Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiad canlynol; y Cynghorydd M Durke – Eitem 4 ar yr agenda – Personol –
rydw i a Dr Nalda Wainwright yn gweithio i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol; Y Cynghorydd M Durke – Eitem 4 ar yr Agenda – Personol - Rydw i a Dr Nalda
Wainwright yn weithwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Datganiad sefyllfa Partneriaeth y Gwasanaethau Chwaraeon ac Iechyd ag Addysg. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Dr Nalda Wainwright, awdurdod blaenllaw yng Nghymru
ar iechyd plant a llythrennedd corfforol, i'r cyfarfod. Yna rhoddodd Dr Nalda Wainwright drosolwg byr o'i
chefndir a'i phrofiad yn y maes pwnc, a rhoddodd gyflwyniad PowerPoint manwl,
llawn gwybodaeth i'r aelodau. Yn gynwysedig yn y cyflwyniad roedd y meysydd canlynol: ·
dirywiad
mewn gweithgarwch corfforol ar draws y gymdeithas; ·
diffiniad o lythrennedd corfforol; ·
proses ddatblygu ar gyfer gweithgarwch, o blant bach i
bensiynwyr; ·
mae plant yn symud yn llai nawr nag yn y gorffennol, a’r
gwahanol resymau a ffactorau bywyd modern sy'n effeithio ar hyn; ·
cynnydd mewn technoleg a’i hargaeledd i blant ifanc, a'i
heffaith ar leihau gweithgarwch a chwarae yn yr awyr agored; ·
diffyg gweithgareddau awyr agored, chwarae a chymysgu â
phlant eraill o wahanol oedrannau a'u effaith negyddol ar ddatblygiad plant yn
gorfforol ac yn feddyliol, a all achosi problemau gydag agweddau gwybyddol a lleferydd
etc; ·
mynydd datblygu sgiliau motor – a geirfa a datblygiad
symud; ·
sbiral gadarnhaol/negyddol o ymgysylltu a'r effeithiau
a'r berthynas rhwng y diffyg gweithgarwch ac afiechyd yn ddiweddarach mewn
bywyd; ·
cysylltiadau rhwng cymhwysedd motor a gweithgarwch
corfforol a'i effaith a'i bwysigrwydd wrth gynyddu'r cymhwysedd corfforol
canfyddedig mewn plant ifanc, yn enwedig y rhai dan 7 oed; ·
prosiect cyn-ysgol Perry - HighScope yn UDA a'i
ganfyddiadau mewn perthynas â'r manteision ariannol a chymdeithasol a
dderbyniwyd, o'u cymharu â'r swm a fuddsoddwyd, a allai fod yn fudd seithblyg; ·
SKIP Cymru (Cyfarwyddyd Cinesthetig Llwyddiannus ar gyfer
plant cyn oed ysgol yng Nghymru) – menter blynyddoedd cynnar/cyfnod sylfaen
sydd wedi bod o fudd ac sy'n datblygu sgiliau motor plant ifanc; ·
Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Weithgarwch Corfforol
Plant a Phobl Ifanc y cytunwyd arno ond nad yw wedi'i gyflwyno eto ledled y
wlad oherwydd pandemig COVID-19. Siaradodd David
Jones fwy am ei adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn rhoi trosolwg i'r pwyllgor o
ddiben y tîm chwaraeon ac iechyd mewn perthynas â phartneriaethau, ac yn rhannu
canlyniadau â chydweithwyr addysg gyda'r bwriad o ddatblygu cysylltiadau
strategol pellach. Dywedodd ei fod
yn cefnogi'r sylwadau a'r mentrau a amlinellwyd gan Dr Nalda Wainwright uchod. Amlinellodd y
manylion cefndir a'r prif bolisïau a dylanwadau y mae'r tîm yn eu dilyn yn
Abertawe wrth ddarparu ei wasanaethau i bobl ar draws yr ystodau oedran a'r cymunedau
amrywiol. Cyfeiriodd at yr arian a gafwyd gan Chwaraeon Cymru. Amlinellwyd
strategaeth weithredol y gwasanaethau sy'n anelu at greu Abertawe egnïol ac
iach yn atodiad A yr adroddiad. Nododd fod y
staff wedi ymrwymo i wella ac ehangu ar lythrennedd corfforol yn gyffredinol, a
nododd fod y staff yn mwynhau'r sesiynau gyda'r bobl ifanc yn arbennig ac yn eu
hannog i gymryd rhan am yr holl resymau a amlinellwyd yn ystod y cyflwyniad
blaenorol ac a nodwyd yn yr adroddiad. Amlinellodd fod ganddo staff sydd â
chymwysterau mewn cyrsiau Llythrennedd Corfforol sy'n cael eu cynnal gan
Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Manylodd ar y
sgiliau, y profiadau, y cymwysterau a'r wybodaeth sydd gan y staff, sy'n eu
galluogi i gyflwyno ystod eang o sesiynau i'r gymuned gyfan ac amlinellodd
hefyd fod y tîm yn cynnig hyfforddiant i staff ysgol gyfan a gwirfoddolwyr
cymunedol mewn agweddau ar lythrennedd corfforol a chwaraeon cyffredinol a
gweithgarwch corfforol. Nododd y bydd
staff mewn ysgolion yn aml yn targedu ac yn annog pobl ifanc nad ydynt yn rhan
o'r timau chwaraeon ysgol 'traddodiadol' i gymryd rhan. Amlinellodd fod y
tîm yn ymwneud â thros 90 o ysgolion yn Abertawe, a soniodd am lwyddiant y
Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (RGGH), gan gyfeirio at y canlyniadau rhagorol a'r
adborth cadarnhaol a gafwyd mewn arolwg o bobl ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn
y cynllun (atodiad B yr adroddiad). Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau amrywiol a gwnaethant sylwadau ynghylch y ddau faes a
drafodwyd yn ystod y cyflwyniad a’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac ymatebodd Dr
Wainwright, y swyddog yn unol â hynny. Nododd y
Cadeirydd ei fod wedi gweld rhywfaint o dystiolaeth debyg i'r hyn y cyfeiriwyd
ato yn yr astudiaeth o UDA uchod mewn cyfarfod craffu. Byddai'n ceisio dod o
hyd i'r wybodaeth a'i dosbarthu i'r aelodau os yw'n bosib. Diolchodd i Dr
Wainwright a'r swyddog am eu cyfraniad a'u presenoldeb yn y cyfarfod.
|
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 27 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cynllun gwaith fel yr amlinellwyd ac a nodwyd yn yr adroddiad, a
nododd yr eitemau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod: Chwefror -
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Mawrth – Addysg
Awyr Agored Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith. |