Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliaua gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf ac 12 Medi 2018 fel cofnodion cywir

21.

Gwybodaeth gefndir am Arolygiadau Estyn, Canllawiau Llywodraeth Cymru, a'r gwahaniaeth rhwng y Grant Datblygu Disgyblion a'r Premiwm Disgybl. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Rhoddodd Nick Williams gyflwyniad manwl ac addysgiadol a oedd yn rhoi trosolwg o'r pynciau uchod.

 

Cynhwyswyd y meysydd canlynol yn y cyflwyniad a manylwyd arnynt:

·       Y prif newidiadau i weithdrefnau arolygiadau Estyn a phroses wedi'i symleiddio o'r pum prif faes arolygu;

·       Grant Datblygu Disgyblion, Grant Amddifadedd Disgyblion gynt – Cyflwynwyd yn 2012/2013 i ddarparu arian ychwanegol i ysgolion sy'n seiliedig ar nifer y disgyblion sy'n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim (PYDd);

·       Mae'r Grant Datblygu Ysgolion hefyd yn darparu arian i gonsortia rhanbarthol i'w wario ar blentyn sy'n derbyn gofal (PDG);

·       Ehangwyd y Grant Datblygu Disgyblion yn 2015/2016 i gynnwys plant rhwng 3 a 5 oed;

·       Cafodd ei ehangu ymhellach i gynnwys plant heblaw yn yr ysgol (EOTAS);

·       Arweiniad Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion;

·       Mae ymgynghorwyr herio yn monitro sut mae'r arweiniad hwn yn cael ei ddefnyddio a'i roi ar waith mewn ysgolion, cynhwysir hyn yn adroddiad ymweliad yr ymweliad cefnogi ar gyfer tymor yr hydref (SV1);

·       Cafwyd 31 o argymhellion trosgynnol gan LlC ynghylch sut y dylid targedu'r arian i wella deilliannau addysgol;

·       Dylan Williams yw'r ymgynghorydd ERW lleol yn Abertawe;

·       Syr Alasdair McDonald yw'r Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer y fenter 'Lleihau'r Bwlch Cyflawniad a Dysgu Gan Eraill ond Gweithredu yn Eich Ffordd Eich Hunan';

·       Pecyn Cymorth Dysgu ac Addysgu Sefydliad Gwaddol Addysg - ymarfer gwerthuso a deilliannau.

 

Trafododd aelodau'r pwyllgor y materion amrywiol a godwyd yn ystod y cyflwyniad a gofynnon nhw gwestiynau i'r swyddog, ac ymatebodd yn briodol. Roedd hyn yn cynnwys sylwadau ac ymholiadau ynghylch y meysydd canlynol: -

Enghreifftiau o arfer da mewn ysgolion lleol a'r angen i rannu a hyrwyddo'r rhain, gwahoddiad posib i ysgol gynradd ac ysgol gyfun i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, materion ynghylch y cyllid sy'n canolbwyntio ar ddisgyblion PYDd sy'n 'tangyflawni', lle mae angen anogaeth ychwanegol ar rai disgyblion PYDd sy'n cyflawni'n uchel, newidiadau diweddar i Gyfnod Allweddol 4 a'r effaith ar ddisgyblion PYDd ledled Cymru, monitro disgyblion PDG, effaith bosib credyd cynhwysol ar nifer y disgyblion PYDd wrth symud ymlaen, gall y Grant Datblygu Ysgolion yng Nghymru fod o fudd i ddisgyblion nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim hefyd, yn wahanol i Loegr, rôl y llywodraethwyr wrth fonitro gwariant y Grant Datblygu Disgyblion mewn ysgolion, datblygiad posib rôl llywodraethwr arweiniol ar gyfer disgyblion sy'n derbyn y Grant Datblygu Disgyblion (yn debyg i ddisgyblion sy'n derbyn gofal), gwahoddiad i gynrychiolydd ERW lleol fod yn bresennol mewn cyfarfod yn y dyfodol, canlyniadau'r Pecyn Cymorth Dysgu ac adborth arno, yr angen i gynyddu dyheadau pobl ifanc wrth symud ymlaen.

 

22.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2018/2019.

 

Yn sgîl y drafodaeth yng nghofnod rhif 21 uchod, bydd y Cyfarwyddwr Addysg yn cysylltu â'r ysgolion perthnasol a bydd y cynrychiolydd ERW rhanbarthol yn trefnu gwahoddiadau i gyfarfodydd yn y dyfodol fel y bo'n briodol.

 

Awgrymwyd trafodaeth bosib ychwanegol ynghylch 'clybiau ar ôl ysgol' fel pwnc trafodaeth i'r pwyllgor yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel a ddangosir yn yr adroddiad gyda'r diwygiadau a amlinellwyd uchod.