Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 224 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

17.

Gwybodaeth Bellach a Thueddiadau Data Dysgwyr Diamddiffyn. (Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Rhoddodd Lisa Collins gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol am faterion amrywiol sy'n ymwneud â dysgwyr sy'n agored i niwed.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

         Pwy yw'r plant sy'n agored i niwed - ymyriadau statudol – amddiffyn plant/plant sy'n derbyn gofal (LAC), plant y mae angen gofal a chymorth arnynt a phlant anabl/ag anawsterau dysgu;

         Diffiniad o fod yn agored i niwed – bod yn agored i niwed yn erbyn hawlogaeth, sefydlu lleoliadau gofal plant brys mewn ysgolion yn dilyn y cyfnod clo cychwynnol, sgôr CMG ac adroddiadau monitro wythnosol ar bobl ifanc sy'n agored i niwed;

         Gwell cydweithio a threfniadau gweithio - cysylltiadau a ddatblygwyd gyda'r adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg drwy un pwynt cyswllt (SPOC), ail-lunio rolau ar gyfer staff lles addysg i gynorthwyo gyda dosbarthu bwyd, proses ddwysáu ar gyfer ffyrdd newidiol o fod yn agored i niwed, busnes fel arfer – prosesau diogelu, gweithdrefnau myfyrio ac adolygu, lefelau cyfathrebu gwell i ysgolion/rieni/staff ac effaith y symudiad i ddysgu cyfunol a'r heriau gwahanol ac enfawr a gafwyd o ganlyniad;

         Gwersi a ddysgwyd - asesiadau proffesiynol amrywiol o fod yn agored i niwed, mae plant ag ymyriadau statudol yn flaenoriaeth, nid oes unrhyw un ymagwedd sy'n addas i bawb, mae angen cydweithio i gefnogi teuluoedd a defnyddio'r gwahanol fframweithiau sydd ar gael;

         Ffordd ymlaen wedi'i chynllunio - polisïau a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant, defnyddio cynllunio gofal i ymateb i'r ffyrdd newidiol o fod yn agored i niwed (Plant y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt, PDG, Diogelwch, Lles), hyrwyddo'r berthynas SPOC i gefnogi asiantaethau, grymuso ysgolion i uwchgyfeirio pryderon ac adeiladu cynllun wrth gefn.

         Tymor yr hydref 2021 - Niferoedd cynyddol o blant sy'n agored i niwed, rheoli ymddygiad heriol, datblygu ymateb lles i ddisgyblion sy'n wynebu cael eu gwahardd, diogelu cyd-destunol, prosesau wedi'u sefydlu a'u hymgorffori

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y gwaith a wnaed yn ystod gwahanol gyfnodau'r cyfyngiadau symud amrywiol, ac ymatebodd y Swyddog yn unol â hynny.

 

Unwaith eto talodd yr Aelodau deyrnged i'r holl staff yn yr adran a holl staff yr ysgolion am eu hymdrechion yn ystod y pandemig parhaus, a'u canmol.

 

18.

Data ac Ystadegau Gwaharddiadau. pdf eicon PDF 199 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Rhoddodd Kate Phillips gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol yn ymwneud â materion a ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar faterion yn ymwneud â gwaharddiadau ysgol.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn ystod y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

·         Categorïau gwahardd a nifer y bobl ifanc yr effeithir arnynt ym mhob diffiniad/categori;

·         Beth sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael eu gwahardd – newid ysgol/coleg, tiwtora gartref, atgyfeiriad i Uned Cyfeirio Disgyblion a defnyddio arbenigedd staff yn yr uned;

·         Rheoli symudiadau, rheolau a gweithdrefnau sydd ar waith i gynorthwyo pobl ifanc sydd mewn argyfwng yn aml, nifer yr ysgolion dan sylw;

·         Canlyniadau a goruchwylio symudiadau a chynnydd pobl ifanc;

·         Cynlluniau cymorth bugeiliol (CCB)– dogfen sy'n cael ei llunio ar sail unigol ar gyfer y bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu gwahardd;

·         Strategaethau ymyrryd yn gynnar ac atal – ymagwedd a mentrau ysgol gyfan sy'n helpu ac yn cefnogi'r CCB, goblygiadau'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys wrth symud ymlaen, polisi ymddygiad, hyfforddiant staff sydd ar gael, strategaeth lleihau gwaharddiadau, polisi darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn cael ei ddatblygu;

·         Astudiaethau achos ac enghreifftiau o adborth gan bobl ifanc sydd wedi bod drwy'r system.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y broses wahardd a'r gefnogaeth sydd ar waith ar gyfer pobl ifanc, ac ymatebodd y Swyddog yn unol â hynny.

 

 

19.

Cynllun Gwaith 2020 - 2021. pdf eicon PDF 26 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y cynllun gwaith fel yr amlinellwyd.

 

Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn derbyn gwybodaeth gan y ddwy ysgol a nodir yn yr adroddiad.