Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol; y Cynghorydd S Pritchard – Eitem 4 ar yr agenda – Datganiad o Sefyllfa ar gyfer  Addysg Alwedigaethol yn Abertawe – personol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol; y Cynghorydd S Pritchard – Eitem 4 ar yr agenda – Datganiad o Sefyllfa ar gyfer  Addysg Alwedigaethol yn Abertawe – personol.

25.

Cofnodion. pdf eicon PDF 317 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

 

26.

Datganiad Sefyllfaol ar gyfer Addysg Alwedigaethol yn Abertawe. pdf eicon PDF 243 KB

Penderfyniad:

 Er gwybodaeth

Cofnodion:

 Cyflwynodd David Bawden adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor Datblygu Polisi ac yn amlinellu'r datganiad sefyllfa presennol ar gyfer addysg alwedigaethol yn Abertawe ar gyfer plant a phobl ifanc 14-19 oed.

 

Amlinellodd y cefndir i'r ddarpariaeth bresennol o addysg alwedigaethol mewn ysgolion a cholegau sy'n seiliedig ar ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, a chaiff ei phenderfynu gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru), 2009; sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, rhwydweithiau 14-19 oed, ysgolion a cholegau i weithio gyda Gweinidogion Cymru i ddarparu cwricwla lleol sy'n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau a dewisiadau ar gyfer dysgwyr.

 

Dywedodd fod rhaglen Prentisiaeth Iau ychwanegol yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed sy'n eu galluogi i ymgymryd â llwybr galwedigaethol lefel 1 neu 2 mewn coleg lleol, gan ddatblygu sgiliau ymarferol wrth ennill cymwysterau. Datblygwyd rhaglen a adwaenir fel yr Academi Iau yn Abertawe trwy bartneriaeth ag ysgolion Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe ers 2019/2020.

 

Amlinellodd a manylodd hefyd ar y cyllid ychwanegol sydd wedi galluogi ar gyfer darparu hyfforddiant trwy brosiect Cynnydd.

 

Amlinellodd y meysydd cyflwyno presennol canlynol ar draws ysgolion yn Abertawe, sy’n cynnwys:

·       Cyrsiau galwedigaethol a ddarperir ar safle'r ysgol gan staff yr ysgol, er enghraifft Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

·       Cyrsiau galwedigaethol a ddarperir ar safle'r ysgol gan staff y coleg, er enghraifft Gofal Plant a Datblygu Dysgu;

·       Cyrsiau galwedigaethol a ddarperir oddi ar y safle gan staff y coleg, er enghraifft Peirianneg ac Adeiladu;

·       Cwrs galwedigaethol amser llawn a phrofiad sy'n ymwneud â'r gwaith (Academi Iau) a ddarperir oddi ar y safle gan staff y coleg a chysylltiadau diwydiant, er enghraifft Tirlunio a Garddwriaeth a Gwallt a Harddwch;

·       Cysylltiadau â chyrsiau a mentrau sydd ar gael trwy Goleg Sir Gâr a Cholegau Castell-nedd Port Talbot;

 

Roedd y cysylltiadau â Gyrfa Cymru ar draws yr holl ysgolion yn Abertawe hefyd wedi'u hamlinellu wrth baratoi pobl ifanc gyda chefnogaeth, cynnwys cyflogwyr a pharodrwydd ar gyfer gwaith, yn ogystal ag effaith bosib y cwricwlwm newydd i Gymru y mae’r meysydd hyn yn rhan ohono.

 

Dylai’r pwysigrwydd o nodi prinder sgiliau a pharatoi pobl ifanc ar gyfer swyddi yn y dyfodol, yn enwedig y rheini sy'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig, gael ei gynorthwyo wrth symud ymlaen trwy ddatblygiad y rhaglen Sgiliau a Hyfforddiant y cytunwyd arni trwy'r Fargen Ddinesig ac a gymeradwywyd gan lywodraethau Cymru a'r DU.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau ynghylch yr adroddiad a'r cyflwyniad yn enwedig ynghylch goblygiadau ac effaith y Fargen Ddinesig, agweddau at ddysgu galwedigaethol mewn ysgolion, argaeledd cyrsiau i bobl ifanc, ehangu dysgu galwedigaethol wrth symud ymlaen, nifer y bobl ifanc sy'n rhan o'r cyrsiau amrywiol a diffyg sgiliau cyflogadwyedd presennol pobl ifanc, ac ymatebodd swyddogion ac Aelod y Cabinet yn unol â hynny.

 

Cytunodd aelodau i ddarparu'r diweddaraf am y ddarpariaeth alwedigaethol yn Abertawe yn ogystal ag ystadegau mwy manwl ynghylch niferoedd y bobl ifanc sy'n rhan o'r cyrsiau a phrosiectau/mentrau amrywiol a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r tirlun cymwysterau presennol i gyfarfod y pwyllgor mewn tua chwe mis.

 

27.

Cynllun Gwaith 2020 - 2021. pdf eicon PDF 27 KB

Penderfyniad:

Nodwyd

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at y cynllun gwaith fel a amlinellwyd a manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y byddai'r cynllun gwaith yn cael ei nodi.