Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

10.

Cofnodion: pdf eicon PDF 55 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

11.

Trosolwg o'r Fargen Ddinesig. (Cyflwyniad-Phil Holmes).

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas drosolwg cynhwysfawr i'r pwyllgor o Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Fel rhan o'r cyflwyniad, disgrifiodd y meysydd canlynol yn fanwl:

 

·       Hanes cefndirol y cais;

·       Y cytundebau a'r trefniadau partneriaeth sydd ar waith rhwng yr awdurdodau lleol amrywiol, prifysgolion, cyrff cyhoeddus, diwydiant preifat a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

·       Prif nodau a heriau'r prosiect;

·       Y gweledigaethau, yr effeithiau disgwyliedig a'r ymyriadau cynlluniedig;

·       Cyd-fynd â Strategaeth Ddiwydiannol y DU;

·       Nodau i gyflwyno prosiectau a chreu swyddi;

·       Dadansoddi cyllid a buddsoddiad o arian y Fargen Ddinesig a buddsoddiad diwydiant preifat ar gyfer pob cynllun;

·       Enillion arfaethedig o'r buddsoddiad, a nodau ac amcanion y prosiectau

·       Blaenlwytho arian awdurdodau lleol i roi hwb i brosiectau;

·       Cynigion Rhanbarth Arloesedd Clyfar Iawn gan gynnwys Campws a Phentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, Canolfan Gwyddoniaeth Dur, Ffatri'r Dyfodol, Cartrefi fel Pwerdai a Phrosiect Morol Doc Penfro;

·       Model Busnes 5 Achos sy'n cael ei baratoi ar gyfer pob cynllun ar hyn o bryd;

·       Y Fenter Sgiliau a Doniau a arweinir gan Bartneriaeth Ranbarthol Dysgu Sgiliau;

·       Isadeiledd Digidol Rhanbarthol;

·       Datblygiad o Ganolfannau Rhagoriaeth yng Ngwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf;

·       Cysylltiadau ag S4C i ddatblygu Clwstwr Digidol Creadigol "Yr Egin";

·       Adfywio Canol Dinas Abertawe a Phrif Brosiectau a gynhwysir yn y prosiect hwnnw: Arena, Gwesty, Maes Parcio Aml-lawr, Gwely Prawf Cyfathrebiadau Symudol 5G ac adfywio safle Dewi Sant;

·       Datblygu Ardal Fusnes Ddigidol y Glannau;

·       Ardal Ddigidol Ffordd y Brenin;

·       Amserlenni Cyflwyno;

·       Trefniadau Llywodraethu.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, a ymatebodd yn briodol. 

 

Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r pynciau canlynol yn bennaf: -

 

·       Dadansoddi cyllid y Fargen Ddinesig;

·       Isadeiledd cludiant cyhoeddus;

·       Tystiolaeth o gynaladwyedd wrth ystyried llesiant a'r amgylchedd; a

·       Mynd i'r afael â'r bwlch GVA.

 

Diolchodd y cadeirydd i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

12.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Datganodd y cadeirydd y byddai'r canlynol yn eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf:

 

1)    Cerdyn Dinesydd; a

2)    Chynllun Creu Parth Cerddwyr ar Stryd y Gwynt.

 

PENDERFYNWYD nodi’r eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.