Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
||
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2020 fel cofnod cywir |
||
Trafodaeth gydag ysgolion. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Mrs Jones i'r cyfarfod Amlinellodd Nia
Jones, Pennaeth YGG Bryniago, ei chefndir a'i phrofiad fel Pennaeth yn ei rôl
bresennol a'i rolau blaenorol. Dywedodd fod ei
hysgol wedi bod yn rhan o'r prosiect Ysgolion Arloesi ers y cychwyn cyntaf a'i
bod wedi helpu i ddylanwadu ar ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Amlinellodd y
camau a gymerwyd ganddi hi a'r staff a chyfeiriodd at y ffordd y maent wedi
datblygu dysgu ac addysgu yn yr ysgol. Yna darparodd
gyflwyniad PowerPoint manwl i'r pwyllgor a oedd yn cynnwys y meysydd a'r
pynciau canlynol: ·
217 o
ddisgyblion mewn 9 dosbarth, gyda 38% ohonynt yn ddisgyblion â chefndir Cymraeg
a 6.8% ohonynt yn cael prydau ysgol am ddim; ·
Newid
dylanwad TG a Thechnoleg ar ysgolion, gwersi a bywyd yn gyffredinol; ·
Angen
i hyfforddiant/ailhyfforddi athrawon gael ei drefnu a'i ariannu'n gywir, gan
wneud defnydd gwell a doethach o gyllid a'r amser
sydd ar gael i athrawon - mae arian/grantiau ychwanegol yn helpu i ddarparu
staff cyflenwi ac amser i athrawon ddysgu/ailhyfforddi: ·
Lefel
y cymorth a chyngor gan ERW: ·
4 prif ddiben y cwricwlwm newydd - maent oll yn cysylltu
â gwella llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol; ·
Cynllunio
a pharatoi ar gyfer newid - gweledigaeth ar gyfer newid, disgwyliadau, amserlenni,
arweinyddiaeth a chefnogaeth, cyfranogaeth staff/rhieni/disgyblion, targedau
CAMPUS, cerrig milltir a gwerthuso/monitro newid; ·
Newid
ymddygiad a dangos ymddygiad mwy cadarnhaol at ddysgu mewn ysgol o ganlyniad i
newid mewn dulliau addysgu; ·
Cam 3
- gweithredu, tasgau cyfoethog yn CA2, cefnogaeth ychwanegol i staff, rhannu
arfer da; ·
Cam 4
- gwerthuso/monitro, arsylwadau dosbarth, troeon dysgu o gwmpas yr ysgol,
holiadur staff/rhieni/disgyblion, trafodaeth broffesiynol ar ddiwedd y tymor i
adolygu; ·
Cylch/cylched
parhaus o welliannau parhaus; ·
Timau
Anghenion Dysgu Ychwanegol; ·
Llais
y Disgybl; ·
Trosolwg
o'r themâu i'w haddysgu ac adolygiad tymhorol; ·
Amserlen
wythnosol; ·
Dewislen
themâu - adolygu ac ymchwilio, ymchwil, cyflwyniad o'r canfyddiadau; ·
Canfyddiadau'r
ddewislen themâu - dulliau gwahanol o gyflwyno ar gyfer grwpiau oedran gwahanol
(PowerPoint/canu etc); ·
Tasgau
Cyfoethog - yn gysylltiedig â thema wahanol ar gyfer bob blwyddyn (cestyll/y
gofod/ffilmiau etc); ·
Camau cynllunio - datganiadau'r hyn sydd o bwys; ·
Aml-ieithrwydd - prosiect ysgolion clwstwr Gŵyr; ·
Strategaethau
niferus ar gyfer dadansoddi a hyrwyddo dysgu annibynnol; ·
Effaith
newidiadau ar yr ysgol gyfan - gwella sgiliau llythrennedd/rhifedd/digidol ar
draws yr ysgol; ·
Gwelliant
o ran ymddygiad plant a'u cynnwys yn y dysgu; ·
Camau
Nesaf - dylanwadau ysgolion arloesol - datblygiad parhaus 4 diben, rhagor o
gyfeiriad a dylanwad o'r cwricwlwm newydd, datblygiad staff, buddsoddi mewn
adnoddau a chyfarpar. Gofynnodd yr aelodau a'r swyddogion gwestiynau amrywiol i gynrychiolwyr yr
ysgol ynghylch y pynciau a amlinellwyd uchod a chynhaliwyd trafodaethau hir a
manwl yn y cyfarfod, ac ymatebodd y cynrychiolwyr yn briodol. Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelodau i'r Pennaeth am yr wybodaeth wych a ddarparwyd yn ystod ei chyflwyniad ac am ddod i'r cyfarfod. |
||
Dwy Ffrwd Waith Partneriaeth Sgiliau Abertawe - Cefnogaeth/Arweiniad ar gyfer Is-grwpiau Capasiti Galwedigaethol a Digidol - Y Diweddaraf gan Swyddogion Addysg. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Chris Rees, Pennaeth Dysgu ar gyfer Cymhwysedd
