Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017 fel cofnod
cywir. |
|
Safbwyntiau Ysgolion Arloesol. PDF 4 MB Cofnodion: Rhoddodd Nick Williams y diweddaraf ar lafar i'r pwyllgor o blaid y papur a
gylchredwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu'r cynigion cefndir a diben
y fenter Ysgolion Arloesi a lansiwyd ym mis Mehefin eleni. Amlinellodd fod yr
ysgolion canlynol yn Abertawe yn rhan o'r prosiect – Gwyrosydd, Glyncollen, Llanrhidian, Parkland, Trallwn, Waunarlwydd, YGG Bryniago, YGG Lôn-las, Ysgol Arbennig Pen-y- Bryn, Ysgol Gyfun yr Olchfa, Ysgol Gyfun Pontarddulais, Ysgol
Arbennig Crug Glas . Nododd y byddai
Panel Craffu'n ymweld ag Ysgol yr Olchfa cyn bo hir fel rhan o'i adolygiad, ac
y gellid rhannu'r wybodaeth a gafwyd gydag aelodau o'r pwyllgor. Nododd fod
perthnasoedd gwaith da eisoes yn datblygu rhwng yr ysgol uwchradd ac ysgolion
bwydo i ddatblygu trefniadau pontio gwell ar gyfer y bobl ifanc. Rhoddodd fanylion
rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno fel y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
(sy'n rhoi'r un sylw i sgiliau TG â datblygiad rhifedd a llythrennedd),
entrepreuneuriaeth, cwricwlwm cymysg etc. Nododd y bydd angen
amser er mwyn gwreiddio'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yn y rhaglen
ysgolion a chaiff adborth ac arfer da eu rhannu ag ysgolion eraill maes o law. Trafodwyd ac amlinellwyd materion dim digon o bobl ifanc yn dilyn cwrs TGAU
a Safon Uwch TG yn ffurfiol, y dewisiadau cyfyngedig o ran opsiynau pynciau, yr
angen i wreiddio sgiliau TG a'u defnyddio mewn cynifer o wersi â phosib,
argaeledd digon o staff ac athrawon TG cymwys a'r angen i hybu'n well
ganlyniadau a chyfleoedd swydd/gyrfa yn sgîl astudio TG/Cyfrifiaduron i bobl
ifanc, yn ogystal â'r angen i hybu ac annog y defnydd o'r cwricwlwm amgen a
sgiliau meddal/bywyd fel gwaith tîm/cyfathrebu etc. i bob disgybl. Cyfeiriwyd eto at
yr angen i ddatblygu a chefnogi'r mater o ddiwygio hyfforddiant ar gyfer
athrawon TG a darparu mwy ohono, a gwella sgiliau gyda darparwyr ysgolion a
phrifysgolion. Codwyd a thrafodwyd
y posibilrwydd o ddatblygu Academi Ddigidol y tu allan i'r system ysgol, o
bosib ar y cyd â'r prifysgolion. |
|
Barn Plant ar Bynciau STEM. Cyflwyniad
a Gweithdy Rhyngweithiol Cofnodion: Rhoddodd Beth
Thomas gyflwyniad Powerpoint manwl, llawn gwybodaeth
a oedd yn amlinellu'r cefndir ac adborth o'r digwyddiad Y Sgwrs Fawr a
gynhaliwyd gyda phobl ifanc ar 29 Medi yn Ysgol Gyfun Tregŵyr. Fel rhan o'r
cyflwyniad, amlinellodd yn fanwl yr adborth gan y bobl ifanc a chyfeiriodd at y
meysydd canlynol: ·
Y cyd-destun
a'r rhesymeg y tu ôl i fenter y Sgwrs Fawr; ·
Nodau
ac amcanion y digwyddiad; ·
Tasgau
a gweithgareddau a gwblhawyd gan bobl ifanc yn ystod y dydd; ·
Pam
nad yw merched yn dewis pynciau STEM -
9% yn unig o'r rhai sy'n dilyn cwrs TGAU cyfrifiadureg sy'n ferched; ·
Mae'r
rhesymau pam nad yw merched yn eu dewis yn cynnwys ffactorau cyn ysgol, yn
ystod ysgol a'r tu allan i ysgol, megis stereoteipio rhywiau, dylanwadau
teuluol a diwylliannol, rhywiaeth anfwriadol gan
gynnwys gan athrawon, pwysau gan gyfoedion/cyfryngau/pwysau cymdeithasol,
materion tueddfryd rhywiol; ·
Beth gellir ei wneud i wella'r sefyllfa - mwy o
gefnogaeth gan athrawon, yr angen i newid agweddau cymdeithasol at stereoteipio
a thueddfryd rhywiol, mwy o weithgareddau cymysg a rhai i ferched, gwneud
pynciau'n fwy cynhwysol; ·
Cwricwlwm Addas at y Diben a'r hyn y mae pobl ifanc yn
credu y gallai ei gynnwys - mwy o opsiynau profiad gwaith, mwy o sgiliau bywyd,
mwy o fynediad i dechnoleg ddigidol, cyngor ar yrfaoedd yn gynt a mwy ohono,
gwell dewis o opsiynau, angen mwy o gyrsiau ymarferol/analwedigaethol; ·
Y
camau nesaf - cyfarfod Y Sgwrs Fawr nesaf ar 1 Rhagfyr. Trafododd aelodau
o'r pwyllgor y materion a godwyd gan bobl ifanc yn ystod y cyflwyniad a
thynnwyd sylw at y ffaith fod llawer o'r materion a godwyd gan aelodau'n
flaenorol megis mwy o gyrsiau nad ydynt yn rhai analwedigaethol, gwell
darpariaeth TG, gwell cyngor ar yrfaoedd, gwell hyfforddiant i athrawon,
sgiliau cyfannol/ bywyd yn rhai a godwyd gan y bobl ifanc hefyd. Mae angen mynd
i'r afael â'r meysydd hyn er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau i bobl ifanc ffynnu. Awgrymodd aelodau
opsiynau hefyd i gynnwys trawstoriad ehangach o bobl ifanc mewn digwyddiadau yn
y dyfodol. Nododd Beth Thomas
fod croeso i aelodau ddod i ddigwyddiadau yn y dyfodol. |
|
Adroddiad drafft y Cabinet am Ddatblygiad Sgiliau'r Fargen Ddinesig. PDF 262 KB Cofnodion: Cyflwynodd Chris
Sivers adroddiad Cabinet drafft a oedd yn rhoi adborth am y cynnydd hyd yn hyn
wrth ddatblygu polisi ar addysg a sgiliau er mwyn ateb yr heriau sy'n codi o'r
Fargen Ddinesig. Trafodwyd yr eitem yng
nghyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a lluniwyd yr adroddiad hwn i symud y
mater yn ei flaen. Trafododd yr
aelodau'r adroddiad gan awgrymu mân newidiadau i roi mwy o ffocws lleol iddo. Penderfynwyd y dylai'r adroddiad diwygiedig fynd yn ei
flaen i'r Cabinet |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 101 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig
2017/2018. Cododd aelodau
fater y ddarpariaeth 14-19 gan ofyn a allai'r cyflwyniad i'r cyfarfod ym mis
Rhagfyr ystyried yr ystod oed cynyddol a'r ddarpariaeth bresennol. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel y'i hamlinellwyd, yn amodol ar
y diwygiad uchod. |