Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd V M Evans – Personol - Cofnod Rhif: 20 - mae coridor yr afon ar ymyl fy ward.

 

Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Personol - Cofnod Rhif: 20 - coridor yr afon - Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Abertawe.

 

Y Cynghorydd T M White – Personol - Cofnod Rhif: 20 - coridor yr afon - mae coridor yr afon ar ymyl fy ward.

 

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 120 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14 Medi 2017 fel cofnod cywir yn amodol ar sylwadau'r Cynghorydd P R Hood-Williams ynghylch y posibilrwydd o gynnwys creu ardal gerdded i gerddwyr rhwng Sgwâr y Castell a Stryd y Gwynt yn yr astudiaeth dichonoldeb.

20.

Coridor yr Afon. (trafodaeth)

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Lleoedd fod y strategaeth ar gyfer coridor yr afon yn seiliedig ar yr hen ddogfen a gwblhawyd gan Hyder yn 2006 a oedd yn nodi mai'r weledigaeth ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe oedd i "ddatblygu ardal drefol fodern, deniadol a bywiog, gan greu lle y mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld ag e, wrth gyfalafu ar gyfraniad unigryw Tawe i'r Chwyldro Diwydiannol a'i ddathlu.

 

Cyfeiriodd at yr 14 o brif amcanion a chynigion a nodwyd yn yr astudiaeth wreiddiol o goridor yr afon a oedd yn seiliedig ar nifer o strategaethau ardaloedd.

 

Manylodd ar y sefyllfa bresennol a gofynion y dyfodol ar gyfer pob ardal strategaeth fel a nodwyd isod:

 

·       Ffordd Ddosbarthu'r Morfa - cynllun priffyrdd wedi'i gwblhau.

·       Ardal Ffordd y Morfa - ardal gymysg safon uchel o ddefnyddiau preswyl, masnachol a diwydiant ysgafn, sy'n manteisio i'r eithaf ar y lleoliad ardderchog ar lan yr afon, agosatrwydd yr ardal i ganol y ddinas a'r glannau ac sydd hefyd yn dathlu ac yn dehongli treftadaeth yr ardal.

Gwaith gwaredu a cheisiadau/trafodaethau cynllunio yn dal ar waith - gwerthu Glanfa Pipehouse i Coastal Housing a thrafodaethau cyn cynllunio ar safleoedd eraill.

·       Safle Gwaith Copr yr Hafod - Cynigir datblygiad defnydd cymysg, integredig ar y safle sy'n diogelu isadeiledd treftadaeth, yn dehongli hanes diwylliannol ac yn dod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer adeiladau treftadol, datblygiadau newydd sy'n manteisio i'r eithaf ar y lleoliad ac yn darparu amgylchedd byw o safon sy'n cryfhau cysylltiadau â'r gymuned. Dal ati gyda chynllun Penderyn a'r gwaith pellach cynlluniedig gan gynnwys gwerthu tir DASA.

·       Ystâd Ddiwydiannol Heol Normandy -  cadw fel lleoliad ar gyfer cyflogaeth a diwylliant, wrth ehangu'r safle'n weledol, lleihau'r effaith weledol ar ddefnyddiau tir cyfagos a buddsoddi mewn gwelliannau i eiddo.

·       Safle Addis - wedi'i ailddatblygu/gwblhau.

·       Upper Bank/Llyn Pluck - Annog cymysgedd amrywiol o ddefnydd tir i adfywio safle Upper Bank, cynllun Upper Bank/Coedwig Brunel (datblygiadau Highgrove), Llyn Pluck a Choetir Cilfái y mae angen Cynllun Rheoli arnynt a nodi cyfle datblygu addas yn Llyn Pluck.

·       Glan yr afon -  mwyafu potensial yr afon fel adnodd ar gyfer y ddinas - ar gyfer hamdden a thrafnidiaeth dŵr, hamdden ar lan yr afon a gwella llwybrau cerdded a beicio ar hyd y cwm - angen rhagor o waith.

 

Wrth ystyried Gwaith Copr yr Hafod (HCW) (Astudiaeth Purcell 2014), mae Strategaeth HCW yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ynghyd â pharatoi briffiau safleoedd unigol ar gyfer y safleoedd ar lan yr afon at ddibenion marchnata.  Mae'r ardal astudiaeth yn cynnwys cais HDL a chynllun Penderyn.  Mae'r ardal ddatblygu yn gofyn am waith lliniaru llifogydd a lliniaru oddi ar y safle (JBA 2017)

 

Roedd Adolygiad Drafft Cynllun Adnau Lleol Abertawe (2016) yn cynnwys polisïau lefel uchel ar gyfer Coridor Glannau'r Tawe fel Ardal Datblygu Strategol - sy'n cynnwys cyfeiriad at Waith Copr yr Hafod ac Iard Orsaf San Thomas.

 

Cysylltiadau Eastside Abertawe - (Mai 2015) Archwiliodd dogfen Cyfoeth Naturiol Cymru a baratowyd gan Trilein i botensial afon Tawe Isaf, Mynydd Cilfái, Cors Crymlyn a Chamlas Tennant a chysylltiadau'r mannau gwyrdd â'i gilydd a'r cymunedau cyfagos.

 

Nododd yr aelodau ddiddordeb presennol, mewn perthynas â Skyline/Skyluge, gan ddatblygwr o Seland Newydd mewn car/gondola cebl, car llusg ac adeiladau masnachol. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol ac ymweliad safle lle nodwyd llwybr dangosol y car cebl o bwynt uchaf mynydd Cilfái i lawr at Waith Copr yr Hafod. Mae'r cynnig yn cynnwys tirddaliad preifat ar Fynydd Cilfái a thir sy'n berchen i'r cyngor/tir sy'n cael ei brydlesu gan CNC. Mae'n gofyn am ddatrysiad datblygiad cynaliadwy yng nghyd-destun ei leoliad gwledig, ac mae angen ystyried blaenoriaethau datblygu a threftadol safle Gwaith Copr yr Hafod.

 

Manylodd ar yr ystyriaethau canlynol:

 

·     Cwblhau llwybr cerdded glan yr afon ac ochrau'r afon/cei - Perchnogaeth breifat gymysg, graddoli cyllideb - cysondeb dylunio/gorffeniad mannau cyhoeddus.

·     Cyllideb i sicrhau defnydd cadarnhaol yn y dyfodol a gwaith cynnal a chadw adeiladau rhestredig a rhinweddau treftadol a llwybrau glan yr afon/mannau cyhoeddus (e.e. Ceisiadau CTL am arian cyfatebol).

·     Cysylltiadau cymunedol, cysylltiadau cerddwyr a beicwyr er mwyn croesi'r afon a chynnwys datblygiadau newydd ar lan yr afon.

·     Anghenion isadeiledd a gwasanaeth a mesurau rheoli perygl llifogydd.

·     Cynlluniau/cysylltiad â mynediad a dyluniad Ffordd Ddosbarthu'r Morfa newydd.

·     Materion/amodau halogi archaeoleg a thir sy'n effeithio ar y mwyafrif o safleoedd.

·     SoDdGA dynodedig newydd yn ardal Llyn Pluck.

·     Potensial cyfleoedd hamdden dŵr, cyfleoedd treftadaeth a dehongli nad oes neb wedi manteisio arnynt.

·     Annog defnyddiau tir addas a chymysg.

·     Heriau dylunio/cynllun oherwydd ffurfwedd y safleoedd.

·     Mynydd Cilfái - angen ymagwedd gynaliadwy at ddefnyddiau hamdden newydd, gwella mynediad a rheoli ar gyfer yr ardal ehangach.

