Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Trafodaeth gydag ysgolion. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Mrs Bolt i'r cyfarfod. Amlinellodd Anna
Bolt, Pennaeth Ysgol Gynradd Glyncollen, ei chefndir a'i phrofiad fel pennaeth
yn ei hysgol bresennol a rhai blaenorol. Nododd ei bod wedi'i secondio i ERW ar hyn o bryd fel Pennaeth Diwygio'r
Cwricwlwm ac Arloesedd. Dywedodd y bu hi'n rhan o'r
fenter Ysgolion Arloesi ers ei sefydlu ac mae hi hefyd yn rhan o'r Bwrdd Asesu
Ymgynghorol a'r Bwrdd Strategaeth Cenedlaethol ac mae hi hefyd yn ymwneud â’r
prosiect traws-ranbarthol. Nododd y dylai'r
cwricwlwm newydd ganiatáu i ysgolion symud i ffwrdd o anhyblygrwydd y cwricwlwm
presennol a chaniatáu iddynt ganolbwyntio ar yr egwyddorion addysgeg a datblygu
a datblygu/adeiladu ar yr hyn maent yn ei wneud yn dda. Nododd fod Ysgol Glyncollen wedi bod yn defnyddio'r egwyddorion addysgeg
a'r syniad 'Athroniaeth i Blant' (P4C) am y deng mlynedd diwethaf. Amlinellwyd
y cefndir syniadau mewn perthynas â datblygu a chyflwyno'r egwyddorion P4C. Dylai'r egwyddorion hyn ganiatáu i blant feddwl, meithrin a datblygu ffyrdd
o feddwl dwys a deallus, gyda chefnogaeth gan staff i ddatblygu ac annog
dulliau meddwl clir ac arbennig. Mae 4 o egwyddorion allweddol y cwricwlwm
newydd yn cyd-fynd â'r ymagwedd hon. O'r 27 o ddatganiadau 'Yr hyn sy'n bwysig'
yn y cwricwlwm newydd, mae tri ar ddeg ohonynt yn cysylltu'n uniongyrchol â
P4C. Bydd y datganiadau 'Yr hyn sy'n bwysig' yn statudol yn y cwricwlwm newydd. Darparodd fanylion am yr hyfforddiant staff a gafwyd a brwdfrydedd y staff
tuag at y rhaglen P4C sydd nawr wedi'i chynnwys yn llawn o'r dosbarth meithrin
hyd at flwyddyn 6 a bydd disgyblion ar draws y pynciau yn elwa ohoni. Amlinellodd y byddai datblygiad proffesiynol a chefnogaeth barhaus ar gyfer
athrawon yn allweddol i lwyddiant y cwricwlwm newydd. Amlinellodd enghreifftiau o sut mae menter P4C yn gweithio mewn ysgol a
darparodd fanylion am y mathau o gwestiynau a ofynnir i blant i ysgogi atebion
a thrafod pynciau yn yr ystafell ddosbarth. Amlinellodd y gwahoddir plant i
drafod amrywiaeth eang ac amrywiol o bynciau ac mae llawer o wahanol
ymwelwyr/sefydliadau'n ymweld â'r ysgol i drafod materion. Amlinellodd, yn dilyn arolygiad Estyn yn yr ysgol bedair blynedd yn ôl, fod
y plant wedi nodi P4C fel y 'peth gorau' am yr ysgol. Manylodd y datblygwyd fforwm rhwng y cenedlaethau yn yr ysgol sy'n cynnwys
plant a phobl hŷn o'r gymuned. Mae hyn wedi arwain at well dealltwriaeth a
gwerthfawrogiad o'r materion o'r ddwy ochr. Amlinellodd berthynas dda ei chlwstwr o ysgolion ar hyn o bryd gan ddweud
amlinellodd y byddai angen i hyn barhau. Nododd, yn ei barn hi, fod y cynnydd
sy'n cael ei wneud i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yn Abertawe'n
cyd-fynd yn dda â barn Llywodraeth Cymru ac mae ysgolion yn trafod y materion
yn barod ac yn rhannu arfer da a syniadau wrth i ni nesáu at gyfnod y cwricwlwm
newydd. Roedd y gefnogaeth wych gan y grwpiau a’r sefydliadau amrywiol a sefydlwyd,
yr ymgynghorwyr herio a'r swyddogion cefnogi teuluoedd yn helpu ysgolion i
gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd. Gofynnodd yr aelodau a'r swyddogion gwestiynau amrywiol i'r pennaeth
ynghylch y pynciau a amlinellwyd uchod a chynhaliwyd trafodaethau hir a manwl
yn y cyfarfod, ac ymatebodd y pennaeth yn briodol. Diolchodd y Cadeirydd a'r Pwyllgor i'r Pennaeth am yr wybodaeth wych a ddarparwyd yn ystod ei chyflwyniad ac am ei phresenoldeb yn y cyfarfod. |
|
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 203 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd, yn dilyn yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod mis Chwefror, ei
fod yn bwriadu defnyddio cyfarfod mis Mawrth fel cyfle i aelodau adolygu a thrafod
yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan y Pwyllgor hyd yn hyn, cyn coladu
adroddiad drafft i'r Cabinet. Nodwyd y cynllun
gwaith ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig. |