Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

 

12.

Trafodaeth gydag ysgolion.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl aelodau staff o ysgolion Gellifedw, Bryn Tawe, Pentrehafod a Phontarddulais i'r cyfarfod.

 

 

 

Pentrehafod

Amlinellodd Jennifer Ford a Lisa Carroll y cynnydd a wnaed gan eu hysgolion a'r mentrau roedd eu hysgolion wedi ymwneud â nhw ers cyhoeddiad adroddiad yr Athro Donalsdson yn 2015.

 

Dywedwyd mai nod y gwaith a wnaed oedd gwella'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol. Un mater allweddol iddynt oedd canolbwyntio ar lythrennedd ac fe'i datblygwyd ar y cyd â'r saith ysgol glwstwr. Dilynwyd hyn mewn meysydd gwahanol gan gynnwys y dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg a sgiliau digidol, gyda phwyslais ar ddysgu trawsbynciol.

 

Mae gan eu llwybr dysgu bedwar diben craidd.

 

Mae trefniadau trosglwyddo wedi'u diwygio a'u diweddaru, a chaniataodd grant gan Lywodraeth Cymru i'r ysgol ddatblygu cynllun a oedd yn cynnwys artistiaid/storïwyr yn y dyddiau trosglwyddo. Nod y prosiect oedd cael pobl ifanc i ail-ymwneud â'r gair ysgrifenedig.

 

Nodwyd a thargedwyd disgyblion â chyrhaeddiad isel gyda chymorth a chefnogaeth ychwanegol. Cyflawnir hyn drwy wersi ychwanegol, clybiau amser cinio a chlybiau ar ôl ysgol ac ati. Roedd yr ysgol hefyd yn newid o fod yn ysgol â 9 dosbarth mynediad i fod yn ysgol â 7 dosbarth mynediad, felly bydd hyn o gymorth i'r bobl ifanc gan y bydd y dosbarthiadau'n llai o faint.

 

Hefyd, roedd cynllun 3 llwybr newydd ynghylch darpariaeth TG/Digidol yn cael ei ddatblygu yng nghyfnod allweddol 4.

 

Penodwyd 'arweinydd dysgu' a oedd hefyd yn gweithio ar draws yr ysgolion clwstwr, ac fe brofodd hyn yn fuddiol.

 

Treialwyd amserlen a darpariaeth newydd ar gyfer y Dyniaethau eleni hefyd, ac mae hyn wedi gweithio'n dda.

 

Yn ddiweddar datblygwyd strwythur arweinyddiaeth ganol ddiwygiedig a dangoswyd copïau ohono i aelodau'r pwyllgor. Doedd hyn ddim yn hollol unol â model Donaldson ond mae wedi profi'n llwyddiannus i'r ysgol.

 

Mae'r ysgol hefyd yn bwriadu datblygu'r rôl Sgiliau, Dinasyddiaeth a Lles ac yn gobeithio ei chysylltu â Bagloriaeth Cymru a phynciau galwedigaethol y mae'n darparu.

 

Amlinellwyd cysylltiad â chwmni o'r enw Empathy Lab, yr ydynt yn gweithio gyda nhw i wella llythrennedd ymhellach a chynyddu empathi.

 

Soniwyd eu bod wedi derbyn grant i wella cysylltiadau a pherthnasoedd gweithio gydag ysgolion clwster ac roedd hyn yn cael ei ddatblygu mewn perthynas â chwmni o'r enw Nesta. Erbyn hyn, datblygwyd gynllun gweithredu ar gyfer hwn ac mae hyn yn cyd-fynd â'r arfer adferol a'r cynlluniau llythrennedd sydd eisoes yn weithredol.

 

Nodwyd eu bod yn gweithio'n dda a'u bod mewn cysylltiad â'r Ymgynghorwyr Herio.

 

Amlinellwyd y gefnogaeth dda roedd yr ysgol yn ei derbyn gan ERW ac amlinellwyd bod yr Athro Donaldson wedi ymweld â'r ysgol yn ddiweddar, a brofodd yn ddefnyddiol iawn.

