Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018 fel cofnod
cywir. |
|
Ymchwil gan Awdurdodau Eraill ar Bynciau STEM (Y Diweddaraf ar lafar gan aelodau) Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd L R Jones ei fod wedi gofyn i nifer o awdurdodau am wybodaeth, a
gobeithio y bydd yn adrodd am y canfyddiadau yn y cyfarfod nesaf. Dosbarthwyd
llyfryn prifysgolion gan y Cynghorydd M Durke, a oedd yn nodi'r cyfleoedd sydd
ar gael yn lleol i raddedigion. |
|
Cynllun Cyfathrebu i hyrwyddo'r Fargen Ddinesig mewn Ysgolion - Diweddariad. Cofnodion: Dosbarthwyd
rhestr o gyfarfodydd/gyflwyniadau/ddigwyddiadau gan Nick Williams a gynhaliwyd
dros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda Phenaethiaid a Dirprwy Benaethiaid
ynghylch y Fargen Ddinesig, gan adrodd amdanynt a manylu arnynt. Cyfeiriodd at yr
adborth o'r cyfarfodydd hyn gan nodi bod yn rhaid clustnodi disgyblion dan 16
oed er mwyn codi proffil ac amlinellu'r cyfleoedd sydd ar gael. Nododd yr adborth
cadarnhaol yr oedd wedi'i dderbyn o'r cyfarfodydd diweddar â’r bobl ifanc mewn
sawl ysgol gan nodi eu bod yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r cyfleoedd posib o'r
Fargen Ddinesig/Morlyn etc. Mae angen
datblygu'r cyswllt ymhellach rhwng ysgolion a busnesau lleol a thrafodwyd hyn
eto, gyda'r syniad o lunio rhestr o "siaradwyr" y gallai ysgolion ei
defnyddio. Gallai'r rhain amrywio o bobl fusnes leol sy'n llwyddiannus,
crefftwyr sydd wedi ymddeol, cyn-ddisgyblion, undebau llafur etc. Nodwyd y
trafodaethau parhaus ag ysgolion i ddatblygu syniadau ymhellach am
sgyrsiau/seminarau, ymweliadau â phrifysgolion, hyrwyddo cynlluniau
prentisiaid. Amlinellwyd rôl y
grŵp partneriaeth rhanbarthol wrth gynnwys busnesau lleol a'i thrafod, yn
ogystal â rôl Gyrfa Cymru. |
|
Y Diweddaraf ar Adroddiad Sgiliau'r Fargen Ddinesig Cofnodion: Ychwanegodd y
Cadeirydd at yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ym mis
Rhagfyr a oedd yn amlygu'r angen am fwy o ffocws lleol a chydlynu gwaith yn
Abertawe. Cyfeiriodd at y
cylch gorchwyl a dderbyniwyd yn ddiweddar ar gyfer y grŵp Partneriaeth
Sgiliau Abertawe a sefydlwyd yn ddiweddar i fwydo'r Bartneriaeth Ranbarthol.
Mae'r grŵp hefyd wedi sefydlu pedwar is-grŵp, y bydd pob un ohonynt
yn edrych ar feysydd gwaith gwahanol. Dywedodd Nick
Williams fod y grŵp wedi cwrdd ac mae'n aros am sêl bendith ar ei nodau
gan y pwyllgor ac Aelod y Cabinet. Awgrymwyd yr angen
i ddatblygu ymagwedd fwy penodol at gynorthwyo, datblygu ac annog disgyblion
llai abl, yn arbennig y rhai hynny â chefndir teulu anodd, fel maes i'w adolygu
yn y dyfodol. |
|
Y Diweddaraf ar yr Asesiad o Anghenion Sgiliau Rhanbarthol. Cofnodion: Amlinellodd Paul Greenwood, Cadeirydd Bwrdd y Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu
Ranbarthol a pherchennog cwmni Teddington Bell
Engineering yn Llanelli, y manylion cefndir a'r rhesymau dros ei gyfranogiad
gyda'r bwrdd. Nododd yn ei farn
ef a barn cyflogwyr lleol eraill, nad oedd gan bobl ifanc sy'n mynd i'r
farchnad swyddi y sgiliau angenrheidiol heb lefel sylfaenol o lythrennedd,
rhifedd a chyfathrebu. Nododd fod y
bartneriaeth wedi datblygu o gorff addysgol i sefydliad o gyflogwyr bellach,
gyda thros 300 o gwmnïau'n rhan ohoni. Nododd fod wyth grŵp clwstwr
islaw'r Grŵp Rhanbarthol wedi'u sefydlu i edrych ar feysydd penodol. Mae
cadeirydd pob un o'r wyth grŵp yn adrodd i'r Bwrdd Rhanbarthol. Nododd fod y
bwrdd yn llwyr gefnogi'r syniad o hyrwyddo a chefnogi'r syniad o gyrsiau a
chymwysterau nad ydynt yn raddau/fasnach neu'n alwedigaethol. Nododd fod
effaith bosib y Fargen Ddinesig, y Morlyn a mentrau newydd eraill gan
Lywodraeth Cymru'n cael eu hystyried gan y bwrdd. Yn ei farn ef, y
grŵp cyn 16 oed yw'r maes ffocws allweddol a dylid datblygu sgiliau
sylfaenol. Trafododd Mr Greenwood ac aelodau ffactorau amrywiol yn fanwl a'r hyn
sy'n dylanwadu ar y broses addysg, gan gynnwys y meysydd canlynol: - canfyddiad
o'r system addysg gan fusnesau, darpariaeth AB bresennol, yr angen i wella
darpariaeth ysgolion cynradd a deilliannau dysgu, hyd a manylion cyrsiau
prifysgolion presennol, hyrwyddo lefel y dysgu i botensial enillion,
pwysigrwydd rôl rhieni, materion ynghylch diffyg cydweithredu rhwng y ddwy
brifysgol, yr angen i greu gweithlu mwy cytbwys, problemau gyda biwrocratiaeth
ysgolion a thargedau arholiadau, angen coladu pa ddarpariaeth sydd ar gael ar
draws y rhanbarth i bobl ifanc a darpariaeth ôl-16. Diolchodd y
Cadeirydd i Mr Greenwood am ddod i'r cyfarfod ac am
ei fewnbwn. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 101 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig
2017/2018. Mae angen darparu
mwy o ddata yn y cyfarfod nesaf ar y cyrsiau TGAU/Safon Uwch sydd ar gael.
Byddai'r adroddiad drafft i'r Cabinet felly'n cael ei ohirio tan gyfarfod yn y
dyfodol. Edrychir ar y
posibilrwydd bod pobl ifanc yn dod i gyfarfod yn y dyfodol i fynegi eu barn. Penderfynwyd bod y cynllun gwaith a nodwyd, yn amodol
ar y sylwadau uchod, yn cael ei nodi. |