Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

36.

Cofnodion. pdf eicon PDF 240 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

37.

Adolygiad o Dystiolaeth/Wybodaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn. (Llafar)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn adlewyrchu ac yn adolygu'r holl wybodaeth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddinesig sy'n ymwneud â'r cwricwlwm newydd.

 

Amlinellodd y byddai’r holl wybodaeth a thystiolaeth a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr yr ysgol, swyddogion yr adran addysg ac asiantaethau allanol/partner yn cael eu hystyried wrth ddrafftio adroddiad i'r Cabinet.

 

Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu cynnal mewn ysgolion ar hyn o bryd wedi greu argraff fawr ar y Pwyllgor. Mae hyn yn cynnwys:

Gwaith prosiect

  • Llythrennedd a Rhifedd
  • Trefniadau pontio
  • Canolbwyntio ar grwpiau â chyrhaeddiad isel
  • Canolbwyntio ar grwpiau â chyrhaeddiad uchel e.e. MAT
  • Gweithio gyda grwpiau clwstwr
  • Creu swyddi /strwythurau arweinyddiaeth newydd
  • Gweithio i wella sgiliau staff e.e. hyfforddiant ysgol gyfan, presenoldeb yn nigwyddiadau allanol
  • Rhoi strwythurau'r cwricwlwm newydd ar waith
  • Gweithio i gyfleu barn dysgwyr
  • Cynnwys athrawon fel rhan o dimau sy’n cyd-adeiladu cwricwlwm newydd eu hysgol;
  • Ehangu cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol.

Cefnogaeth

  • Digwyddiadau/cynadleddau
  • Cysylltiadau â SAU
  • Rhwydwaith Ysgolion Ymholi Arweiniol
  • Ysgolion Rhwydwaith Cenedlaethol
  • Cylchlythyrau electronig ERW
  • Sesiynau ANG
  • Partneriaethau ysgolion
  • Gweithio ar lefel clwstwr

Dylai nod y polisi newydd fod i roi'r rhyddid i ysgolion Abertawe ddatblygu cynnwys y cwricwlwm ac addysgeg sydd wedi'u theilwra i anghenion dysgwyr unigol.

Ni waeth beth yw'r strwythurau cenedlaethol a rhanbarthol, beth ddylai rôl yr Awdurdod Lleol fod? A ellir ei ddiffinio yn nhermau'r canlynol:

  • Cefnogaeth
  • Dylanwad
  • Monitro
  • Arweiniad

Dylai hyn gefnogi ysgolion Abertawe i baratoi, addasu a chynnal y cwricwlwm newydd.

Mae angen darparu'r meysydd gwaith canlynol yng nghyd-destun y blaenoriaethau sydd wedi'u nodi gan y PDP:

  • Sut mae Abertawe'n bodloni anghenion ei dysgwyr mwyaf diamddiffyn;
  • Sut mae Abertawe'n sicrhau bod gan ei phobl ifanc y sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, gan roi sylw dyledus i anghenion sgiliau economi rhanbarth Abertawe,
  • Sut mae Abertawe'n sicrhau bod gan weithlu'r ysgol y sgiliau y mae eu hangen arnynt i symud Cwricwlwm i Gymru yn ei flaen, gan gofio mai proses barhaus yw hi, nid digwyddiad;
  • Sut mae Abertawe'n sicrhau bod ganddi'r gallu o ran arweinyddiaeth ysgolion ofynnol i symud Cwricwlwm i Gymru yn ei flaen, gan gofio mai proses barhaus yw hi, nid digwyddiad;
  • Y blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg a nodwyd ar lefel Cymru gyfan gan ganlyniadau'r PISA (e.e. ynghylch perfformiad bechgyn wrth ddarllen etc.).

Ymhlith y meysydd posib i'w harchwilio ymhellach mae dull o rannu arfer drwy offeryn ar-lein gyda chymorth a monitro i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio.

