Bargen Ddinesig

Troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr

Phil Holmes

Lisa Wells

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig.