Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu
Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018 fel cofnod cywir. |
|
Tueddiadau data mewn perthynas â phrydau ysgol am ddim. PDF 11 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siaradodd Mike Jones a Nick Williams ymhellach ynglŷn â'r data a'r
ystadegau a rannwyd yn y pecyn agenda, cyfeiriwyd atynt a nodwyd y canlynol: ·
Mae’r
gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) a'r rhai nad ydynt yn derbyn PYDd
bron yn 20% ar oedran dechrau ysgol; ·
Mae gan 46% o ddisgyblion PYDd
anghenion dysgu ychwanegol o'i gymharu â 22% o'r rhai nad ydynt yn derbyn PYDd; ·
Mae
gan 54% o fechgyn sy'n derbyn PYDd anghenion dysgu ychwanegol
o'i gymharu â 44% o'r merched sy’n derbyn PYDd; ·
Mae
bwlch nodweddiadol o 14-19% yng nghyrhaeddiad rhwng plant Cyfnod Sylfaen; ·
Y
bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng y rhywiau yw 15-18%; ·
Mae
gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad o ryw 20% rhwng merched a aned yn yr hydref a
bechgyn a aned yn yr haf; ·
Mae
ystadegau tebyg i'r uchod wedi i’w gweld ledled Cymru, felly mae'n fater
cenedlaethol; ·
Mae
data gwerth ychwanegol Ymddiriedolaeth Teulu Fischer
yn dangos bwlch tebyg; ·
Bellach
gellir arolygu effaith Dechrau'n Deg; ·
Argaeledd
ar gyfer olrhain a rhannu data disgyblion unigol; ·
Disgyblion
sy'n gymwys am PYDd; ·
Effaith
bosib meini prawf ychwanegol newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer PYDd; ·
Materion
ynghylch diffyg hawlio PYDd. Nododd Mike Jones
y byddai'n cynhyrchu mwy o ystadegau ynghylch disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar
gyfer cyfarfod yn y dyfodol. Nododd y
cadeirydd fod y gwahaniaethau y cyfeiriwyd atynt uchod yn rhoi canolbwynt clir
a materion allweddol i'r pwyllgor eu hystyried yn y dyfodol. Bellach bydd angen
i'r pwyllgor nodi arferion da ar draws Abertawe ac yn genedlaethol er mwyn
ceisio nodi unrhyw fylchau gyda'r nod o gyflwyno'r
rhain i'r holl ysgolion. Bydd hefyd angen
gwybodaeth am sut mae ysgolion yn gwario’u grant datblygu disgyblion. Holir
barn Estyn hefyd. |
|
Gwybodaeth gefndirol am Arolygiadau Estyn, arweiniad Llywodraeth Cymru, a'r gwahaniaeth rhwng y Grant Datblygu Disgyblion a'r Premiwm Disgybl (Cyflwyniad). Cofnodion: Adroddodd Nick Williams, nad oedd Helen Morgan-Rees, a oedd i fod i roi
cyflwyniad ar yr eitem, yn gallu dod i'r cyfarfod am resymau personol. Oherwydd
hyn, nid oedd wedi gallu cysylltu â hi ac roedd ef newydd ddychwelyd o gyfarfod
yn Llandrindod. Nododd y byddai ar ei wyliau yn ystod cyfarfod mis Awst ac roedd yn ansicr
a fyddai Helen wedi dychwelyd i'r gwaith erbyn y cyfarfod hwnnw, felly
awgrymodd y dylid gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol. Estynnodd y
pwyllgor ei ddymuniadau gorau i Helen a chytunwyd i ohirio'r eitem tan gyfarfod
yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 98 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig
2018/2019. Nododd y byddai'n
cysylltu â Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd ynglŷn ag aildrefnu'r eitem
uchod a ohiriwyd. Penderfynwyd y dylid nodi'r rhaglen waith gyda'r
diwygiad awgrymedig uchod. |