Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022 fel cofnod
cywir. |
|
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. PDF 238 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd fod y PDP Pobl wedi gwneud gwaith ar y mater hwn o'r blaen, ac o'r
herwydd, roedd wedi gwahodd y Cynghorydd Ceri Evans, Cadeirydd y pwyllgor hwnnw
i ddod i’r cyfarfod hwn. Yn anffodus nid oedd yn gallu dod oherwydd ymrwymiad
blaenorol. Yna cyflwynodd
Helen Howells adroddiad a oedd yn amlinellu i'r pwyllgor ddatganiad sefyllfaol presennol y Gyfarwyddiaeth Addysg ar yr ymateb i
ymchwil ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)
a'i effeithiau o fewn y gwasanaeth addysg. Nododd fod yr
adran yn rhoi cymorth i geisio sicrhau bod y cylch ACEs
yn cael ei dorri. Amlinellodd y diffiniad o ACEs fel
y'i disgrifiwyd gan Ace Aware
Wales fel digwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rheini yn ystod plentyndod
cynnar sy'n effeithio'n sylweddol ar iechyd a lles pobl yn ddiweddarach mewn
bywyd. Cyfeiriodd at
Astudiaeth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cymru yn 2015 lle'r oedd dros
2,000 o oedolion 18-69 oed wedi cymryd rhan ac wedi darparu gwybodaeth ddienw am
ddod i gysylltiad ag ACEs cyn eu bod yn 18 oed, a'u
hiechyd a'u ffordd o fyw fel oedolion. Dangosodd yr arolwg fod dioddef pedwar
neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r siawns o
ymddygiad risg uchel ac afiechyd wrth symud ymlaen. Amlinellodd fod
yr holl blant sy'n derbyn gofal a'r rheini dan y gyfundrefn amddiffyn plant yn
cael eu nodi gan ysgolion, a bod staff dynodedig i'w helpu a'u cefnogi. Gellir
lliniaru effeithiau ACEs a'u lleihau i raddau gyda
chymorth oedolyn sydd ar gael yn emosiynol i gefnogi'r bobl ifanc. Gall ACEs ddigwydd i blant ar draws cymunedau ac effeithio ar
bob ysgol ledled y ddinas, ond mae Abertawe bob amser wedi ymateb yn gyflym i
anghenion ei dysgwyr, gydag adroddiadau Estyn rhwng 2017 a 2020 yn dangos bod 97.3%
o ysgolion wedi cael canlyniadau rhagorol neu dda mewn perthynas â lles ac
agweddau at ddysgu, ac nid oedd unrhyw ysgolion wedi derbyn canlyniad
anfoddhaol. Yn yr un modd, cafodd 97.4% ganlyniadau rhagorol neu dda mewn
perthynas â gofal, cymorth ac arweiniad, ac nid oedd unrhyw ysgolion wedi
derbyn canlyniad anfoddhaol. Mae effeithiau'r pandemig eisoes yn cael effaith ar blant a theuluoedd sydd
wedi profi mwy o bryderon, newid mewn arferion, problemau ariannol a salwch a
marwolaethau anwyliaid. Gall hyn gael effaith benodol ar y rhai yr effeithiwyd
arnynt yn flaenorol gan ACEs. Amlinellodd fod
staff mewn ysgolion yn cael hyfforddiant priodol i geisio ymdrin ag ACEs yn seiliedig ar ddull cydgysylltiedig
o ddarparu cymorth i ysgolion. Mae hyn wedi'i seilio
ar gynnig dysgu proffesiynol rhanbarthol ar gyfer lles sydd bob amser wedi bod
yn ffynhonnell ardderchog o hyfforddiant y mae llawer o'n hysgolion wedi elwa
ohono. Yn yr un modd ag ERW ac yn awr Partneriaeth, roedd staff rhanbarthol yn
cydnabod bod trawma ac ymlyniad yn rhwystrau enfawr i ddysgu ar gam cynnar, ac
roeddent yn un o'r rhanbarthau cyntaf i gyflwyno cynllun peilot ymwybyddiaeth
ymlyniad. Mae'r partneriaid wedi cynnig
hyfforddiant rhagorol yn gyson, ac mae presenoldeb ysgolion Abertawe yn uchel. Mae elfen Plant
sy'n Derbyn Gofal (PDG) y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru i'w defnyddio fel grant gwella ysgolion, i roi "mantais
anghymesur" i blant â phrofiad o ofal, ac i ysgolion a nodwyd yn Abertawe,
wedi defnyddio’r arian GDD/PDG a glustnodwyd iddynt i brynu cyfleusterau ac
offer anogaeth a lles, megis y pecyn cymorth gwydnwch a rhaglenni i gefnogi
iechyd meddwl drwy fyfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Yna, amlinellodd
fod y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi meithrin perthynas waith ragorol ag adrannau
eraill o fewn Cyngor Abertawe a gwasanaethau allanol a rhoddodd gipolwg a
throsolwg o'r gwahanol gynlluniau, mentrau a phrosiectau sydd ar waith i
gynorthwyo pobl ifanc. Amlinellwyd
