Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y budd canlynol: Y Cynghorydd Mike Durke - Eitem 4 ar yr Agenda – Cadw Disgyblion ar y Trywydd Iawn: Enghreifftiau o Arfer Gorau gan Ysgolion Pentrehafod a Dylan Thomas

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol;

 

Y Cynghorydd Mike Durke – Eitem 4 ar yr Agenda - Cadw Disgyblion ar y Trywydd Iawn: Enghreifftiau o Arfer Gorau o Ysgolion Pentrehafod a Dylan Thomas – Personol.

 

 

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 292 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

 

22.

Cadw Disgyblion Ar y Trywydd Iawn: Enghreifftiau o Arfer Gorau gan Ysgolion Pentrehafod a Dylan Thomas.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Goulding a Mr Payne i'r cyfarfod.

 

Amlinellodd Ashley Payne, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, y gwahanol gamau gweithredu a mentrau a oedd wedi helpu i gefnogi'r disgyblion, y staff a'r rhieni yn ystod y cyfyngiadau symud amrywiol, ac ymysg y rhain roedd:

·     grŵp penaethiaid SCASH a oedd wedi parhau i gyfarfod drwy Teams drwy gydol y pandemig,

·     cyswllt rheolaidd rhwng y pennaeth a phenaethiaid yr holl ysgolion dalgylch cynradd,

·     sefydlu'r ganolfan iechyd yn Townhill yn y lle cyntaf,

·     argaeledd prydau ysgol am ddim (50%+ o ddisgyblion) ar gyfer plant yn y cyfyngiadau symud cyntaf a'r newid i'r system daliadau ar ôl hynny,

·     darparu'r cyfleuster gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol,

·     darparu offer TG i blant fel y gellid eu cynnwys mewn gwaith ar-lein ac ar gyfer presenoldeb,

·     gwirio presenoldeb disgyblion ar-lein a'r ymweliadau/galwadau dilynol gan staff i annog presenoldeb a chyfranogiad,

·     cyflwyno gwaith i ddisgyblion;

·     cefnogaeth a chymorth penodol i ddysgwyr sy'n agored i niwed;

·     datblygu cynllun gweithredu adfer COVID sy'n cysylltu â'r cynllun datblygu ysgolion,

·     roedd y cyswllt da â staff, gwaith i sefydlu grwpiau lles a staff yn helpu ac yn cefnogi'i gilydd ac yn cyflenwi ar gyfer cydweithwyr a oedd yn absennol yn rhagorol,

·     problemau iechyd meddwl/pryder i bobl ifanc a'u teuluoedd,

·     cefnogaeth a chymorth i bobl ifanc a theuluoedd a oedd wedi colli perthnasau – roedd darparu gwasanaeth cwnsela a chyngor profedigaeth gan yr awdurdod lleol wedi helpu'n fawr,

·     grwpiau llwyfan ar gyfer pobl ifanc â hwyliau isel – mae rhaglen 6 wythnos wedi gweithio'n dda,

·     roedd trefniadau pontio ar gyfer y disgyblion Blwyddyn 8 cyfredol wedi achosi rhai problemau oherwydd y cyfyngiadau symud a'r cyfyngiadau amrywiol a'r diffyg cyswllt dilynol rhwng yr ysgol/disgybl/teuluoedd cyn iddynt fynychu'r ysgol, sydd wedi bod yn broblem,

·     defnyddiwyd y rhaglen cynhwysiant TIDE i ddisgyblion sy'n agored i niwed a'r rheini â phroblemau cymdeithasol yn dda gan ddisgyblion,

·     problemau gyda nifer y disgyblion â datganiadau sydd am fynychu'r ysgol a diffyg argaeledd a mynediad i'r CAAau wedi bod yn broblem sydd wedi arwain at fuddsoddiad mewn dosbarthiadau anogaeth a gwelliannau sylweddol i'r ystafelloedd dosbarth a'r ddarpariaeth ddysgu ar gyfer disgyblion CAAau,

·     parhau i fonitro presenoldeb a gwaith dilynol gyda disgyblion i ennyn diddordeb ac annog gwell presenoldeb,

·     caiff defnydd cymunedol o gaeau chwarae ysgolion ei ddiogelu, datblygwyd campfa newydd i ddisgyblion, ac mae chwaraeon/lles wedi'u gwreiddio yn y cwricwlwm nawr, penodwyd swyddog hwb rygbi'n ddiweddar a chysylltiadau â'r Elyrch ar bêl-droed ADY,

·     dyfarnu graddau TGAU eleni drwy asesiadau/dim arholiadau,

·     nid oedd problemau ynghylch cyfathrebiadau Llywodraeth Cymru a gwybodaeth ganddi'n cael ei sibrwd wrth y wasg yn ystod y pandemig yn beth da i ysgolion oherwydd yn aml adroddwyd amdani yn y cyfryngau cyn i'r awdurdod lleol/ysgolion ei derbyn ac roedd diffyg arweiniad a chyngor/arweiniad gan CBAC hefyd yn broblem,

 

