Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatgelwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2018 fel cofnod
cywir. |
|
Clybiau ar ôl Ysgol. (Trafodaeth) Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd, mewn perthynas â thynnu sylw at y mater yn y cyfarfod blaenorol, fod
yr eitem wedi'i rhoi ar yr agenda er mwyn i aelodau ei thrafod ymhellach a
chael mewnbwn swyddogion perthnasol o'r Adran Addysg. Nododd Sue Edgar
fod y sector cynradd yn rhoi gwerth mawr ar glybiau ar ôl ysgol (CAY). Dywedodd
y bydd y ddarpariaeth ar ôl ysgol yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn cael ei
chydlynu'n ofalus ar ddechrau'r flwyddyn ysgol gan yr Uwch-grŵp
Arweinyddiaeth. Dywedodd fod
athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff cefnogi eraill yn cyflawni rôl hanfodol
wrth ddarparu CAY. Efallai bydd peth cymorth allanol yn cael ei ddarparu gan
rieni/neiniau a theidiau/gwirfoddolwyr etc., ond darperir y rhan fwyaf o
glybiau a gweithgareddau'n wirfoddol gan staff yr ysgol. Dywedodd Rob
Davies y byddai darpariaeth clybiau yn y sector uwchradd yn cael ei rhannu
rhwng amser cinio ac ar ôl ysgol. Bydd mathau amrywiol o glybiau a grwpiau
megis adolygu, astudio, dal i fyny, gwaith cartref, chwaraeon, drama etc.
Dywedodd yn y sector uwchradd fod CAY a gweithgareddau ymyriad/dal i fyny'n gyffredinol yn hanfodion gwahanol, er bod rhywfaint
o orgyffwrdd. Byddai sesiynau astudio/adolygu ar ôl ysgol fel arfer yn
anffurfiol ac ni fyddai presenoldeb yn orfodol. Fodd bynnag, disgwylid i
ddisgyblion fod yn bresennol ar gyfer sesiynau ymyriad/dal i fyny, a byddai
sesiynau fel arfer yn cael eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol a gellid olrhain
cynnydd disgyblion yn agosach. Pwysleisiodd
hefyd fod y rhan fwyaf o ddarpariaeth mewn ysgolion uwchradd hefyd yn cael ei
darparu'n wirfoddol gan staff, a gall hyn gynnwys dosbarthiadau adolygu yn
ystod y gwyliau ysgol. Crybwyllodd y
bwriad i wella ansawdd "addysgu gyntaf" a'r angen i olrhain
disgyblion sydd ar ei hôl hi'n well, er mwyn targedu cefnogaeth a chymorth ar
eu cyfer yn well. Dywedodd, yn
enwedig ar gyfer disgyblion hŷn, y caiff mwy o bwyslais ei roi ar glybiau
adolygu/astudio i gynorthwyo gyda pharatoi ar gyfer arholiadau. Trafododd
aelodau'r materion a'r pynciau a gododd o fewnbwn y swyddogion, a gofynnwyd
cwestiynau amrywiol a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol: ·
Beth
yw'r cydbwysedd a'r rhaniad rhwng darpariaeth clybiau ar draws y sir yn y 3
maes canlynol - sgiliau cymdeithasol, cyfoethogi'r cwricwlwm a chefnogaeth
astudio; ·
Effaith
tiwtora preifat ar ganlyniadau arholiadau a'r effaith
ddilynol ar ddisgyblion na allant fforddio tiwtora
preifat ynghyd â'u canlyniadau. ·
Angen
annog plant y mae angen help ychwanegol arnynt i ddod i glybiau
astudio/adolygu; ·
Cost
ac oriau gweithredu CAY; ·
Pwysigrwydd
cynnal yr ewyllys da presennol a chydweithrediad athrawon a staff eraill yr
ysgol, a'r angen i amlinellu a hybu pa mor ddiolchgar y mae’r
awdurdod/rhieni/disgyblion am y swm enfawr o ddyletswyddau gwirfoddol yr
ymgymerir â nhw ac a ddarperir; ·
Argaeledd
cludiant ysgol am ddim yn dilyn CAY a'i effaith ar bresenoldeb os nad yw ar
gael; ·
Angen
cael disgyblion sy'n cyflawni'n uwch i ymgymryd â rolau mentora a chefnogi ar gyfer cyd-ddisgyblion; ·
Angen
posib i ddatblygu rhwydweithiau clwstwr a nodi arfer da a/neu arbenigedd i
alluogi ysgolion i ddarparu clybiau/gweithgareddau na fyddent yn eu darparu fel
arall; ·
Sut
ddarpariaeth sydd ar gael mewn awdurdodau eraill o'i chymharu ag Abertawe. Trafododd y
swyddogion y materion a godwyd gan ymateb yn unol â hyn. Dywedon nhw y byddent
yn ceisio cydlynu'r wybodaeth am lefel y ddarpariaeth ym mhob ysgol drwy eu
rhwydweithiau a'u cyfarfodydd proffesiynol a'u cysylltiadau mewn ysgolion, ac y
byddent yn adrodd yn ôl maes o law. |
|
Adolygu'r dystiolaeth/gwybodaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor hyd yma. (Llafar) Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cyfarfodydd amrywiol a gynhaliwyd ers dechrau'r flwyddyn
ddinesig ym mis Mai ac amlinellodd y materion a drafodwyd a'r wybodaeth a
dderbyniwyd gan y pwyllgor, yn enwedig yn y meysydd canlynol: ·
Tueddiadau
data ar gyfer disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim; ·
Y
Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a'r Premiwm Disgybl; ·
Yr
angen i ysgolion ddefnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth; ·
Pecyn
Cymorth y Sefydliad Gwaddol Addysg; ·
Ymagwedd
ysgol gyfan; ·
Ymagwedd
disgybl. Trafododd
aelodau'r angen i fonitro'n well sut caiff arian ei wario mewn ysgolion a'r
angen i gyferbynnu a chymharu sut dyrennir yr arian ledled yr awdurdod. Amlinellwyd a
thrafodwyd eto’r posibilrwydd o wneud gwariant y GDD
yn eitem safonol ar agendâu Cyrff Llywodraethu, a/neu drefnu bod llywodraethwr
yn gyfrifol am y mater, yn debyg i drefniadau presennol ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal, bwlio etc. Trafodwyd y
posibilrwydd o ddatblygu canllawiau "arfer da" a gwybodaeth i Gyrff
Llywodraethu am wariant y GDD ynghyd â'r defnydd o'r pecyn cymorth fel
canlyniad posib ar gyfer yr adolygiad. Derbyniodd aelodau y gallai unrhyw
ganllawiau arfer da fod yn rhai ymgynghorol eu natur yn unig ar gyfer ysgolion. Dywedodd y
Cadeirydd y byddai'n cael mwy o drafodaethau â'r Cyfarwyddwr Addysg ar y
materion a godwyd yn ystod y cyfarfod ac yn adrodd yn ôl i gyfarfodydd y
dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 100 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig
2018/2019. Caiff y pwnc
clybiau ar ôl ysgol ei drafod ymhellach yn y flwyddyn newydd yn dilyn yr
ymchwil a'r ymgynghoriad angenrheidiol gan swyddogion. Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith fel y'i dangosir yn yr
adroddiad |