Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

55.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

56.

Cofnodion. pdf eicon PDF 117 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018 fel cofnod cywir

57.

Cysoni Darpariaeth 14-19 Oed. pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Sivers gyflwyniad trosolwg byr a oedd yn amlinellu'r meysydd canlynol:

·       5 prif flaenoriaeth gorfforaethol, gan gynnwys Gwella Addysg a Sgiliau – fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.

·       Partneriaeth Sgiliau Abertawe - cylch gorchwyl, cyfleoedd i ddatblygu gweithio mewn partneriaeth a mwyafu cyfleoedd y Fargen Ddinesig;

·       Argymhelliad i benodi Cydlynydd Strategol ar gyfer Sgiliau Rhanbarthol am gyfnod penodol o ddwy flynedd drwy fenter ariannu ar y cyd â Choleg Gŵyr a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol;

·       Nodau a chyfrifoldebau'r cydlynydd newydd:

·       Y cynnydd hyd yma:

 

Nododd y gallai'r meysydd uchod a'r materion a godwyd eisoes gan y Pwyllgor eu cynnwys yn adroddiad drafft y Cabinet ar Sgiliau'r Fargen Ddinesig a fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod arbennig y pwyllgor hwn ar 23 Mai 2018.

 

Cyfeiriodd at yr wybodaeth a ddosbarthwyd yn dilyn y cyfarfod diwethaf a'r wybodaeth a oedd yn rhan o bapurau'r agenda a oedd yn amlinellu'r data ar gyfer y rhestr gyflawn o gyrsiau TGAU a Safon Uwch sydd ar gael ar hyn o bryd yn Abertawe.

 

Trafododd yr aelodau y cyrsiau a'r darpariaethau amrywiol sydd ar gael ar draws y ddinas a chyfeiriwyd at y meysydd canlynol i'w harchwilio a'u trafod ymhellach o bosib:

·       Mae'n ymddangos bod cwricwlwm 'traddodiadol' yn dal i fod mewn ysgolion ac mae angen parhau i hyrwyddo pynciau STEM a sicrhau bod cyngor gyrfaoedd addas ac effeithiol ar gael;

·       Datblygu llwybr Dysgu ac Ennill ar gyfer pobl ifanc;

·       Gwella cydlynu rhwng athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol o'r dosbarth meithrin i'r chweched dosbarth a thu hwnt;

·       Cynnwys rhieni a datblygu "diwylliant dysgu";

·       Angen ail-ddweud wrth bobl ifanc mai Safon Uwch yw dechrau bywyd gwaith;

·       Angen gwella ac alinio darpariaeth prentisiaethau, yn enwedig o ran cyfleoedd y Fargen Ddinesig;

·       Cyflwyno "Hyrwyddwyr Dysgu" a "Hyrwyddwyr Chwaraeon" sy'n oedolion i ysbrydoli pobl ifanc i fod yn rhan o addysg a chwaraeon;

·       Materion ynghylch y ddarpariaeth o gyrsiau iaith ac argaeledd digon o athrawon cymwysedig mewn meysydd pwnc penodol:

 

58.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (trafodaeth)

Cofnodion:

Amlinellodd Chris Sivers y bydd adroddiad trosolwg o waith y 5 PDChP yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ym mis Mai, ac amlinellodd y meysydd a'r pynciau y soniwyd ac a drafodwyd gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn ddinesig ddiwethaf a fydd yn cael eu manylu arnynt yn yr adroddiad a chyfeirio atynt.

 

Trafododd y pwyllgor y materion a drafodwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac amlygwyd y meysydd canlynol fel pynciau posib ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf:

·       Ysbrydoli pobl ifanc wrth gyflwyno hyrwyddwyr "dysgu";

·       Darpariaeth Hyfforddiant Addysgu;

·       Targedu cefnogaeth ar gyfer pobl ifanc ddifreintiedig - effaith tlodi ar ddysgu, y sawl sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, gofalwyr ifanc, disgyblion AAA, NEETS etc

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu mewnbwn dros y flwyddyn ddiwethaf a nododd y byddai'r pynciau a godwyd uchod yn cael eu trafod ymhellach yng nghyfarfod cyntaf y pwyllgor ym mis Mehefin, a fydd yna'n penderfynu ar y meysydd i'w hystyried yn fwy manwl.