 

Gellifedw

 

Amlinellodd Andrew Owen a Jamie Kelleher nad oedd eu hysgol yn ysgol arloesol.  Manylwyd ar y gwaith a oedd yn mynd rhagddo yn eu hysgol.

 

Dywedwyd eu bod wedi mabwysiadu ymagwedd ofalus at newid, wrth barhau i ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol ar yr un pryd. Dywedwyd eu bod yn gweithio gydag ERW i wella sgiliau'r staff wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Diwygiwyd y strwythur rheoli a'r strwythur adrannol yn yr ysgol i ddatblygu gwybodaeth a phrofiad y staff gyda'r nod o gynnal cyfanrwydd pwnc yn y dyfodol, sy'n allweddol ar gyfer disgyblion sy'n dymuno astudio Lefel A a symud ymlaen i Brifysgol.

 

Byddant yn trafod ymhellach sut i ddatblygu model ar gyfer yr ysgol yn y dyfodol gyda'r Ymgynghorwyr Herio.

 

Cyfeiriwyd at bryder disgwyliedig rhai athrawon tuag at y cwricwlwm newydd, a oedd yn ddealladwy.

 

Amlinellwyd y gefnogaeth ragorol a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol ac amlinellwyd prawf o fenter dysgu drawsbynciol mwy thematig gyda'r nod o gynorthwyo a hybu gwelliant.

 

Rhoddwyd cyflwyniad powerpoint a oedd yn cynnwys y pynciau canlynol:

·         4 prif egwyddor craidd a matrics dysgwr;

·         egwyddorion allweddol mewn dylunio cwricwlwm;

·         pwyslais cryf ar ddatblygu gwybodaeth bynciol;

·         gwybodaeth cyn sgiliau a chysylltiadau allweddol rhwng dysgu trawsbynciol;

·         pwysigrwydd asesu;

·         4 pwrpas dysgu allweddol yn CA3 ac ardaloedd datblygu personol cysylltiedig;

·         Asesiadau a nodau gwella blwyddyn 8;

·         Cefnogi staff - llyfrgell DPP ar-lein, rhwydwaith Twitter, gwybodaeth ymchwil ac ati;

·         Cefnogaeth ysgol i ysgol, cysylltiad ac arfer rhannu da ag ysgolion clwstwr ac ysgolion cyfun lleol ac ar draws de Cymru;

·         rhaglen gwella a chyfoethogi yn ei lle ar hyn o bryd;

·         cynigion datblygu sgiliau yn y dyfodol;

 

Amlinellwyd bod y cysylltiadau a'r berthynas ag ysgolion clwstwr yn hanfodol bwysig i lwyddiant yr ysgol yn y dyfodol a chyfeiriwyd at gyfarfod diweddar rhyngddynt a fydd yn cael ei ddilyn ym mis Medi.

 

Dywedwyd y byddai'r mentrau a'r cynnydd cychwynnol a roddwyd ar waith mewn Mathemateg a Saesneg yn cael eu cyflwyno ar draws y pynciau eraill.

 

Dywedodd, yn debyg i ysgolion eraill, fod llythrennedd yn broblem yn yr ysgol, ond bod gwraidd hon yn ddyfnach na'r ysgol ei hun a'r ysgolion sy'n ei bwydo, ac yn broblem gymdeithasol, gyda phobl ifanc yn darllen llai yn gyffredinol.

 

Cyfeiriwyd at y broblem o recriwtio athrawon sy'n wynebu ysgolion.

 

Pontarddulais

 

Dywedodd Janet Waldron a Nia Miles fod eu hysgol wedi bod yn rhan o'r cynllun arloesol.

 

Dywedwyd bod gan eu hysgol dîm arwain sefydlog a gwydn ac amlinellwyd eu cysylltiadau cryf, hir sefydledig a’u trefniadau partneriaeth gyda'u pum ysgol glwstwr.