 

Cymuned Ddysgu Broffesiynol Abertawe

  • Sut ydym yn sicrhau bod arweinwyr ysgol yn cymryd rhan mewn trafodaeth barhaus am gwricwlwm ac addysgeg eu hysgol gyda'r ALl trwy waith Ymgynghorwyr Herio;
  • Sut ydym yn sicrhau ymagweddau staff cyfan i sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cyflawni'r hyn a ddisgwylir ganddynt trwy gyfuniad o DPP, mynediad at gefnogaeth, a phrosesau i nodi anghenion cefnogaeth a mynd i'r afael â nhw.

 

A fyddai hyn yn bosib trwy Gymuned Ddysgu Broffesiynol Abertawe gyfan ac, os felly, sut caiff hynny ei strwythuro i fynd i'r afael â'r materion a amlygwyd uchod.

 

Monitro Data

  • Monitro (a thrafodaeth) parhaus o data lefel disgyblion gan yr Awdurdod Lleol i fonitro safonau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a gwyddoniaeth.
  • Craffu ar gynnydd grwpiau dysgwyr allweddol gan gynnwys cPYDd (e.e. canolbwyntio ar ddisgyblion a oedd yn cPYDd ar 90% neu fwy o achlysuron lle gymerwyd CYBLD), bechgyn/merched, gyda dadansoddiad is-grŵp
  • Defnyddio'r data hwnnw i fonitro graddau'r heriau, pa feysydd o arfer da sy'n bodoli, ble mae'r gwendidau?

 

Dosbarthu gwybodaeth

  • Dosbarthu tystiolaeth o arferion da
  • Gweithio'n agos gydag ysgolion i fynd i'r afael â'r ffordd y maent yn gweithio a'r cwricwlwm maent yn ei ddarparu i fynd i'r afael â'r materion hyn

 

Monitro proses

Adolygiad parhaus o drefniadau asesu'r ysgol, gan gynnwys dibynadwyedd asesiad athrawon, gan gynnwys gwaith clystyrau ysgolion ynghylch cymedroli a safoni.

Defnyddio triawdau ysgolion, adolygiadau cymheiriaid i helpu ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm a'r addysgeg y mae eu hangen arnynt i ddarparu'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus ar y cyd â bodloni'r blaenoriaethau a nodwyd gan y PDP.

 

Cydlynu

Cynnal cyfrwng rhwng y Cynghorwyr Ysgolion Cynradd a’r gwaith parhaus o ddatblygu cwricwlwm mewn ysgolion i sicrhau bod yr holl ysgolion yn ymwybodol o anghenion sgiliau a blaenoriaethau rhanbarthol.

Ar yr un pryd, sicrhau bod elfen alwedigaethol, gan gynnwys parodrwydd ar gyfer byd gwaith yn rhan o'r cwricwlwm ar gyfer pob plentyn hyd at 14 a thu hwnt i hynny.

 

Gallu

Tybir y gellir cyflawni hyn gyda'r staff cymorth ysgol presennol a fydd yn gallu defnyddio arbenigedd ymarferwyr sy’n gwasanaethau mewn ysgolion pan fo angen.  Fodd bynnag, bydd angen adolygu'r gallu i wneud hynny. Bydd angen adolygu pa adnoddau fydd eu hangen.

 

38.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020. pdf eicon PDF 202 KB

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor bynciau posib i'w trafod yn y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod mis Ebrill yn cael ei ganslo ac y byddai'n cysylltu â Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd i drefnu cyfarfod arbennig ar ddechrau mis Mai i ystyried yr adroddiad drafft i'r Cabinet ar y cwricwlwm newydd.

 

Penderfynwyd ychwanegu'r pynciau canlynol at y cynllun gwaith ar gyfer 2020-2021:

·       Trefniadau clwstwr;

·       Athrawon cyflenwi;

·       Anghenion Dysgu Ychwanegol.