Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2019 fel cofnod
cywir. |
|
Gwerthuso defnydd arian GAD ar draws ysgolion Abertawe PDF 110 KB Cofnodion: Cyfeiriodd Helen
Morgan-Rees at yr adroddiad a gylchredwyd, a oedd yn amlinellu'r dystiolaeth
a'r ystadegau a gasglwyd gan adroddiadau'r Ymgynghorwyr Herio mewn perthynas â
gwariant o'r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) gan ysgolion yn ystod hydref 2018. Amlinellwyd y
data ar gyfer Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â chanlyniadau Cymru gyfan,
ynghyd â'r tablau tystiolaeth mewn perthynas â meysydd gwariant y GDD a
gweithgareddau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Abertawe. Trafododd aelodau'r
ystadegau a gofynnont gwestiynau i'r swyddog, yn enwedig ynghylch y meysydd
canlynol: yr angen i ddysgu gan awdurdodau lleol eraill a rhannu enghreifftiau
o arfer da'n lleol mewn perthynas â gwariant y GDD, y bwlch rhwng cyrhaeddiad
disgyblion DASA o'u cymharu â chanlyniadau disgyblion Cymru gyfan, y rhesymau
dros y gwahaniaeth rhwng safonau marcio rhwng cyfnodau allweddol 3 a 4 a'r
angen am ymagwedd genedlaethol at wella safonau asesu addysgu. Atebodd y swyddog
gwestiynau'r aelodau'n briodol. Amlinellodd hefyd
syniadau ar gyfer y 4 prif faes a nodwyd ar gyfer datblygiad yn y dyfodol mewn
ysgolion mewn perthynas â'r GDD: ·
Yr uwch-arweinydd a enwir yn yr ysgol (o'r uwch-dîm
arweinyddiaeth) i hyrwyddo disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Bydd
ganddo gyfrifoldeb am weithredu'r grant yn strategol. ·
Y tîm arweinyddiaeth i adolygu strategaethau ymyrryd yn
rheolaidd a darparu tystiolaeth o hyn. Dylai ymyriadau a gaiff eu dewis i'w
gweithredu fod yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth gadarn. Dylent gynnwys
meini prawf ar gyfer mynediad a gadael y gellir eu mesur sy'n hysbysu staff a
disgyblion am y cynnydd sy'n cael ei wneud. ·
Gwneud y gorau o gynnydd disgyblion mwy abl a thalentog
sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim drwy ddefnyddio'r GDD mewn modd mwy penodol
ac effeithiol ar gyfer y grŵp hwn o ddisgyblion. Dylai cynllun y GDD
nodi'r disgyblion hyn a dangos/gwerthuso camau gweithredu/gweithgareddau i'w
cefnogi. Lle bo'n berthnasol, dylid cynnwys y ddarpariaeth a'r gwerthusiad o'r
gweithgareddau/adnoddau a ddefnyddiwyd i gefnogi dysgu disgyblion PDG/PYD.
Datblygu'r broses o fonitro cynnydd academaidd y grŵp hwn o ddisgyblion yn
rheolaidd ymhellach. ·
Cyflwyno adroddiadau safonedig am y defnydd o'r GDD i'r
Ymgynghorydd Herio fel rhan o fonitro SV1, a hefyd gyflwyno'r rhain i'r
awdurdod lleol erbyn dyddiad penodol. Mae'r meysydd y dylid adrodd amdanynt yn
cynnwys symiau cyllideb a dadansoddiad o'r effaith ar y meysydd canlynol y
llynedd: y Blynyddoedd Cynnar, y Cyfnod Sylfaen, cyfnodau allweddol 2, 3 a 4,
ADY, MAT a PDG. Dylai adroddiadau hefyd gynnwys gwariant arfaethedig, gan
nodi'r ymagwedd ddethol a'r rhesymeg dros ddewis y strategaeth gweithredu hon a
chan nodi staff arweiniol ac amserlen adolygu gyda deilliannau dymunol. ·
Dylai'r ysgolion e-bostio Is-adran Cyllid yr awdurdod
lleol erbyn dyddiad penodol i gadarnhau bod cynlluniau'r GDD, ar gyfer y
llynedd ac eleni, yn fyw ar y wefan. Amlinellodd hefyd y cynigion ar gyfer y newid mewn cyllid a ddirprwyir i
ddisgyblion PDG o fis Ebrill, a fydd ar sail clwstwr yn hytrach na thîm a
arweinir yn ganolog. Bydd y pwyslais yn symud o ffocws ar ddisgyblion blwyddyn
10 ac 11 i ymagwedd sy'n canolbwyntio'n fwy ar yr ysgol gyfan. Amlinellodd y
