Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeluCysylltiadau Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2022 fel cofnod cywir. |
|
Addysg Awyr Agored Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Emily Marchant drosolwg byr o'i chefndir a'i phrofiad yn y maes
pwnc, yna rhoddodd gyflwyniad manwl a chynhwysfawr am Ddysgu yn yr Awyr Agored
a chanfyddiadau ymchwil Rhwydwaith Addysg Gynradd HAPPEN ym Mhrifysgol
Abertawe. Yn gynwysedig yn y cyflwyniad roedd y
meysydd canlynol: ·
Gall
buddsoddi mewn profiad dysgu plentyn gynyddu cyflawniad yn y dyfodol, cyfleoedd
gwaith ac iechyd a lles yn ystod oedolaeth; ·
Effaith
COVID-19, a'r anghydraddoldebau cynyddol mewn iechyd, lles, datblygiad a dysgu plant;
·
Datblygu
rhwydweithiau mewn ysgolion, ymgynghorwyr ysgolion iach, effaith y cwricwlwm
newydd wrth symud ymlaen; ·
Rhwydwaith
HAPPEN, sy'n seiliedig ar ysgolion cynradd ac sy'n ceisio uno addysg, iechyd ac
ymchwil, a datblygu dealltwriaeth well o anghenion ysgolion a thargedu meysydd
iechyd a lles penodol; ·
Mae 500
o ysgolion ar draws Cymru wedi cymryd rhan gyda thros 20,000 o ddisgyblion yn
cymryd rhan; ·
Mynediad
at fanc data SAIL sy'n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth ar draws maes iechyd
ac addysg fel pwysau geni, brechiadau, magu plant, materion iechyd teuluol,
cyrhaeddiad addysgol etc.; ·
Mae'r
rhwydwaith hefyd yn sail ar gyfer casglu gwybodaeth am raglenni a mentrau
gwahanol a gynhelir mewn ysgolion; •
Cynhaliwyd
arolwg disgyblion HAPPEN gartref yn ystod y cyfnod clo a'r cyfnodau y bu'r
ysgol ar gau a oedd yn ceisio cymharu iechyd a lles plant yn ystod y cyfnod y
bu'r ysgol ar gau yn 2020 â'r un cyfnod yn 2019 a 2018. Roedd hefyd yn ceisio
archwilio'r effaith ar garfan y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim; ·
Roedd canlyniadau'r arolwg yn nodi effaith gadarnhaol a
chynnydd yng ngweithgarwch corfforol plant, ond effaith negyddol ar gymhwysedd
ysgol hunan-adroddedig, yn enwedig y rheini sy'n
derbyn prydau ysgol am ddim; ·
Mae ehangu anghydraddoldebau a mynediad i fannau awyr
agored wedi'i leihau dros y blynyddoedd; ·
Arolwg staff HAPPEN a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2020 i
gasglu safbwynt staff ysgolion cynradd am effaith cau ysgolion, ailagor
ysgolion fesul cam a dychwelyd at addysg amser llawn ym mis Medi 2020.
Cwblhawyd yr arolwg gan dros 200 o staff o 78 o ysgolion cynradd ar draws 16 o
awdurdodau lleol yng Nghymru (Penaethiaid, athrawon a staff cymorth); ·
Datblygodd yr ymatebion ac adborth a ddarparwyd gan staff
5 argymhelliad allweddol - Blaenoriaethu iechyd a lles staff a disgyblion,
canolbwyntio ar gynnwys rhieni a chymorth, gwella cymhwysedd digidol
disgyblion, athrawon a rhieni, addasu'r amgylchedd dysgu a dysgu ac arferion
addysgu a chyfathrebu arweiniad a disgwyliadau'n glir; ·
Cydnabyddiaeth gynyddol o fanteision dysgu awyr agored ac
mae disgyblion sy'n cymryd rhan yn dangos mwy o ddiddordeb; ·
Gwerthusiad ansoddol o ddysgu yn yr awyr agored yn
seiliedig ar y cwricwlwm a gynhelir mewn tair ysgol gynradd yn Abertawe cyn
sefydlu Ysgolion Awyr Agored Abertawe a oedd yn cynnwys cyfweliadau ag athrawon
a phenaethiaid, grwpiau ffocws gyda disgyblion i archwilio'r rhwystrau a'r
hwyluswyr i roi dysgu yn yr awyr agored ar waith yn effeithiol; ·
Manteision plant yn treulio amser yn yr awyr agored a'r
effaith gadarnhaol ar ddysgu - rhyddid o'r ystafell ddosbarth, ymgysylltu â
natur, presenoldeb gwell, dangos mwy o ddiddordeb, canolbwyntio ac ymddwyn yn
well; ·
Manteision ehangach dysgu a chwarae yn yr awyr agored; ·
Rhwystrau sy'n atal ehangu; ·
Adroddiad Estyn am ddysgu yn yr awyr agored yn Ysgol
Gynradd y Crwys; Yna rhoddodd
Dylan Saer drosolwg o'r ddarpariaeth y mae wedi'i datblygu dros y blynyddoedd
yn Ysgol Gynradd y Crwys. Amlinellodd nad
oedd gan yr ysgol ardal werdd benodol ei hun, ond maent yn elwa o ddefnyddio'r
coetir cyfagos gyda chymorth y cyngor cymuned lleol. Nododd oni bai
fod tywydd garw iawn, y nod yw bod y plant yn treulio hanner diwrnod yr wythnos
yn yr awyr agored. Nododd fod y rhieni a disgyblion wedi 'prynu i mewn' i'r syniad
yn dda iawn a gellir gweld manteision y fenter dysgu yn yr awyr agored trwy
ymgysylltu'n fwy a gwell presenoldeb disgyblion a chanlyniadau gwych yng
nghyfnod allweddol 2. Manylodd ar y
canlyniad gwych a'r sylwadau a wnaed yn benodol tuag at y ddarpariaeth addysg
awyr agored yn arolygiad Estyn a gynhaliwyd cyn y pandemig.
Gofynnodd aelodau
gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau ynghylch yr wybodaeth a gyflwynwyd iddynt
yn ystod y cyflwyniadau a'r drafodaeth ac ymatebodd Emily a Dylan i'r rheini'n briodol. Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r ddau am eu
presenoldeb a'u mewnbwn. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 27 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith fel a manylwyd arno yn yr adroddiad. Nododd y byddai
adroddiad yn crynhoi gwaith ac archwiliadau'r pwyllgor yn ystod y flwyddyn yn
cael ei ddrafftio a'i gyflwyno yn ystod cyfarfod yn y dyfodol. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith |