Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services - Tel: 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

14.

Cofnodion: pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi ar yr Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 10 Awst 2017 fel cofnod cywir.

15.

Cerdyn Dinesydd. (Cyflwyniad - Sarah Caulkin).

Cofnodion:

Wedi'i chynorthwyo gan Arweinydd y Tîm Meddalwedd, bu'r Cyfarwyddwr Adnoddau'n trafod datblygu Cerdyn Dinesydd neu Gerdyn Gostyngiad Preswylydd a fyddai'n darparu modd i breswylwyr Abertawe a rhai o'r tu allan i Abertawe ryngweithio â gwasanaethau ar-lein Abertawe a defnyddio cyfleusterau hamdden.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol:

 

·       Byddai'r Cerdyn Dinesydd ar gael i unigolion o oed pleidleisio.

·       Bydd cyflwyno'r Cerdyn Dinesydd yn cysylltu'r wefan rheng flaen â'r swyddfa gefn ac yn galluogi unigolion i gyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau (e.e. adrodd am dipio anghyfreithlon, talu Treth y Cyngor, cyflwyno ceisiadau am swyddi gwag). Yn ogystal, byddai'n galluogi defnyddwyr i gael mynediad i ostyngiadau ar gyfleusterau'r cyngor a'i bartneriaid.

·       Byddai opsiwn i ddefnyddio'r cerdyn gostyngiad ar 'ap' ffôn clyfar neu fel cerdyn ffisegol.

·       Gallai'r system ryngwynebu Modern.Gov â System Rheoli Gwaith Achos y Cynghorwyr (CCMS) a fyddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gynghorwyr drwy gysylltu gwybodaeth.

·       Byddai'r cerdyn yn cynorthwyo'r cyngor wrth reoli a diogelu data yn unol â deddfwriaeth newydd a ddaw i rym ym mis Mai 2018.  Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cosbi sefydliadau nad oes ganddynt broses a gweithdrefnau priodol ar gyfer rheoli data.

·       Byddai'r cerdyn yn cysylltu â systemau rheoli Rhyddid Gwybodaeth sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

·       Bydd gweithwyr perthnasol yr awdurdod yn cadw gwybodaeth a ddarperir gan ddinasyddion, na fyddai'n cynnwys data sensitif.

·       Gallai gweithwyr yr awdurdod gael mynediad i wybodaeth wrth wneud eu gwaith yn unig, fel rhan o'u hamodau a'u telerau dan ddeddfwriaeth diogelu data.  Byddai uniondeb sylweddol o ran diogelwch cofnodion sylfaenol.

·       Byddai dinasyddion yn cael yr opsiwn o gadw eu gwybodaeth neu fel arall gallant ei mewnbynnu bob tro y maent yn defnyddio'r system.

·       Croesewir awgrymiadau ar gyfer enw gwell.

·       Caiff grŵp defnyddwyr ei sefydlu gyda chynghorwyr er mwyn gwella llif gwybodaeth.

·       Er gwaethaf cyflwyno'r Cerdyn Dinesydd, byddai amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cyfathrebu â'r cyngor yn dal i gael eu cynnig i aelodau'r cyhoedd.

·       £50,000 fyddai'r gost sefydlu yn ogystal â £700 y mis. Nid yw cost y cardiau ffisegol wedi'i chadarnhau eto, ond ni ddisgwylir iddynt fod yn ddrud iawn. Hefyd, rhagwelir y bydd llawer o unigolion yn dewis defnyddio 'ap' ffôn clyfar.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Y bydd Arweinydd y Tîm Meddalwedd yn gwahodd pob cynghorydd i fod yn rhan o grŵp defnyddwyr System Rheoli Gwaith Achos y Cynghorwyr (CCMS);

2)    Y dylid nodi'r adroddiad.

16.

Cynllun Creu Parth Cerddwyr Stryd y Gwynt. (Cyflwyniad - Lisa Wells).

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolaeth Canol y Ddinas yr wybodaeth ddiweddaraf am droi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.

 

Dywedodd fod y cynllun wedi'i ystyried yn wreiddiol gryn amser yn ôl pan oedd posibilrwydd o gyllid Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae'r cyllid wedi'i ailgyfeirio at gynllun arall.

 

Roedd cynrychiolwyr Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe yng nghanol y ddinas wedi lobïo'r cyngor, gan dynnu sylw at y manteision economaidd a allai ddeillio o gyflwyno'r cynllun.

 

Roedd gwerthusiad gan Reolaeth Canol y Ddinas ar ran yr Is-adran Priffyrdd wedi tynnu sylw at gefnogaeth gynhwysol. Roedd busnesau a phreswylwyr o'r farn y byddai'n gwella ffyniant y ddinas ac yn cynnig arallgyfeirio o ran:  y galw gwahanol rhwng yr economi ddydd a'r economi nos; cynyddu nifer yr ymwelwyr â lleoliadau drwy annog pobl nad ydynt yn breswylwyr i ddod i'r ardal; newidiadau ym marn pobl am yr ardal; gwelliannau i olwg yr ardal a mwy o ddiogelwch.

 

Yn ystod yr ymgynghoriad, anogwyd busnesau i gyflwyno atebion i dagfeydd traffig a chefnogi ymwelwyr hŷn ac anabl, a oedd wedi'u nodi'n bryderon.

 

Cyflwynwyd canlyniadau'r ymgynghoriad i'r PCC blaenorol ar Ddatblygu, gyda'r argymhelliad y dylid datblygu astudiaeth dichonoldeb.

