Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 292 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 fel cofnod cywir.

 

22.

Cefnogi Adferiad Addysg. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Helen Morgan-Rees adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth yr argymhellion yr oedd y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau wedi'u datblygu yn dilyn ei waith trafod, adolygu, archwilio a chasglu tystiolaeth sy'n ymwneud ag effaith pandemig COVID ar ddarpariaeth addysg ar draws Abertawe.

 

Fel rhan o adolygiad y pwyllgor datblygu polisi o dystiolaeth yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, daeth yn amlwg bod pandemig COVID-19 wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd ar gyfer gwella addysg, parhad dysgu a datblygu sgiliau mewn blwyddyn eithriadol o reoli argyfwng a tharfu sylweddol ar addysg, sydd wedi effeithio ar ddisgyblion ac aelodau staff.

 

Nododd fod yr adroddiad yn dwyn ynghyd holl waith y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi arwain at ddatblygu'r tri argymhelliad canlynol:

1.    Caiff pob ysgol ei chefnogi a'i monitro i gynnal a gwella'r dulliau dysgu cyfunol a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

2.    Datblygu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol.

3.    Mae'r broses o ledaenu arfer da'n systematig mewn dysgu cyfunol a chefnogi iechyd a lles emosiynol yn cael ei chyflymu.

 

Cafodd y gwahanol sylwadau, safbwyntiau a thystiolaeth a gyflwynwyd ac a ystyriwyd gan y pwyllgor eu hamlinellu a'u nodi yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Helen Morgan-Rees am ei chefnogaeth i'r Pwyllgor ac am ddrafftio'r adroddiad, a diolchodd i'r holl swyddogion am yr wybodaeth a'r dystiolaeth a gyflwynwyd ac a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Penderfynwyd bod yr argymhellion a amlinellir uchod yn yr adroddiad yn cael eu cefnogi a'u cymeradwyo a bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Mehefin 2021.

 

23.

Cynllun Gwaith.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai'r cynllun gwaith ar gyfer 2021-22 yn cael ei drafod yng nghyfarfod y pwyllgor ar 16 Mehefin.

 

Dywedodd ei fod wedi derbyn awgrym bod pwnc mentoriaid dysgu cymunedol yn un y gellid ei ystyried wrth symud ymlaen. Byddai'r pwnc hwn yn cael ei drafod ynghyd â phynciau eraill yn y cyfarfod nesaf.