enghreifftiau o arfer da mewn cwpwl o ysgolion penodol sef Ysgol Gyfun Cefn
Hengoed ac Ysgol Gynradd Plasmarl ond amlinellwyd y gellid fod wedi cynnwys pob
ysgol ar draws y ddinas oherwydd y gwaith rhagorol sy'n mynd rhagddo'n gyffredinol. Er bod yr awdurdod
wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran ACEs, amlinellodd
eu bod bob amser yn awyddus i archwilio syniadau newydd i sicrhau bod ein plant
a'n pobl ifanc yn cael y profiad addysgol gorau posib y gallwn ei
ddarparu. Mae Ace
Aware Wales yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod
a'n helpu i fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru sy'n ymwybodol o ACE, drwy
ddefnyddio'u Pecyn Cymorth TrACE. Byddai hyn yn
ymrwymiad sylweddol i'r awdurdod ond nodwyd ein bod mewn sefyllfa dda i fwrw
ymlaen â hyn. Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch yr adroddiad a
ddosbarthwyd a'r wybodaeth a ddarparwyd ar lafar yn y cyfarfod, ac ymatebodd y
Swyddog yn unol â hynny. Yna rhoddodd Cressy Morgan a
Dylan Williams drosolwg byr o'u cefndir a'u profiad yn y maes pwnc, a rhoesant
gyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol i'r aelodau yn amlinellu'r meysydd a
drafodwyd yn ystod hyfforddiant mewn ysgolion. Yn gynwysedig yn y cyflwyniad roedd y meysydd canlynol: ·
Diffiniad o ACEs; ·
Astudiaeth Americanaidd a oedd yn nodi bod y
berthynas rhwng cam-drin plant a thrafferthion aelwydydd yn gysylltiedig â
llawer o brif achosion marwolaeth mewn oedolion; ·
Gwahanol gategorïau o gam-drin plant a'r
effaith ar aelwyd y plentyn; ·
Mapio ACEs drwy
gydol oes, gan gynnwys tarfu ar ddatblygiad nerfol, hormonaidd ac imiwnedd,
problemau cymdeithasol, emosiynol a dysgu, mabwysiadu ymddygiadau sy'n
niweidiol i iechyd a chlefyd anhrosglwyddadwy, anabledd, problemau
cymdeithasol, cynhyrchiant isel sy'n arwain at farwolaethau cynnar posib; ·
Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 a thri
adroddiad a ddeilliodd o'r ymchwil ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
a'u Heffaith ar Boblogaeth Oedolion Cymru mewn perthynas ag 1.Ymddygiadau Sy'n
Niweidiol i Iechyd, 2. Clefyd Cronig a'r Gwasanaeth Iechyd, 3. Lles meddwl ; ·
Sefydlwyd canolfan gymorth ACE yn 2017 a
chynhyrchwyd cyfres o adroddiadau pwysig yn dilyn hyn gan gynnwys yr un ar
ffynonellau gwydnwch a'u perthynas gymedroli â niwed o brofiadau niweidiol yn
ystod plentyndod; ·
Adolygiad o Bolisi Profiadau Niweidiol yn
ystod Plentyndod (ACE) dan arweiniad Julie Morgan AS a ddechreuodd y llynedd,
sydd wedi amlinellu effaith COVID o ran cynyddu problemau pobl ifanc a lleihau
mynediad at wasanaethau ar yr un pryd oherwydd y pandemig; ·
Cynllun adfer COVID 'Adnewyddu a Diwygio'
Llywodraeth Cymru a'i bwyslais ar gefnogi lles a dilyniant dysgwyr, gan
ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau addysgol; ·
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru gyda ffocws ar
ddatblygu dysgwyr; ·
Tegwch mewn addysg a sicrhau bod y rheini y
mae angen mwy o gymorth a help arnynt yn cael mynediad atynt; ·
Straen a'r tri math o ymatebion o fewn y
system nerfol – Cadarnhaol, Goddefadwy a Gwenwynig – a'r adweithiau a'r
problemau sy'n gysylltiedig â phob math a'i effaith ar y corff wrth symud ymlaen; ·
Dull seiliedig ar drawma, trawma hiliol,
cefnogi dysgwyr ag anawsterau dysgu synhwyraidd, meithrin ymddiriedaeth drwy
chwarae, defnyddio sosiogramau i ddatblygu perthnasoedd cyfoedion, datblygu
empathi mewn dysgwyr, defnyddio hyfforddi emosiynau a diogelu yn erbyn tlodi; Unwaith eto,
gofynnodd yr Aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y
cyflwyniad a'r wybodaeth a ddarparwyd, ac ymatebodd swyddogion Partneriaeth
iddynt yn unol â hynny. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion o Addysg a Partneriaeth am eu mewnbwn hynod ddiddorol,
eu gwybodaeth a'u presenoldeb yn y cyfarfod.
|
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 27 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
cadeirydd at y cynllun gwaith fel a amlinellwyd a manylwyd arno yn yr
adroddiad. Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith. |