Digidol, a David Bawden, Swyddog Cwricwlwm 14-19, i'r cyfarfod. Amlinellodd Chris Rees fod yr Is-grŵp Cymhwysedd Digidol wedi coladu
strategaeth â chyfres o nodau blaenoriaeth. Byddai rhestr lawn a manylion yn cael eu dosbarthu i aelodau yn dilyn y
cyfarfod ond mae'r prif amcanion yn canolbwyntio ar: ·
Sut mae pobl yn ystyried y Digidol mewn Addysg - a oes gan
bobl ifanc y sgiliau a'r profiadau cywir ar gyfer gwaith digidol, arweiniad i
ysgolion, nodau, niwtral o ran rhywedd i annog
cyfranogiad merched, yr angen i hyrwyddo datrys problemau a meddwl yn
feirniadol. ·
Cyfleoedd i ddysgwyr drwy Gynnwys Cyflogwyr -
digwyddiadau i gyflogwyr, grŵp cyflogwyr Coleg Gŵyr Abertawe, trafod
â Gyrfa Cymru, bod yn rhan o brosiectau newydd y DVLA a'r Gweilch. ·
Dysgu Seiliedig ar Waith Digidol - gweithio gyda phob
chweched dosbarth, colegau AB ·
Datblygiad Proffesiynol Parhaus staff a recriwtio -
datblygu digon o gyrsiau a chyfleoedd i staff fynd iddynt, cymryd rhan ynddynt
a datblygu sgiliau, rhaglen ddysgu gyffrous newydd yn cael ei datblygu gyda
chwmni Big Learning, a fydd yn cael ei ehangu o'r 20
o leoedd presennol sydd ar gael i 120 drwy arian gan Lywodraeth Cymru. ·
Rhannu Arferion Da rhwng Cyfnodau - rhannu rhwng ysgolion
a chlystyrau. Dywedodd David Bawden fod yr is-grŵp Cefnogaeth a Chyngor Gwell ar
gyfer Hyfforddiant Galwedigaethol a Chymwysterau wedi cwrdd sawl gwaith. Ar hyn
o bryd mae'r grŵp yn cynnwys staff ysgolion a cholegau, ac mae'n ceisio
cynnwys cyflogwyr hefyd. Amlinellodd y gwaith a wnaed hyd yn hyn i ddatblygu ap
a fydd yn ceisio cynnwys, mewn un man, yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar bobl
ifanc er mwyn nodi pa gyrsiau/prentisiaethau/swyddi sydd ar gael yn lleol. Amlinellodd hefyd brif flaenoriaethau'r grŵp, fel a ganlyn, ·
Archwiliad o'r addysg alwedigaethol a gynigir
i ddisgyblion cyn 16 oed a disgyblion chweched dosbarth neu golegau. ·
Cydweithio â Gyrfa Cymru i ddarparu cyngor, gwybodaeth ac
arweiniad o safon - strategaeth bresennol a chynlluniau'r dyfodol.
·
Datblygu protocol trawsnewid rhwng ysgolion (cyn 16 oed) a
chyfleoedd ôl-16. ·
Datblygu cyfleoedd i ddysgwyr drwy weithgareddau cynnwys
cyflogwyr. Trafododd
aelodau'r broblemau a godwyd gan swyddogion a gofynnwyd nifer o gwestiynau
ynghylch y pynciau a amlinellwyd uchod, a chafwyd trafodaethau mewn perthynas
â'r materion a amlinellwyd, yn benodol ynghylch yr angen i sicrhau bod pobl
ifanc yn magu sgiliau digidol i baratoi am swyddi'r dyfodol, yn ogystal â chael
y sgiliau sylfaenol ar gyfer gwaith, megis rhifedd a llythrennedd, cadw amser
yn dda, cwrteisi, ysgrifennu e-bost/llythyr sylfaenol etc, ac ymatebodd y
swyddogion yn briodol. Amlinellwyd yr angen i ddatblygu ac ehangu'r
cysylltiadau â busnesau bach lleol ymhellach, yn enwedig yn y sector preifat, a
chyda sefydliadau busnes megis Clwb Busnes Bae Abertawe a'r ddwy brifysgol. Mae
angen ystyried hefyd y materion sy'n effeithio ar bobl ifanc megis prydau ysgol
am ddim, diffyg modelau rôl gwrywaidd, diffyg mynediad at wasanaethau digidol a
thechnoleg a thlodi ac amddifadedd. Gofynnodd y
Cadeirydd hefyd am gael adborth ar brosiect Meincnodau Gatsby
sy'n cael ei dreialu yn RCT yn un o gyfarfodydd y dyfodol. |
||
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 203 KB Cofnodion: Nodwyd y cynllun
gwaith ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig. Bydd y cyfarfod
nesaf yn adolygu'r dystiolaeth a'r materion/pynciau a drafodwyd ac a gyflwynwyd
hyd yn hyn, cyn coladu adroddiad drafft y Cabinet i'r pwyllgor ei adolygu. Bydd y cyfarfod
hefyd yn trafod pynciau posib i'w drafod a'u hymchwilio iddynt yn y flwyddyn
ddinesig newydd. |