Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 fel
cofnod cywir. |
|
Gwybodaeth Bellach a Thueddiadau Data Dysgwyr Diamddiffyn. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Rhoddodd Lisa
Collins gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol am faterion amrywiol sy'n
ymwneud â dysgwyr sy'n agored i niwed. Roedd y meysydd a
drafodwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: •
Pwy yw'r plant sy'n agored i niwed - ymyriadau statudol –
amddiffyn plant/plant sy'n derbyn gofal (LAC), plant y mae angen gofal a
chymorth arnynt a phlant anabl/ag anawsterau dysgu; •
Diffiniad o fod yn agored i niwed – bod yn
agored i niwed yn erbyn hawlogaeth, sefydlu lleoliadau
gofal plant brys mewn ysgolion yn dilyn y cyfnod clo cychwynnol, sgôr CMG ac
adroddiadau monitro wythnosol ar bobl ifanc sy'n agored i niwed; •
Gwell cydweithio a threfniadau gweithio -
cysylltiadau a ddatblygwyd gyda'r adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg
drwy un pwynt cyswllt (SPOC), ail-lunio rolau ar gyfer staff lles addysg i
gynorthwyo gyda dosbarthu bwyd, proses ddwysáu ar gyfer ffyrdd newidiol o fod
yn agored i niwed, busnes fel arfer – prosesau diogelu, gweithdrefnau myfyrio
ac adolygu, lefelau cyfathrebu gwell i ysgolion/rieni/staff ac effaith y
symudiad i ddysgu cyfunol a'r heriau gwahanol ac enfawr a gafwyd o ganlyniad; •
Gwersi a ddysgwyd - asesiadau proffesiynol
amrywiol o fod yn agored i niwed, mae plant ag ymyriadau statudol yn flaenoriaeth,
nid oes unrhyw un ymagwedd sy'n addas i bawb, mae angen cydweithio i gefnogi
teuluoedd a defnyddio'r gwahanol fframweithiau sydd ar gael; •
Ffordd ymlaen wedi'i chynllunio - polisïau a phrosesau
diogelu ac amddiffyn plant, defnyddio cynllunio gofal i ymateb i'r ffyrdd
newidiol o fod yn agored i niwed (Plant y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt,
PDG, Diogelwch, Lles), hyrwyddo'r berthynas SPOC i gefnogi asiantaethau,
grymuso ysgolion i uwchgyfeirio pryderon ac adeiladu
cynllun wrth gefn. •
Tymor yr hydref 2021 - Niferoedd cynyddol o blant sy'n
agored i niwed, rheoli ymddygiad heriol, datblygu ymateb lles i ddisgyblion
sy'n wynebu cael eu gwahardd, diogelu cyd-destunol, prosesau wedi'u sefydlu a'u
hymgorffori Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y gwaith a wnaed yn
ystod gwahanol gyfnodau'r cyfyngiadau symud amrywiol, ac ymatebodd y Swyddog yn
unol â hynny. Unwaith eto
talodd yr Aelodau deyrnged i'r holl staff yn yr adran a holl staff yr ysgolion
am eu hymdrechion yn ystod y pandemig parhaus, a'u
canmol. |
|
Data ac Ystadegau Gwaharddiadau. PDF 199 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Rhoddodd Kate
Phillips gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol yn ymwneud â materion a
ffactorau amrywiol sy'n effeithio ar faterion yn ymwneud â gwaharddiadau ysgol. Roedd y meysydd a
drafodwyd yn ystod y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: ·
Categorïau
gwahardd a nifer y bobl ifanc yr effeithir arnynt ym mhob diffiniad/categori; ·
Beth
sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael eu gwahardd – newid ysgol/coleg, tiwtora gartref, atgyfeiriad i Uned Cyfeirio Disgyblion a
defnyddio arbenigedd staff yn yr uned; ·
Rheoli
symudiadau, rheolau a gweithdrefnau sydd ar waith i gynorthwyo pobl ifanc sydd
mewn argyfwng yn aml, nifer yr ysgolion dan sylw; ·
Canlyniadau
a goruchwylio symudiadau a chynnydd pobl ifanc; ·
Cynlluniau
cymorth bugeiliol (CCB)– dogfen sy'n cael ei llunio ar sail unigol ar gyfer y
bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu gwahardd; ·
Strategaethau
ymyrryd yn gynnar ac atal – ymagwedd a mentrau ysgol gyfan sy'n helpu ac yn
cefnogi'r CCB, goblygiadau'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys
wrth symud ymlaen, polisi ymddygiad, hyfforddiant staff sydd ar gael,
strategaeth lleihau gwaharddiadau, polisi darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol
(EOTAS) yn cael ei ddatblygu; ·
Astudiaethau
achos ac enghreifftiau o adborth gan bobl ifanc sydd wedi bod drwy'r system. Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y broses wahardd a'r
gefnogaeth sydd ar waith ar gyfer pobl ifanc, ac ymatebodd y Swyddog yn unol â
hynny. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 26 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd yr
Is-gadeirydd at y cynllun gwaith fel yr amlinellwyd. Penderfynwyd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn
derbyn gwybodaeth gan y ddwy ysgol a nodir yn yr adroddiad. |