goblygiadau staffio posib oherwydd y newid, a nododd fod deialog yn parhau ag
ysgolion ar y newidiadau arfaethedig. Trafododd aelodau'r cynigion uchod a gofynnont gwestiynau amrywiol i'r
swyddog, a ymatebodd yn briodol. Cytunwyd y dylid cefnogi'r pum maes a amlinellwyd
uchod a chytuno arnynt. |
|
Cyfeiriadur Arfer, Adolygiadau Cymheiriaid Ysgol i Ysgol a thempledi (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Helen
Morgan-Rees gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol ar y pynciau canlynol: ·
Y
sefyllfa bresennol mewn perthynas ag arfer da, templedi ac adolygiadau
cymheiriaid mewn perthynas â'r Grant Datblygu Disgyblion; ·
Arfer
Da – Cyfeiriadur Abertawe, Sefydliad Gwaddol Addysg a digwyddiad diweddar gyda
chyfarwyddwr Sefydliad Gwaddol Addysg a'r holl benaethiaid yn Abertawe,
Llywodraeth Cymru, Ysgol i Ysgol, Arweiniad i Ymarferwyr, gwaith a nodwyd drwy
adolygiadau cymheiriaid, digwyddiadau rhanbarthol; ·
Templedi
– Cyfarfod rhwng arweinwyr GDD Abertawe ag ERW, Rhwystrau i Ddysgu, Iechyd a
Lles, Ymagweddau Ysgol Gyfan, Enghreifftiau o Arfer Da; ·
Adolygiadau
Cymheiriaid – cynllun peilot yn Ysgol Bryntawe, enghreifftiau cyffredinol ac adolygiadau
cymheiriaid presennol, disgwyliadau gofynnol. Trafododd aelodau
gynnwys y cyflwyniad a gwnaethant gytuno y dylid ychwanegu'r pum maes y
cytunwyd arnynt yng Nghofnod 37 uchod, at y Cyfeiriadur Arfer Da. Trafododd aelodau
ymhellach y meysydd a'r pynciau a godwyd heddiw ac yn flaenorol a oedd yn
berthnasol i'r GDD, ynghyd â meysydd i'w datblygu a'u gwella, fel y'u
hamlinellwyd yng Nghofnod 37 ac y manylwyd arnynt uchod, a gwnaethant gytuno
bod y rhain yn ffurfio adroddiad drafft i'r Cabinet y gallai'r pwyllgor ei
ystyried yn ei gyfarfod nesaf fel sail cymeradwyaeth i'r Aelod y Cabinet ei
fabwysiadu a'i gyflwyno i'r holl ysgolion. |
|
Adroddiad y Cabinet am Sgiliau 14-19 (Diweddariad ar lafar) Cofnodion: Rhoddodd Helen
Morgan-Rees ddiweddariad llafar mewn perthynas â'r materion a nodir yn
adroddiad blaenorol y pwyllgor i'r Cabinet am Ddatblygiad Sgiliau'r Fargen
Ddinesig ac amlinellodd y cynnydd a wnaed gan Bartneriaeth Sgiliau Abertawe
(PSA). Mae'r grŵp,
sy'n cynnwys cynrychiolwyr o DASA, prifysgolion, colegau lleol ac ysgolion a
Gyrfa Cymru, wedi cwrdd sawl gwaith a chytunodd y grŵp, yn ei gyfarfod ym
mis Chwefror, ar ei ddau brif amcan allweddol, sef Galluogrwydd
Digidol a Chefnogaeth a Chyngor Gwell ar gyfer Hyfforddiant Galwedigaethol a
Chymwysterau. Nododd hefyd fod
dau is-grŵp o PSA wedi'u sefydlu i oruchwylio a datblygu'r ddau destun. Roedd yr
aelodau'n awyddus i fabwysiadu'r ddau destun a oedd yn adlewyrchu materion a
phryderon a godwyd ganddynt yn flaenorol ond gwnaethant holi pam nad oedd
unrhyw gynrychiolwyr o ddiwydiant/fusnesau ar PSA neu is-grwpiau a gofyn i'r
swyddogion geisio cynnwys cynrychiolwyr priodol lle bo'n bosib wrth symud
ymlaen a sicrhau y nodir anghenion y farchnad lafur leol. Amlygir y cais
hwn yn yr adroddiad diweddaru perthnasol i'r Cabinet, a fyddai'n amlinellu'r cynnydd
ar y fenter sgiliau. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 100 KB Cofnodion: Gofynnodd y
Cadeirydd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â
chynnydd ar weithredu'r cwricwlwm newydd gael ei darparu i'r pwyllgor yn ei
gyfarfod nesaf. Gall hon fod yn
wybodaeth gefndirol ar gyfer sail testun i'w adolygu yn y flwyddyn ddinesig
newydd. Ceisir hefyd farn Ysgolion Arloesi presennol. Penderfynwyd ychwanegu diweddariad llafar newydd
ynghylch y cwricwlwm newydd at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf. |