Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Amlinelliad o'r Sefyllfa Addysg Bresennol. (Cyflwyniad) Rôl
yr Awdurdod Lleol · Rôl ERW · Estyn · Dinas Dysg · Cwricwlwm Newydd Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Swyddog Addysg a Phennaeth Gwella Addysg yr Hwb dros Abertawe/Castell-nedd
gyflwyniad i'r Pwyllgor a oedd yn rhoi trosolwg cynhwysfawr a llawn gwybodaeth
ar amlinelliad a chefndir tirwedd addysg Abertawe ar hyn o bryd. Fel rhan o'r
cyflwyniad, amlinellwyd a chyfeiriwyd at y meysydd canlynol: ·
Rôl
gyffredinol yr awdurdod lleol: Hyrwyddo safonau addysg, datblygiad pobl ifanc a
chanlyniadau gwell, cynllunio lleoedd mewn ysgolion, cyllido ysgolion; ·
Cyfrifoldebau
cyffredinol yr awdurdod lleol: Wedi'u rheoli gan Ddeddf Addysg 1996; ·
Cyfrifoldebau
cyffredinol yr awdurdod lleol: Gofyniad i ddarparu ysgolion digonol, pŵer
mewn perthynas ag addysg ôl 16 oed a darpariaeth anghenion addysgol arbennig; ·
Dadansoddiad
o rôl yr awdurdod lleol: Lleoedd mewn ysgolion, Cyfnod Sylfaen, EOTAS - darpariaeth
bresennol a chynigion newydd, y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'i brif
oblygiadau ar gyfer yr awdurdod lleol a'r ysgolion ar ôl 2019, cludiant i'r
ysgol, gwaharddiadau, asesu'r cwricwlwm, Addysg Grefyddol a phrydau ysgol; ·
Dadansoddiad o rôl yr awdurdod lleol: Cyllid
ysgol, penodi a hyfforddi llywodraethwyr ysgolion, safleoedd ac adeiladau
ysgol, rôl arolygu/ymyrryd, staffio, dyletswyddau statudol amrywiol; ·
Rôl
statudol y Prif Swyddog Addysg: Wedi'i rheoli gan Ddeddf Addysg 1996,
cyfrifoldeb am ysgolion ac addysg, pwerau ymyrryd; ·
Rôl
ERW: Gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol, arweinwyr Dysgu Digidol, Cwricwlwm
i Gymru, cefnogaeth a her i ysgolion; ·
Amcanion
Llesiant: 5 blaenoriaeth - Diogelu, gwella addysg a sgiliau, trawsnewid economi
ac isadeiledd, mynd i'r afael â thlodi a thrawsnewid a'r cyngor yn y dyfodol,
goblygiadau'r fargen ddinesig a diffyg sgiliau lleol posib a'r angen i sicrhau
bod cyrsiau prentisiaeth, cyrsiau analwedigaethol etc
yn cael eu hysbysu a'u hannog yn well i bobl ifanc fel bod anghenion economaidd
y ddinas yn cael eu diwallu wrth fynd ymlaen, cefnogaeth emosiynol i
ddisgyblion; ·
Cwricwlwm
i Gymru/Cwricwlwm am Oes:Bydd trefn newydd lle bydd
cymhwysedd digidol yn derbyn yr un statws â rhifedd a llythrennedd, pwyslais ar
ddysgu digidol a chymhwyso sgiliau, defnyddio bywyd go iawn fel cyd-destun a
gweithio mewn partneriaeth; ·
Rôl
Estyn: Arolygu, adolygu a herio ysgolion, adolygiadau ac adroddiadau thematig a
phynciau STEM. Trafododd y
pwyllgor y materion a godwyd ac a amlinellwyd gan y swyddogion uchod a
gofynnodd gyfres o gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y meysydd pwnc
canlynol. Ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny: - ·
Goblygiadau'r
fargen ddinesig a'r angen dybryd i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau'n lleol; ·
Mae hyrwyddo
ac ehangu addysgu a chyrsiau Cymhwysedd Digidol a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol
mewn ysgolion yn hanfodol; ·
Yr
angen i ehangu ac annog cyrsiau "digidol" ar gyfer dysgwyr sy'n
oedolion; ·
Yr
angen i ddiweddaru hyfforddiant cychwynnol i athrawon, yn enwedig wrth ystyried
Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol fel mater o frys (gwahodd Prifysgol y Drindod Dewi
Sant i gyfarfod ychwanegol er mwyn trafod y mater); ·
Yr
angen am hyfforddiant digidol/cyfrifiadurol a gwella sgiliau'r athrawon
presennol, a'r potensial am "Hyrwyddwr Digidol" ym mhob ysgol; ·
Yr
angen i athrawon mewn ysgolion rannu eu harbenigedd "digidol" â'u
cydweithwyr; ·
Mae
angen rhannu arfer da a syniadau rhwng ysgolion; ·
Yr
angen i ddatblygu cyflwyniad byr ar ffurf fideo o'r fargen ddinesig i'w ddangos
mewn nosweithiau rhieni mewn ysgolion, annog a hyrwyddo pobl ifanc a rhieni am
y rhagolygon gyrfa/swydd dda sy'n codi o ganlyniad i gymryd rhan mewn
cynlluniau prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol er mwyn ennill cymwysterau
"masnach"; ·
Bydd
angen i adborth a phrofiadau ysgolion arloesi gael eu rhannu ag ysgolion
eraill; ·
Effaith
bosib y Cwricwlwm am Oes newydd, lle bydd cymhwysedd digidol yn derbyn yr un
statws â rhifedd a llythrennedd; ·
Prinder
athrawon ar draws Cymru ar hyn o bryd, mewn swydd a hyfforddiant (gwybodaeth am
niferoedd Abertawe i'w darparu i'r aelodau); ·
Yr
angen i ddatblygu'r cysylltiadau presennol rhwng ysgolion a busnesau/diwydiant
lleol ymhellach a'u hehangu. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 62 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig
2017/2018. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel ei amlinellwyd,
yn ogystal â gwahodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant i gyfarfod yn y dyfodol er
mwyn trafod darpariaeth Hyfforddiant i Athrawon, yn enwedig agwedd Gwyddoniaeth
Ddigidol/Gyfrifiadurol yr hyfforddiant. |