Agenda, decisions and minutes

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 307 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

 

34.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. pdf eicon PDF 238 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd fod y PDP Pobl wedi gwneud gwaith ar y mater hwn o'r blaen, ac o'r herwydd, roedd wedi gwahodd y Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y pwyllgor hwnnw i ddod i’r cyfarfod hwn. Yn anffodus nid oedd yn gallu dod oherwydd ymrwymiad blaenorol.

 

Yna cyflwynodd Helen Howells adroddiad a oedd yn amlinellu i'r pwyllgor ddatganiad sefyllfaol presennol y Gyfarwyddiaeth Addysg ar yr ymateb i ymchwil ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a'i effeithiau o fewn y gwasanaeth addysg.

 

Nododd fod yr adran yn rhoi cymorth i geisio sicrhau bod y cylch ACEs yn cael ei dorri. Amlinellodd y diffiniad o ACEs fel y'i disgrifiwyd gan Ace Aware Wales fel digwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rheini yn ystod plentyndod cynnar sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a lles pobl yn ddiweddarach mewn bywyd.

 

Cyfeiriodd at Astudiaeth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymru yn 2015 lle'r oedd dros 2,000 o oedolion 18-69 oed wedi cymryd rhan ac wedi darparu gwybodaeth ddienw am ddod i gysylltiad ag ACEs cyn eu bod yn 18 oed, a'u hiechyd a'u ffordd o fyw fel oedolion. Dangosodd yr arolwg fod dioddef pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r siawns o ymddygiad risg uchel ac afiechyd wrth symud ymlaen.

 

Amlinellodd fod yr holl blant sy'n derbyn gofal a'r rheini dan y gyfundrefn amddiffyn plant yn cael eu nodi gan ysgolion, a bod staff dynodedig i'w helpu a'u cefnogi. Gellir lliniaru effeithiau ACEs a'u lleihau i raddau gyda chymorth oedolyn sydd ar gael yn emosiynol i gefnogi'r bobl ifanc.

 

Gall ACEs ddigwydd i blant ar draws cymunedau ac effeithio ar bob ysgol ledled y ddinas, ond mae Abertawe bob amser wedi ymateb yn gyflym i anghenion ei dysgwyr, gydag adroddiadau Estyn rhwng 2017 a 2020 yn dangos bod 97.3% o ysgolion wedi cael canlyniadau rhagorol neu dda mewn perthynas â lles ac agweddau at ddysgu, ac nid oedd unrhyw ysgolion wedi derbyn canlyniad anfoddhaol. Yn yr un modd, cafodd 97.4% ganlyniadau rhagorol neu dda mewn perthynas â gofal, cymorth ac arweiniad, ac nid oedd unrhyw ysgolion wedi derbyn canlyniad anfoddhaol.

 

Mae effeithiau'r pandemig eisoes yn cael effaith ar blant a theuluoedd sydd wedi profi mwy o bryderon, newid mewn arferion, problemau ariannol a salwch a marwolaethau anwyliaid. Gall hyn gael effaith benodol ar y rhai yr effeithiwyd arnynt yn flaenorol gan ACEs.

 

Amlinellodd fod staff mewn ysgolion yn cael hyfforddiant priodol i geisio ymdrin ag ACEs yn seiliedig ar ddull cydgysylltiedig o ddarparu cymorth i ysgolion.

 

Mae hyn wedi'i seilio ar gynnig dysgu proffesiynol rhanbarthol ar gyfer lles sydd bob amser wedi bod yn ffynhonnell ardderchog o hyfforddiant y mae llawer o'n hysgolion wedi elwa ohono. Yn yr un modd ag ERW ac yn awr Partneriaeth, roedd staff rhanbarthol yn cydnabod bod trawma ac ymlyniad yn rhwystrau enfawr i ddysgu ar gam cynnar, ac roeddent yn un o'r rhanbarthau cyntaf i gyflwyno cynllun peilot ymwybyddiaeth ymlyniad.  Mae'r partneriaid wedi cynnig hyfforddiant rhagorol yn gyson, ac mae presenoldeb ysgolion Abertawe yn uchel.

 

Mae elfen Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio fel grant gwella ysgolion, i roi "mantais anghymesur" i blant â phrofiad o ofal, ac i ysgolion a nodwyd yn Abertawe, wedi defnyddio’r arian GDD/PDG a glustnodwyd iddynt i brynu cyfleusterau ac offer anogaeth a lles, megis y pecyn cymorth gwydnwch a rhaglenni i gefnogi iechyd meddwl drwy fyfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar.

 

Yna, amlinellodd fod y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi meithrin perthynas waith ragorol ag adrannau eraill o fewn Cyngor Abertawe a gwasanaethau allanol a rhoddodd gipolwg a throsolwg o'r gwahanol gynlluniau, mentrau a phrosiectau sydd ar waith i gynorthwyo pobl ifanc.

