Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 237 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

 

24.

Trosolwg o Gynllun Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd gan Swyddogion Addysg. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Damien Beech a Rob David gyflwyniad llafar a oedd yn amlinellu'r cefndir a'r gwaith a wnaed hyd yma er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y sefydlwyd Grŵp Addysgu, Asesu a Chwricwlwm Abertawe â chynrychiolaeth o'r cyfnodau cynradd ac uwchradd, gyda chymysgedd da o ysgolion wedi'u cynrychioli arnynt. Dywedwyd bod y grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang o benaethiaid profiadol iawn, y mae un ohonynt ar hyn o bryd ar secondiad gydag ERW fel Pennaeth y Cwricwlwm.

 

Cyfeiriwyd at y cyngor da a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn ei blog a'r digwyddiadau ymgysylltu amrywiol a drefnir gan ERW. Mynegwyd bod y cyngor a roddir i ysgolion gan yr Awdurdod yn cyd-fynd â'r hyn y caiff ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac ERW.

 

Mynegwyd mai'r neges gyffredinol sy'n dod o ERW yw na ddylai ysgolion fod yn nerfus neu'n ofnus o'r cwricwlwm newydd, wrth gydnabod ei fod yn gam sylweddol i ffwrdd o'r system bresennol.

 

Mae'r grŵp wedi trefnu ymweliadau ag ysgolion arloesol a Gwella Ansawdd ac maent hefyd wedi gweithio gydag ysgolion yng Nghaerdydd a'r Fro ac maent yn nodi cymaint o dystiolaeth o arfer da â phosib er mwyn gallu paratoi ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe cystal â phosib.

 

Nodwyd y dosbarthwyd pecyn cymorth cychwynnol i ysgolion cynradd.

 

Mynegwyd ei fod yn anochel y bydd y cwricwlwm newydd ychydig yn wahanol ym mhob ysgol ond dylai'r sail gyffredinol a'r cefndir fod yn debyg. 

 

Mynegwyd y bydd yr Athro Mick Walters a oedd wedi chwarae rhan fawr wrth lunio'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon yn siarad â
phenaethiaid yn Abertawe ar 14 Tachwedd. Mae Mick hefyd yn aelod o bwyllgor sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar "Ail-greu Ysgolion".

 

Tynnwyd sylw at y ffaith na chaiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno tan 2022. Dylai hyn ganiatáu digon o amser i athrawon allu cynllunio, gwella sgiliau/hyfforddiant a magu hyder. 

 

Dosbarthwyd copi o'r Cynllun Rhoi ar Waith Drafft ar gyfer y Cwricwlwm i Aelodau'r Pwyllgor i'w drafod a chynnig sylwadau arno a siaradon nhw o blaid y ddogfen.

 

Manylwyd ar, amlinellwyd a thrafodwyd cynnwys y ddogfen arfaethedig, sy'n cynnwys y meysydd canlynol:

·         Cyflwyniad a chefndir i'r cynigion;

·         Cyfranogaeth Ymgynghorwyr Her, grwpiau athrawon SCCASH a SCASEN;

·         Y pedwar prif gam i'w rhoi ar waith -

1.    Gwerthuso'r cwricwlwm presennol - mis Medi 2019-20

2.    Cynllunio a dylunio cwricwlwm newydd - mis Medi 2020-21

3.    Treialu a mireinio - mis Medi 2021-22

4.    Gweithredu, monitro ac adolygu - o fis Medi 2020 ymlaen

·      Cam 1 - mae ysgolion ar gamau gwahanol ar hyn o bryd, y neges sy'n cael ei lledaenu yw y dylid cymryd amser, ymchwilio, casglu tystiolaeth, gwella sgiliau, gwerthuso a rhoi adborth.

·      Nodau'r 3 Phrif Flaenoriaeth - paratoi a chefnogi ysgolion wrth ddiwygio'r cwricwlwm a hyrwyddo dysgu proffesiynol, datblygu ymagwedd gadarn at ddysgu disgyblion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu a chefnogi gweithlu gwybodus.  

