Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Trosolwg o Gynllun Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd gan Swyddogion Addysg. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Damien
Beech a Rob David gyflwyniad llafar a oedd yn amlinellu'r cefndir a'r gwaith a
wnaed hyd yma er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Tynnwyd sylw at y
ffaith y sefydlwyd Grŵp Addysgu, Asesu a Chwricwlwm Abertawe â
chynrychiolaeth o'r cyfnodau cynradd ac uwchradd, gyda chymysgedd da o ysgolion
wedi'u cynrychioli arnynt. Dywedwyd bod y grŵp yn cynnwys amrywiaeth eang
o benaethiaid profiadol iawn, y mae un ohonynt ar hyn o bryd ar secondiad gydag
ERW fel Pennaeth y Cwricwlwm. Cyfeiriwyd at y
cyngor da a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn ei blog a'r digwyddiadau
ymgysylltu amrywiol a drefnir gan ERW. Mynegwyd bod y cyngor a roddir i
ysgolion gan yr Awdurdod yn cyd-fynd â'r hyn y caiff ei ddarparu gan Lywodraeth
Cymru ac ERW. Mynegwyd mai'r
neges gyffredinol sy'n dod o ERW yw na ddylai ysgolion fod yn nerfus neu'n
ofnus o'r cwricwlwm newydd, wrth gydnabod ei fod yn gam sylweddol i ffwrdd o'r
system bresennol. Mae'r grŵp
wedi trefnu ymweliadau ag ysgolion arloesol a Gwella Ansawdd ac maent hefyd
wedi gweithio gydag ysgolion yng Nghaerdydd a'r Fro ac maent yn nodi cymaint o
dystiolaeth o arfer da â phosib er mwyn gallu paratoi ysgolion yn Ninas a Sir
Abertawe cystal â phosib. Nodwyd y
dosbarthwyd pecyn cymorth cychwynnol i ysgolion cynradd. Mynegwyd ei fod
yn anochel y bydd y cwricwlwm newydd ychydig yn wahanol ym mhob ysgol ond
dylai'r sail gyffredinol a'r cefndir fod yn debyg. Mynegwyd y bydd
yr Athro Mick Walters a oedd wedi chwarae rhan fawr wrth lunio'r safonau
proffesiynol newydd ar gyfer athrawon yn siarad â Tynnwyd sylw at y
ffaith na chaiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno tan 2022. Dylai hyn ganiatáu
digon o amser i athrawon allu cynllunio, gwella sgiliau/hyfforddiant a magu
hyder. Dosbarthwyd copi
o'r Cynllun Rhoi ar Waith Drafft ar gyfer y Cwricwlwm i Aelodau'r Pwyllgor i'w
drafod a chynnig sylwadau arno a siaradon nhw o blaid y ddogfen. Manylwyd ar,
amlinellwyd a thrafodwyd cynnwys y ddogfen arfaethedig, sy'n cynnwys y meysydd
canlynol: ·
Cyflwyniad
a chefndir i'r cynigion; ·
Cyfranogaeth
Ymgynghorwyr Her, grwpiau athrawon SCCASH a SCASEN; ·
Y
pedwar prif gam i'w rhoi ar waith - 1.
Gwerthuso'r
cwricwlwm presennol - mis Medi 2019-20 2.
Cynllunio
a dylunio cwricwlwm newydd - mis Medi 2020-21 3.
Treialu
a mireinio - mis Medi 2021-22 4.
Gweithredu,
monitro ac adolygu - o fis Medi 2020 ymlaen ·
Cam
1 - mae ysgolion ar gamau
gwahanol ar hyn o bryd, y neges sy'n cael ei lledaenu yw y dylid cymryd amser,
ymchwilio, casglu tystiolaeth, gwella sgiliau, gwerthuso a rhoi adborth. ·
Nodau'r
3 Phrif Flaenoriaeth - paratoi a chefnogi ysgolion wrth ddiwygio'r cwricwlwm a
hyrwyddo dysgu proffesiynol, datblygu ymagwedd gadarn at ddysgu disgyblion sy'n
seiliedig ar dystiolaeth a datblygu a chefnogi gweithlu gwybodus. ·
Camau
gweithredu - monitro anghenion ysgolion, cefnogi ysgolion wrth iddynt adolygu
eu cwricwlwm presennol, adolygu gwersi a ddysgwyd gan ysgolion arloesi, yr
angen i wella sgiliau athrawon, rhannu canfyddiadau ymchwil a gwybodaeth,
gweithio gydag athrawon/rhieni/disgyblion, cydlynu gwaith clwstwr, hyrwyddo
cwricwlwm cysylltiedig yn enwedig rhwng Blwyddyn 5, 6, 7 ac 8. ·
Ffyrdd
o weithio - cefnogaeth gan ymgynghorydd her trwy ymweliadau/rhwydweithiau a
rhaglenni datblygiad. ·
Pobl
Arweiniol. ·
Cerrig
milltir a chanlyniadau. ·
10
Cam - yn dechrau gydag
adolygiad, yn cynnwys rhanddeiliaid, opsiynau
gwahanol, cysylltiadau ar gyfer dysgu ac adolygu. ·
Ymagweddau
sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth - hyrwyddo'r canfyddiadau o'r ymchwil ac arfer da megis Ymddiriedolaeth
Sutton a'r Athro Stuart Kime a fydd yn siarad â'r
fforwm Phenaethiaid ym mis Chwefror. ·
Cwricwlwm
Cysylltiedig a Phrifddinas Diwylliannol - mae angen i ysgolion clwstwr weithio gyda'i
gilydd i ddatblygu ymagwedd gydlynol at wybodaeth sgiliau a phrofiadau
byd-eang/cenedlaethol/lleol. ·
Chwalu'r
Chwedlau - Blog Cwricwlwm
i Gymru sy'n darparu'r newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chyngor i ysgolion.
Mae'r adran chwedlau'n tynnu sylw at nifer o gamddehongliadau o'r cwricwlwm
sydd wedi dod i'r amlwg yn y system. Yn dilyn y
cyflwyniad, amlinellodd Aelodau eu pryderon ynghylch y problemau amrywiol
unwaith eto a gofynnwyd cwestiynau ar bynciau amrywiol gan gynnwys y newid
llwyr o'r system bresennol i'r cwricwlwm newydd, a fydd gan ysgolion a staff
addysg y gallu i newid, a fyddant yn gallu asesu a monitro yn y system,
monitro'r cwricwlwm newydd a'i roi ar waith, problemau ynghylch lefelau llythrennedd,
cyfleoedd swyddi'r fargen ddinesig a chyfleoedd am hyfforddiant galwedigaethol,
problemau ynghylch yr effaith bosib ar nifer o ysgolion bwydo gwahanol sy'n
cysylltu ag un ysgol uwchradd, y mater o gynnwys athrawon yn y newidiadau gan
ddibynnu ar eu hoedran/profiad etc, gwersi a ddysgwyd wrth ddiwygio'r cwricwlwm
yn yr Alban, goblygiadau i blant sydd yn y system ar hyn o bryd a'r angen i fwyafu'r cyfleoedd i blant sydd dan anfantais. Ymatebodd
Swyddogion i'r materion a godwyd gan Aelodau ac a dynnwyd sylw ganddynt yn
fanwl ac ymatebwyd yn unol â hyn ac amlinellwyd a chyfeiriwyd at y mentrau a'r
cynlluniau amrywiol sy'n cael eu datblygu er mwyn cynorthwyo ysgolion ac
athrawon gyda'r cwricwlwm newydd. Croesawodd y
Cadeirydd a'r Aelodau'r gwaith cefndir a wnaed hyd heddiw i baratoi ar gyfer y
cwricwlwm newydd gan ddiolch i'r swyddogion am yr wybodaeth a ddarparwyd yn
ystod eu cyflwyniad. |
|
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 203 KB Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd fod cyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 11 Rhagfyr wedi'i ohirio
o ganlyniad i'r Etholiad Cyffredinol ac aildrefnwyd i'r swyddogion a oedd am
fod yn bresennol ddod i gyfarfod y pwyllgor ym mis Chwefror. |