 

Amlinellwyd enghreifftiau o arfer da mewn cwpwl o ysgolion penodol sef Ysgol Gyfun Cefn Hengoed ac Ysgol Gynradd Plasmarl ond amlinellwyd y gellid fod wedi cynnwys pob ysgol ar draws y ddinas oherwydd y gwaith rhagorol sy'n mynd rhagddo'n gyffredinol.

 

Er bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran ACEs, amlinellodd eu bod bob amser yn awyddus i archwilio syniadau newydd i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael y profiad addysgol gorau posib y gallwn ei ddarparu.  Mae Ace Aware Wales yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod a'n helpu i fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru sy'n ymwybodol o ACE, drwy ddefnyddio'u Pecyn Cymorth TrACE. Byddai hyn yn ymrwymiad sylweddol i'r awdurdod ond nodwyd ein bod mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â hyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch yr adroddiad a ddosbarthwyd a'r wybodaeth a ddarparwyd ar lafar yn y cyfarfod, ac ymatebodd y Swyddog yn unol â hynny.

 

Yna rhoddodd Cressy Morgan a Dylan Williams drosolwg byr o'u cefndir a'u profiad yn y maes pwnc, a rhoesant gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol i'r aelodau yn amlinellu'r meysydd a drafodwyd yn ystod hyfforddiant mewn ysgolion.

 

Yn gynwysedig yn y cyflwyniad roedd y meysydd canlynol:

·         Diffiniad o ACEs;

·         Astudiaeth Americanaidd a oedd yn nodi bod y berthynas rhwng cam-drin plant a thrafferthion aelwydydd yn gysylltiedig â llawer o brif achosion marwolaeth mewn oedolion;

·         Gwahanol gategorïau o gam-drin plant a'r effaith ar aelwyd y plentyn;

·         Mapio ACEs drwy gydol oes, gan gynnwys tarfu ar ddatblygiad nerfol, hormonaidd ac imiwnedd, problemau cymdeithasol, emosiynol a dysgu, mabwysiadu ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd a chlefyd anhrosglwyddadwy, anabledd, problemau cymdeithasol, cynhyrchiant isel sy'n arwain at farwolaethau cynnar posib;

·         Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 a thri adroddiad a ddeilliodd o'r ymchwil ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u Heffaith ar Boblogaeth Oedolion Cymru mewn perthynas ag 1.Ymddygiadau Sy'n Niweidiol i Iechyd, 2. Clefyd Cronig a'r Gwasanaeth Iechyd, 3. Lles meddwl ;

·         Sefydlwyd canolfan gymorth ACE yn 2017 a chynhyrchwyd cyfres o adroddiadau pwysig yn dilyn hyn gan gynnwys yr un ar ffynonellau gwydnwch a'u perthynas gymedroli â niwed o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod;

·         Adolygiad o Bolisi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) dan arweiniad Julie Morgan AS a ddechreuodd y llynedd, sydd wedi amlinellu effaith COVID o ran cynyddu problemau pobl ifanc a lleihau mynediad at wasanaethau ar yr un pryd oherwydd y pandemig;

·         Cynllun adfer COVID 'Adnewyddu a Diwygio' Llywodraeth Cymru a'i bwyslais ar gefnogi lles a dilyniant dysgwyr, gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau addysgol;

·         Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru gyda ffocws ar ddatblygu dysgwyr;

·         Tegwch mewn addysg a sicrhau bod y rheini y mae angen mwy o gymorth a help arnynt yn cael mynediad atynt;

·         Straen a'r tri math o ymatebion o fewn y system nerfol – Cadarnhaol, Goddefadwy a Gwenwynig – a'r adweithiau a'r problemau sy'n gysylltiedig â phob math a'i effaith ar y corff wrth symud ymlaen;

·         Dull seiliedig ar drawma, trawma hiliol, cefnogi dysgwyr ag anawsterau dysgu synhwyraidd, meithrin ymddiriedaeth drwy chwarae, defnyddio sosiogramau i ddatblygu perthnasoedd cyfoedion, datblygu empathi mewn dysgwyr, defnyddio hyfforddi emosiynau a diogelu yn erbyn tlodi;

 

Unwaith eto, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y cyflwyniad a'r wybodaeth a ddarparwyd, ac ymatebodd swyddogion Partneriaeth iddynt yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion o Addysg a Partneriaeth am eu mewnbwn hynod ddiddorol, eu gwybodaeth a'u presenoldeb yn y cyfarfod.

 

 

                                       

35.

Cynllun Gwaith 2020 - 2021. pdf eicon PDF 27 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at y cynllun gwaith fel a amlinellwyd a manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith.