Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 125 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi (PDP) a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

43.

Grant Datblygu Disgyblion (PDG). (Adroddiad Drafft i'r Cabinet) pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad drafft i'r Cabinet gan y GDD mewn perthynas ag argymhellion ynghylch defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion yn y dyfodol mewn ysgolion.

 

Diolchodd i Helen Morgan-Rees am ei gwaith wrth gyfuno'r wybodaeth a drafodwyd gan y PDP yn ystod ei gyfarfodydd dros y misoedd diwethaf ac am ddrafftio'r adroddiad i'r Cabinet.

 

Amlinellodd newidiadau bach ar lafar i'r adroddiadau yr hoffai eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol. Byddai'n cadarnhau'r newidiadau perthnasol yn ysgrifenedig gyda'r swyddogion yn dilyn y cyfarfod.

 

Roedd y pwyllgor yn cefnogi'r newidiadau a gynigiwyd gan y Cadeirydd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r newidiadau a amlinellwyd gan y Cadeirydd a gyfeiriwyd at y Cabinet ar 15 Mai 2019.

 

44.

Cwricwlwm Newydd. (Ar Lafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Helen Morgan-Rees gyflwyniad PowerPoint i'r PDP mewn perthynas â gwybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru am 'Baratoi ar gyfer y Cwricwlwm Newydd.'

 

Amlinellodd gopi o'r cyflwyniad a fyddai'n cael ei ddosbarthu i aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Nododd fod y cwricwlwm newydd yn rhan o raglen dreigl ddeng mlynedd sydd wedi cyrraedd hanner ffordd ar hyn o bryd ac mae dwy flynedd i fynd cyn ei rhoi ar waith.

 

Fel rhan o'r cyflwyniad manwl ac addysgiadol, amlinellwyd a thrafodwyd y pynciau canlynol:

·       Prif amcanion y cwricwlwm newydd;

·       Y rhesymau y tu ôl i'r newidiadau - mae'r cwricwlwm presennol wedi bod ar waith ers 1988/89 ac mae'n benodol iawn;

·       Prif argymhellion ''Dyfodol Llwyddiannus” - bydd nawr yn cael ei arwain gan ddiben yn hytrach na chynnwys a bydd yn rhoi pwyslais ar gyflawniad nid cyrhaeddiad, gyda 12 ymagwedd addysgeg allweddol;

·       4 prif ddiben o ran cefnogi plant a phobl ifanc wrth fynd ymlaen;

·       Diffiniad o gwricwlwm newydd;

·       Cefnogaeth ar gyfer cwricwlwm newydd - ymagwedd genedlaethol newydd at ddysgu proffesiynol, gweithdrefnau gwerthuso a gwella newydd;

·       Cwricwlwm a pharhad dysgu a arweinir gan ddiben o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd;

·       Gwybodaeth a sgiliau - dim rhagfarnau wrth fynd ymlaen;

·       5 syniad newydd am y cwricwlwm - diben, proses, cynnydd, addysgeg a dysgu proffesiynol;

·       Prif gydrannau newydd - cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd, safbwynt sgiliau ehangach a chwricwlwm lefel ysgol;

·       6 phrif faes dysgu newydd - Celfyddydau Mynegiannol, Dyniaethau, Iechyd a Lles, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Mathemateg a Rhifedd, ac Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

·       Datganiadau'r hyn sy'n bwysig;

·       Deilliannau cyflawniad a gweithdrefnau asesu newydd;

·       Ymagwedd genedlaethol ddiwygiedig at ddysgu proffesiynol i'w chyflwyno o hydref 2019.

 

Nododd y byddai'r wybodaeth am y cwricwlwm newydd yn cael ei dosbarthu i'r holl ysgolion yn dilyn gwyliau'r Pasg i ymgynghori arnynt. Byddai'r cyfnod ymgynghori'n parhau tan fis Gorffennaf.

 

Manylodd hefyd ar y cynllun peilot adolygu cymheiriaid newydd sydd i'w gyflwyno mewn ysgolion ym mis Medi y bydd angen cymorth Ymgynghorwyr Herio ar ei gyfer, yr hyn a ddarperir i ysgolion cynradd gan Estyn a sicrhau bod trefniadau arolygu diwygiedig Estyn ar waith wrth fynd ymlaen.

 

Gwnaed awgrym i ddatblygu cysylltiadau â chydweithwyr yn y sector 'addysg bellach' a gwneud gwell defnydd ohonynt mewn perthynas â grwpiau adolygu cymheiriaid. Croesawodd y swyddog hyn a noddodd y byddai'n trafod hyn ymhellach â'i chydweithwyr ac yn adrodd yn ôl yn y dyfodol.

 

Trafododd yr aelodau'r pynciau a amlinellwyd y cyflwyniad a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol iddynt, yn enwedig ynghylch y meysydd pwnc canlynol:

Mwy o ryddid i ysgolion ddysgu pynciau newydd/amgen, yr angen i ysgolion/athrawon/disgyblion newid eu hymagwedd a'u hagweddau at ddysgu, yr angen am gefnogaeth addas ar gyfer athrawon o ran hyfforddiant ychwanegol etc, y posibilrwydd o weld/cyfuno ymatebion ysgolion Abertawe i'r ymgynghoriad.

 

Cytunodd yr aelodau i barhau i edrych ar fater y cwricwlwm newydd a'i oblygiadau yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

 

 

45.

Cynllun Gwaith 2018-2019.. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Yn dilyn Cofnod 44, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr wybodaeth a ddosbarthwyd yn ddiweddar mewn perthynas ag Ysgolion Arloesi yn Abertawe. Cyfeiriodd at drafodaethau blaenorol y PDP mewn perthynas â'r ysgolion hyn ac amlinellodd yr angen i gwrdd â'r Ysgolion Arloesi hyn yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn Ysgolion Arloesi a cheisio barn ganddynt wrth fynd ymlaen.

 

Awgrymodd Helen Morgan-Rees hefyd fod angen ceisio barn rhwydweithiau UCA a SCASH am y cwricwlwm newydd.

 

Adroddodd hefyd, yn ychwanegol at y cyfarfod blaenorol, fod cynrychiolwyr o fusnesau lleol wedi'u penodi ar gyfer y Grŵp Partneriaeth Sgiliau.

 

Penderfynwyd gwahodd yr Ysgolion Arloesi a'r rhai nad ydynt yn Ysgolion Arloesi i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y flwyddyn ddinesig newydd, a cheisio barn y grwpiau clwstwr ac adrodd yn ôl am hynny.