Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021
fel cofnod cywir. |
|
Tueddiadau Data ar Ddysgwyr sy'n Agored i Niwed PDF 496 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Helen
Morgan-Rees a Mike Jones gyflwyniad llafar manwl ac addysgiadol i gefnogi'r
wybodaeth a ddosbarthwyd i'r Aelodau ym mhapurau'r agenda'n ymwneud ag ystadegau
a thueddiadau data sy'n ymwneud â dysgwyr sy'n agored i niwed yn ysgolion
Abertawe. Roedd gwybodaeth
fanwl o 2011/12 i 2021/22 a oedd yn ymwneud â'r meysydd canlynol yn gynwysedig
yn y cyflwyniad: ·
Niferoedd
Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) ac effaith COVID wrth godi'r ffigur i lefel uchel
newydd; ·
Nifer
y disgyblion sy'n cael PYDd o flwyddyn i flwyddyn mewn ysgolion; ·
% y
disgyblion sy'n gymwys i gael PYDd mewn ysgolion; ·
Dosbarthiad
disgyblion ar draws y ddinas fel y'i cysylltir â Mynegai Amddifadedd Lluosog
Cymru (MALlC); ·
Proffiliau
Asesu Bod yn Agored i Niwed (VAP) gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng bechgyn a
merched, disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), disgyblion sy'n cael
PYDd, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rheini sydd â sgorau rhifedd a llythrennedd
uwch/is na'r cyfartaledd; ·
Sgoriau
VAP cyfartalog yn ôl wardiau etholiadol; ·
% y
disgyblion mewn ADY sy'n gymwys i gael PYDd; ·
Nifer
y gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol o ysgolion a dadansoddiad o'r
ffigurau o flwyddyn i flwyddyn; ·
Menter
Ymgyrch Encompass a ffigurau sy'n ymwneud â'r cynllun a ddatblygwyd yn 2019
gyda Heddlu De Cymru i gofnodi digwyddiadau lle mae disgyblion wedi gweld trais
yn y cartref ac effaith COVID a'r cyfyngiadau symud ar y ffigurau: Trafododd a
dadleuodd yr Aelodau y ffeithiau a'r ffigurau a amlinellwyd ac effaith y
pandemig arnynt. Codwyd amryw o ymholiadau a chwestiynau i'r swyddogion a oedd
yn ymwneud â phynciau fel cysylltiadau rhwng PYDd a MALlC, mesuriadau eraill o
amddifadedd megis materion ynghylch bod yn gyfoethog o ran incwm/yn dlawd o ran
arian parod, mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn yr ardal leol, effaith
y cwricwlwm newydd ar ystadegau yn y dyfodol, gwahaniaethau rhwng addysg
Gymraeg/Saesneg. Ymatebodd y Swyddogion yn briodol i'r gwahanol faterion a godwyd. Amlinellwyd y
problemau a'r gwahaniaethau sy'n gysylltiedig â ffigurau MALlC mewn wardiau a'r
gwahaniaeth mawr rhwng rhai cymunedau o fewn yr un ffin ward. Canmolwyd a
chefnogwyd y cymorth emosiynol a lles sy'n cael ei ddarparu i ddisgyblion fel
rhan o Ymgyrch Encompass. Gofynnwyd hefyd
am ragor o wybodaeth os oedd ar gael gan gynnwys data ward manylach ar
ystadegau MALlC, cysylltiadau VAP â Phrosiect Cynnydd a Gyrfa Cymru, gwybodaeth
yn ymwneud â data sydd ar gael sy'n seiliedig ar le ar effeithiau cyn geni ar
blant rhieni sy'n camddefnyddio alcohol/cyffuriau ac unrhyw gydberthynas mewn
ystadegau sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel, data gwahardd (fesul ysgol) ac
effaith COVID ar y rhain a materion Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'i
effaith ar ddisgyblion, yn enwedig ymhlith y rheini sydd â Saesneg fel iaith
ychwanegol. Trafodwyd hefyd y
materion a'r heriau penodol a wynebir gan rai ysgolion fel Crug Glas a
chyfeiriwyd at yr effaith y bydd y cyfleuster UCD newydd ym Maes Derw yn ei
chael yn y dyfodol. Amlinellodd a
thrafododd yr Aelodau'r angen i gadw diddordeb plant mewn addysg drwy gymorth a
chefnogaeth briodol ac o fewn amgylchedd yr ysgol ac i osgoi gwaharddiadau lle
bynnag y bo modd, boed hynny drwy gymorth unigol ychwanegol, gwaith yr UCD, neu
drwy ehangu a hyrwyddo cyrsiau mwy galwedigaethol i ennyn diddordeb disgyblion
llai academaidd. Nododd swyddogion
fod peth o'r wybodaeth y cyfeirir ati uchod wedi'i chynnwys mewn adroddiad
diweddar i'r cyfarfod Craffu Addysg a fyddai'n cael ei ddosbarthu i'r pwyllgor
cyn y cyfarfod nesaf, a dywedodd y byddai unrhyw wybodaeth bellach am y meysydd
eraill a amlinellir ac a drafodwyd uchod yn cael eu darparu i'r cyfarfod nesaf
os yw ar gael. |
|
Cynllun Gwaith 2021/2022 PDF 26 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y trafodaethau a gynhaliwyd yn yr eitem flaenorol. Penderfynwyd y bydd rhagor o wybodaeth a diweddariadau
sy'n ymwneud â'r meysydd pwnc a amlinellir yn y cofnod uchod yn cael eu darparu
yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, a lle bo'n briodol, bydd yr wybodaeth sydd ar gael
yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn y cyfarfod nesaf. |