Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3B - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau

60.

Sgiliau bargen y ddinas. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg adroddiad drafft ar gynnydd datblygu polisi ar addysg a sgiliau er mwyn wynebu heriau'r Fargen Ddinesig.

 

Amlinellwyd y gwaith a wnaed gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad, a nodwyd y dystiolaeth a dderbyniwyd a'r ymchwil a wnaed ynddo.

 

Y prif argymhelliad o ganlyniad i'r adroddiad yw'r cynnig ar gyfer penodi Cydlynydd Strategol ar gyfer Sgiliau Addysg ar gontract cyfnod penodol am ddwy flynedd. Dosbarthwyd disgrifiad swydd drafft er gwybodaeth.

 

Trafodwyd yr adroddiad drafft gan y pwyllgor ac awgrymwyd rhai newidiadau bach ym mharagraff 3.2 - sef cyfeirio at Swyddi ar gyfer y Dyfodol ac ychwanegu Aelod y Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd i'r aelodaeth, a pharagraff 3.6 - sef cyfeirio at gyrsiau a chymwysterau ar bob lefel a chyfeirio at y ddwy Brifysgol fel partneriaid.

 

Cyflwynir yr adroddiad i'r Cabinet ar 21 Mehefin 2018.

 

Penderfynwyd

 

1)    Bod y pwyllgor yn cytuno i gymeradwyo'r ddau argymhelliad yn yr adroddiad.

2)    Cymeradwyo'r adroddiad a'i gyflwyno i'r Cabinet, yn amodol ar y newidiadau uchod.