Amlinellodd Matthew Goulding, Pennaeth Ysgol Pentrehafod hefyd y gwahanol gamau gweithredu a mentrau a oedd wedi helpu i gefnogi'r disgyblion, y staff a'r rhieni yn ystod y cyfyngiadau symud, a rhoddodd gyflwyniad Powerpoint manwl ac addysgiadol i'r pwyllgor a oedd yn cynnwys ac yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

·     cyfansoddiad yr ysgol - 1000+ o ddisgyblion ar y gofrestr (11-16 oed), 36.4% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim (41.3% os ystyrir darpariaeth drosiannol), 63% o ddisgyblion yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Malc),

·     deall beth yw bod yn agored i niwed a'i effaith ar gynnydd myfyrwyr a chyfleoedd bywyd – datblygu dealltwriaeth gyffredin o fyfyrwyr sydd â rhwystr i ddysgu a datblygu a allai fod o feysydd eang fel amddifadedd cymdeithasol, problemau presenoldeb, problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu ychwanegol, prydau ysgol am ddim, Saesneg fel iaith ychwanegol etc.

·     cerrig milltir allweddol ar daith plentyn drwy system yr ysgol – cysylltiadau ag ysgolion clwstwr a phroblemau'n ymwneud â diffyg sgiliau darllen a llythrennedd, tlodi rhwng y cenedlaethau a diffyg datblygiad sgiliau cymdeithasol plant, effaith COVID wrth symud ymlaen,

·     effaith y cwricwlwm newydd ar addysgu a sut caiff plant eu haddysgu, a'r hyn y caiff ei addysgu iddynt,

·     adnabod eich myfyrwyr – datblygu proffil manwl o bob myfyriwr ar lefel academaidd a lles, gan gynnwys proffil gwybyddol, effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, presenoldeb/gwaharddiad etc.,

·     datblygu rhaglen "disgybl ar dudalen" sy'n cynnwys maes eang o ddata ar bynciau fel presenoldeb, cyflawniad, ymddygiad, lles, lefelau darllen etc.,

·     datblygu "dosbarth" a "blwyddyn" ar dudalen i gymharu, cyferbynnu a monitro ar draws carfan ehangach,

·     angen posib am fwy o gymorth gan awdurdod lleol ar broblemau presenoldeb oherwydd effaith barhaus COVID ac yn ddelfrydol gallai pob ysgol gyfun gael ei swyddog lles addysg pwrpasol ei hun,

·     mae tegwch yn dechrau gyda chyflawniad – annog plant a rhoi cyfle iddynt fod yn llwyddiannus,

·     Rhaglen i gyn-fyfyrwyr – a ddechreuwyd yn ystod Pasg 2020 – codi gorwelion a disgwyliadau disgyblion, rhoi profiadau gwahanol a chyfoethog i ddisgyblion a mynd â nhw i leoedd nad ydynt erioed wedi bod, yn gorfforol ac yn feddyliol, gan groesawu cyn-ddisgyblion yn ôl i'r ysgol yn unigol a thrwy fusnesau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, prentisiaethau a phosibiliadau mentora,

·     cysylltiadau rhagorol â Gyrfa Cymru a'r cynllun cyfnewid busnes addysg, ffeiriau gyrfaoedd, fideos cyflogaeth,

·     cysylltiadau â Phartneriaeth Virgin Atlantic – un o dair ysgol yn unig yn y byd sy'n rhan o hyn,

·     "clwb disglair" – ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog a chymorth gydag ymweliadau prifysgol a hyfforddiant ychwanegol,

·     datblygu iechyd a lles ysgol gyfan – gan gynnwys ymgysylltu â phartneriaid cymunedol, mireinio'r rhaglen perthnasoedd/addysg rhyw, arolwg disgyblion yn helpu i ddatblygu syniadau newydd, datblygu rhaglen ddarllen i ysgolion,

·     effaith COVID yn enwedig ar arferion yr ysgol, y fenter ymgysylltu a phresenoldeb a materion pontio ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 cyfredol,

·     cwricwlwm eang a chynnig cyrsiau galwedigaethol – ond mae rhai problemau gyda myfyrwyr sy'n mynychu'r coleg ac yn addasu i'r amgylchedd gwahanol "nad yw'n amgylchedd ysgol",

·     problemau gyda phrosiect Cynnydd, yn enwedig o ran materion coladu data a biwrocratiaeth,

·     yr hyn y mae angen i ni ei wneud wrth symud ymlaen – problemau ledled y wlad gyda llythrennedd, datblygu proffil darllen Abertawe gyfan, anogaeth i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, cynlluniau peilot gyda chymunedau ar fentora ac entrepreneuriaeth. 

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y cyflwyniadau a'r gwaith a'r mentrau a gynhaliwyd gan y ddwy ysgol yn ystod gwahanol gyfnodau'r cyfyngiadau symud gwahanol, ac ymatebodd Mr Payne a Mr Goulding yn briodol iddynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelodau i'r ddau athro am eu presenoldeb a'u mewnbwn.

 

23.

Cynllun Gwaith 2020 - 2021. pdf eicon PDF 26 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cymeradwywyd