 

Trosglwyddwyd y prosiect i Dîm Rheolaeth Canol y Ddinas ym mis Gorffennaf 2017. Ers y trosglwyddiad, sicrhawyd cefnogaeth ehangach i ymgymryd â'r astudiaeth dichonoldeb a phrofi opsiynau ar gyfer creu parth i gerddwyr. Byddai'r astudiaeth dichonoldeb yn nodi sut gellid datblygu ac ariannu'r cynllun. Mae cyllid ar gyfer yr astudiaeth dichonoldeb wedi'i sicrhau drwy bartneriaeth â BID Abertawe ac roedd cyfarfod wedi'i drefnu o fewn yr wythnos nesaf i lunio cynllun.

 

Roedd yr ymgynghoriad wedi cyflwyno cyfeiriad clir er mai cyllid yw'r her fwyaf yn ôl pob tebyg. Mae opsiwn ar gyfer tri model, sef cynlluniau efydd, arian ac aur. Mae angen ystyried y rhaglen adfywio helaeth sydd yn yr arfaeth ar gyfer canol y ddinas a sut byddai'r cynllun hwn yn cyd-fynd â'r cyd-destun ar gyfer cyflwyno'r rhaglen ehangach.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nododd Rheolwr Canol y Ddinas y canlynol:

 

1)    Mae gan y rhan fwyaf o fusnesau Stryd y Gwynt fynediad cefn ar gyfer dosbarthu nwyddau ac maent yn barod i weithio gyda'r cyngor i nodi atebion. Byddai busnesau ar eu hennill gan y gellid arallgyfeirio'r ardal a'i gwneud yn fwy deniadol i ddefnyddwyr eistedd yn yr awyr agored/wylio digwyddiadau awyr agored, etc.

2)    Cynllun creu parth i gerddwyr yw'r un efydd, gan ehangu'r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd (e.e. defnyddio bolardiau ac ychydig iawn o waith ar yr isadeiledd), a byddai'n rhad. Mae'r un arian yn cynnwys portreadu'r strydlun ac yn ceisio creu'r argraff fod yr ardal yn un i gerddwyr yn y cynllun presennol. Mae'r un aur o'r un safon â'r hyn a geir mewn dinasoedd mawr (Caerdydd, Barcelona).

3)    Byddai angen i'r astudiaeth dichonoldeb ystyried y broses o gydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

4)    Nid oes unrhyw safleoedd tacsi ar Stryd y Gwynt ar hyn o bryd; fodd bynnag, mae safleoedd cyfagos yn gwasanaethu'r ardal.

5)    Nid oes unrhyw arwydd clir o'r costau cysylltiedig â'r cynllun efydd, arian ac aur. Byddai hyn yn un o nodau'r astudiaeth dichonoldeb.

6)    Mae gan Stryd y Gwynt statws 'Baner Borffor' sy'n destun anrhydedd yn yr economi nos ac yn dangos bod yr ardal wedi bodloni'r safonau gofynnol. Mae gwaith partneriaeth yn parhau i newid barn pobl am Stryd y Gwynt a'r ardaloedd ymylol. Mae ystadegau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nodi bod Stryd y Gwynt yn fwy diogel nag erioed ac mae'r Faner Borffor yn achredu hynny'n ffurfiol. Mae troi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr yn rhan o waith mwy sylweddol o ran y Faner Borffor a datblygu strategaeth tymor hir ar gyfer sector yr economi gyda'r hwyr a'r nos.

7)    Mae cyflwyno mathau gwahanol o fusnesau wedi newid o'r sefydliadau yfed alcohol sylweddol ar sefyll blaenorol. Mae busnesau'n ystyried anghenion y defnyddiwr sy'n galw am brofiad llawer mwy hamddenol gyda newid i strydlun a naws yr ardal.

8)    Mae pryderon yn deillio o rai busnesau a bydd angen gwneud gwaith i ymdrin â'r materion hyn fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb.

9)    Mae'r holl sylwadau gan fusnesau a phreswylwyr a ddaeth i law wedi'u cynnwys mewn ardal i'r PCC ar Ddatblygu petai aelodau'r pwyllgor am eu gweld.

10) Ffordd tymor byr a thymor hir o ystyried arallgyfeirio'r economi gyda'r hwyr a'r nos. Mae'r ffordd tymor byr yn cynnwys gweithgareddau a gynhelir ar ôl 4pm ac yn cyflwyno digwyddiadau stryd megis Penwythnos Mawr Abertawe, a fydd cyn bo hir yn dathlu'r economi gyda'r hwyr a'r nos ac yn cynnwys bwyd stryd a digwyddiadau dros dro. Y ffordd tymor hir fyddai gwella'r amrywiaeth a gynigir drwy'r cynlluniau adfywio sy'n cael eu datblygu, h.y. yr arena a safle Dewi Sant.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chyflwyniad addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

17.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018.

Cofnodion:

Ceisiodd y Cadeirydd gyngor y Cyfarwyddwr Lleoedd ar eitemau'r cynllun gwaith.

 

Yna bu trafodaeth ynghylch strategaeth cludiant y dyfodol, mwy o gartrefi a darparu tai fforddiadwy ac yng nghanol y ddinas (gan archwilio cysylltiadau rhwng y cynllun cludiant a thai fforddiadwy), ac adfywio coridor yr afon (y gwaith copr).

 

Penderfynwyd y byddai'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfodydd y dyfodol ar:

 

1)    Strategaeth cludiant y dyfodol a thai; a

2)    Choridor yr Afon.