 

Rhoddwyd cyflwyniad powerpoint a oedd yn cynnwys y pynciau canlynol:

·         Cefndir i gael ei dewis yn Ysgol Arloesol yn 2016;

·         Amserlen o’r cynnydd a wnaed ers cyhoedd 'dyfodol llwyddiannus' yn 2015 hyd yma, y 7 maes dysgu a ddewiswyd, ymagwedd wahanol at y dyniaethau, gwaith ychwanegol gydag ysgolion sy'n bwydo;

·         Cyfnod prawf ar gyfer newid a oedd yn caniatáu i staff ddatblygu;

·         4 pwrpas craidd ar gyfer dysgu a chopi o boster a oedd yn amlinellu’r rhain, sydd wedi'i arddangos o gwmpas yr ysgol;

·         Camau cynnydd a datganiadau 'yr hyn sydd o bwys' - gwybodaeth wedi ei dosbarthu rhwng aelodau;

·         Hydref 2018 - Ehangu a llunio amserlen a phenodi arweinydd dysgu ERW;

·         Hydref 2018 - cwricwlwm newydd ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Iechyd a Lles;

·         Gwanwyn 2019 - 12 egwyddor addysgeg - gwerthusiad a blaengynllunio;

·         Barn ar y cwricwlwm newydd - cryfderau a phryderon;

·         Nod o gyflwyno cwricwlwm newydd yn 2020 ar gyfer blwyddyn 8.

 

Bryn Tawe

 

Amlinellodd Simon Davies a Nerys Vaughan fod eu hysgol wedi'i dewis yn ysgol arloesol a rhoddwyd cyflwyniad powerpoint ganddynt a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

·         4 pwrpas craidd a grym ysgogol y tu ôl i'r newid;

·         perthynas waith agos ag YG Gŵyr;

·         cyfnod arbrofol ar gyfer modelau curricula gwahanol;

·         rhoddwyd ystyriaeth i safbwyntiau pobl ifanc a staff yn ystod y broses;

·         tîm cynllunio cwricwlwm - ystyriaeth ac adolygiad o gasgliadau;

·         yr egwyddor allweddol yw i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac i roi'r profiadau gorau i'n myfyrwyr;

·         newidiadau o ran addysgu rhai pynciau er mwyn rhoi ffocws mwy lleol ar adeiladu ar wybodaeth leol a chyfleoedd ar gyfer dysgu;

·         6 phrif faes dysgu;

·         3 thema drawsgwricwlaidd;

·         datganiadau 'yr hyn sydd o bwys' a chysylltiadau rhagorol gyda 6 o ysgolion sy'n bwydo;

·         12 egwyddor addysgeg a chamau cynnydd;

·         yn y dyfodol - digwyddiadau ysgolion clwstwr, yr angen i barhau â dysgu proffesiynol, gwella sgiliau a chefnogi staff;

 

Amlinellwyd ganddynt ymhellach, gan ei bod hi bellach yn dair blynedd ers iddyn nhw ddechrau'r prosiect ysgol arloesol, ac ar ôl ymweld ag ysgolion arloesol eraill, eu bod nhw a'r staff yn teimlo'n hyderus, y bydd y cwricwlwm newydd o fudd i bobl ifanc yn y tymor hir.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y mater difrifol sy’n wynebu ysgolion o ran recriwtio athrawon, yn benodol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac yn arbennig mewn pynciau megis gwyddoniaeth and TG.

 

Gofynnodd yr aelodau a'r swyddogion gwestiynau amrywiol i gynrychiolwyr yr ysgol ynghylch y pynciau a amlinellwyd uchod a'r trafodaethau hir a manwl a gynhaliwyd yn y cyfarfod, ac ymatebodd y cynrychiolwyr yn briodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r penaethiaid a'u cydweithwyr am eu cyfraniad ac am eu presenoldeb.

 

13.

Cynllun Gwaith 2019 - 2020. pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Nodwyd.