·      Camau gweithredu - monitro anghenion ysgolion, cefnogi ysgolion wrth iddynt adolygu eu cwricwlwm presennol, adolygu gwersi a ddysgwyd gan ysgolion arloesi, yr angen i wella sgiliau athrawon, rhannu canfyddiadau ymchwil a gwybodaeth, gweithio gydag athrawon/rhieni/disgyblion, cydlynu gwaith clwstwr, hyrwyddo cwricwlwm cysylltiedig yn enwedig rhwng Blwyddyn 5, 6, 7 ac 8.

·      Ffyrdd o weithio - cefnogaeth gan ymgynghorydd her trwy ymweliadau/rhwydweithiau a rhaglenni datblygiad.

·      Pobl Arweiniol.

·      Cerrig milltir a chanlyniadau.

·      10 Cam - yn dechrau gydag adolygiad, yn cynnwys rhanddeiliaid, opsiynau gwahanol, cysylltiadau ar gyfer dysgu ac adolygu.

·      Ymagweddau sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth - hyrwyddo'r canfyddiadau o'r ymchwil ac arfer da megis Ymddiriedolaeth Sutton a'r Athro Stuart Kime a fydd yn siarad â'r fforwm Phenaethiaid ym mis Chwefror.

·      Cwricwlwm Cysylltiedig a Phrifddinas Diwylliannol - mae angen i ysgolion clwstwr weithio gyda'i gilydd i ddatblygu ymagwedd gydlynol at wybodaeth sgiliau a phrofiadau byd-eang/cenedlaethol/lleol.

·      Chwalu'r Chwedlau - Blog Cwricwlwm i Gymru sy'n darparu'r newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chyngor i ysgolion. Mae'r adran chwedlau'n tynnu sylw at nifer o gamddehongliadau o'r cwricwlwm sydd wedi dod i'r amlwg yn y system.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, amlinellodd Aelodau eu pryderon ynghylch y problemau amrywiol unwaith eto a gofynnwyd cwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys y newid llwyr o'r system bresennol i'r cwricwlwm newydd, a fydd gan ysgolion a staff addysg y gallu i newid, a fyddant yn gallu asesu a monitro yn y system, monitro'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, problemau ynghylch lefelau llythrennedd, cyfleoedd swyddi'r fargen ddinesig a chyfleoedd am hyfforddiant galwedigaethol, problemau ynghylch yr effaith bosib ar nifer o ysgolion bwydo gwahanol sy'n cysylltu ag un ysgol uwchradd, y mater o gynnwys athrawon yn y newidiadau gan ddibynnu ar eu hoedran/profiad etc, gwersi a ddysgwyd wrth ddiwygio'r cwricwlwm yn yr Alban, goblygiadau i blant sydd yn y system ar hyn o bryd a'r angen i fwyafu'r cyfleoedd i blant sydd dan anfantais.

 

Ymatebodd Swyddogion i'r materion a godwyd gan Aelodau ac a dynnwyd sylw ganddynt yn fanwl ac ymatebwyd yn unol â hyn ac amlinellwyd a chyfeiriwyd at y mentrau a'r cynlluniau amrywiol sy'n cael eu datblygu er mwyn cynorthwyo ysgolion ac athrawon gyda'r cwricwlwm newydd.

 

Croesawodd y Cadeirydd a'r Aelodau'r gwaith cefndir a wnaed hyd heddiw i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd gan ddiolch i'r swyddogion am yr wybodaeth a ddarparwyd yn ystod eu cyflwyniad.

 

25.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 203 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod cyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 11 Rhagfyr wedi'i ohirio o ganlyniad i'r Etholiad Cyffredinol ac aildrefnwyd i'r swyddogion a oedd am fod yn bresennol ddod i gyfarfod y pwyllgor ym mis Chwefror.