·     Hen lethr sgïo y tu ôl i Morrisons - difeithdra.

 

Roedd sylwadau'r aelodau'n cynnwys:

 

·       Yr angen i gynnwys llwybrau cerdded/beicio mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol.

·       Ystyried ehangu bywyd gwyllt yr ardaloedd.

·       Cymeradwyo/ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y ceir llusg arfaethedig.

·       Ymgynghoriad â defnyddwyr glan yr afon (e.e. pysgotwyr etc).

 

Diolchodd y cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd trafod y mater yn y cyfarfod nesaf.

21.

Strategaeth Cludiant y Dyfodol a Thai. (trafodaeth)

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Cludiant a oedd wedi'i gynorthwyo gan Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth, George, gyflwyniad am Strategaeth Trafnidiaeth y dyfodol.

 

Manylodd y Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth;

 

·       Cyd-destun - Sut mae'r Strategaeth Trafnidiaeth yn gweithio.

·       Trefniadau gweithio rhanbarthol.

·       Ffrydiau ariannu allanol.

·       Gwariant cyfalaf 2016/17.

·       Proses y cais am arian.

·       Heriau - swm y traffig ffyrdd yn Abertawe.

·       Dinas sy'n tyfu.

·       Heriau polisïau.

·       Tensiynau'r polisi trafnidiaeth.

·       Manteision gwirioneddol.

·       Dinasoedd gwych 2025.

·       Cyfleoedd allweddol a'r camau nesaf.

·       Datblygu'r defnydd o gludiant ac isadeiledd yn Abertawe.

·       Parcio a'r strategaeth trafnidiaeth integredig.

·       Trefniadau siopa rhanbarthol.

·       Prif gynllun strategaeth canol y ddinas.

 

Heriau/ystyriaethau sydd wedi'u cynnwys: diffyg arian; dyletswydd i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; blaenoriaethu cynlluniau yn unol ag amcanion corfforaethol y cyngor; tagfeydd (yn enwedig yn yr ardaloedd critigol megis Ffordd Fabian); datblygu a hyrwyddo'r defnydd o feiciau yng nghanol y ddinas drwy gyflwyno gorsafoedd beidio ar gyfer llogi beiciau a gwaith parhaus gyda First Cymru. 

 

Er ei bod hi'n bwysig ystyried y dyfodol, mae angen dod o hyd i atebion tymor byr a chanolig. Mae'r tîm adfywio yn comisiynu astudiaeth ar hyn o bryd sy'n edrych ar brif gynlluniau canol y ddinas ac anghenion parcio. Bydd hwn ar gael yn y misoedd nesaf. Bydd hyn yn cael ei adrodd yn ol i'r tîm craffu unwaith y bydd yn cael ei gwblhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1.     Nodi'r cyflwyniad.

2.     Rhannu copi o'r cyflwyniad ag aelodau'r pwyllgor.

3.     Cynnwys canlyniadau'r astudiaeth dichonoldeb yn y cynllun gwaith.

22.

Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Diweddariad ar lafar)

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod nesaf.

23.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018.

Cofnodion:

Awgrymodd y Cadeirydd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd y pynciau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol:

 

09/11/17

Troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr.

Lisa Wells

09/11/17

Cyfleoedd a datblygu coridor yr afon

Phil Holmes a Huw Mowbray

07/12/17

Tai yng nghanol y ddinas.

Lee Morgan, Phil Holmes a Huw Mowbray

11/01/18

Strategaeth Trafnidiaeth y Dyfodol (agweddau allweddol, astudiaeth dichonoldeb ranbarthol).

Stuart Davies a Ben George

 

11/01/18

Strategaeth Coridor yr Afon 

Phil Holmes a Huw Mowbray

I’w drefnu

Y Fargen Ddinesig

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer.

 

Penderfynwyd cynnwys y pynciau a nodwyd uchod yng Nghynllun Gwaith 2017/2018.