Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 50 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi a Buddsoddiad a gynhaliwyd ar 25 Mai 2017 fel cofnod cywir.

7.

Y Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.)

Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol yr Economi ac Isadeiledd y cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n briodol.

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y cylch gorchwyl ar gyfer Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi yr Economi ac Isadeiledd a datganodd y gallai'r PDCP gyfethol eraill i'r pwyllgor ar gyfer pwnc neu am dymor pe bai'r pwyllgor yn ystyried bod eu hangen hwy arnynt.

 

Amlinellodd i'r aelodau'r cefndir a’r rhesymeg dros gyflwyno'r Pwyllgorau Datblygu a Chyflwyno Polisi (PDCP).

 

Y bwriad yw y byddant yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi a sicrhau cyflwyniad, yn bennaf drwy ymrwymiadau polisi'r cyngor sydd i'w mabwysiadu gan y cyngor ar 27 Gorffennaf 2017. Y nod yw y bydd y pwyllgorau'n gweithredu er mwyn i aelodau a swyddogion gydweithio gydag ymagwedd glir gan aelodau tuag at gyflwyno Blaenoriaethau Corfforaethol.

 

Manylwyd ar y gwahaniaeth amlwg rhwng y PDCP a Chraffu ynghyd â sut maent yn wahanol i'r PCC blaenorol gan y byddant yn cael eu harwain gan y Blaenoriaethau Corfforaethol drwy'r cadeirydd ac nid Aelod y Cabinet. Serch hynny, bydd cysylltiadau agos yn parhau gyda phroses y Cabinet ac Aelod y Cabinet.

 

Dylai'r PDCP geisio darparu canlyniadau clir ar ôl cyflwyno ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth a dylai geisio osgoi unrhyw ddyblygiad o waith â'r 4 PDCP arall er gall cydweithio fod yn angenrheidiol mewn rhai pynciau. 

 

PENDERFYNWYD NODI’R cylch gorchwyl.

8.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (Trafodaeth). pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Awgrymodd y cadeirydd y dylid gohirio'r Cynllun Gwaith ar gyfer 2017/2018 tan y cyfarfod nesaf gan fod y Datganiad Ymrwymiad Polisi'n cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 27 Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r cynllun gwaith ar gyfer 2017/18 tan y cyfarfod nesaf ar 10 Awst 2017.