Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol; y Cynghorydd S Pritchard – Eitem 4 ar yr agenda – Datganiad o
Sefyllfa ar gyfer Addysg Alwedigaethol yn Abertawe – personol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol; y Cynghorydd S Pritchard – Eitem 4 ar yr agenda – Datganiad o
Sefyllfa ar gyfer Addysg Alwedigaethol yn Abertawe – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau
a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir. |
|
Datganiad Sefyllfaol ar gyfer Addysg Alwedigaethol yn Abertawe. PDF 243 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd David Bawden adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor Datblygu Polisi ac yn amlinellu'r
datganiad sefyllfa presennol ar gyfer addysg alwedigaethol yn Abertawe ar gyfer
plant a phobl ifanc 14-19 oed. Amlinellodd y
cefndir i'r ddarpariaeth bresennol o addysg alwedigaethol mewn ysgolion a
cholegau sy'n seiliedig ar ddarpariaeth ddysgu ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed
mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, a chaiff ei phenderfynu gan Fesur Dysgu a
Sgiliau (Cymru), 2009; sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol, rhwydweithiau
14-19 oed, ysgolion a cholegau i weithio gyda Gweinidogion Cymru i ddarparu
cwricwla lleol sy'n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau a dewisiadau ar gyfer dysgwyr.
Dywedodd fod rhaglen Prentisiaeth Iau ychwanegol yng Nghymru ar gyfer
pobl ifanc 14-16 oed sy'n eu galluogi i ymgymryd â llwybr galwedigaethol lefel
1 neu 2 mewn coleg lleol, gan ddatblygu sgiliau ymarferol wrth ennill
cymwysterau. Datblygwyd rhaglen a adwaenir fel yr Academi Iau yn Abertawe trwy
bartneriaeth ag ysgolion Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe ers 2019/2020. Amlinellodd
a manylodd hefyd ar y cyllid ychwanegol sydd wedi galluogi ar gyfer darparu
hyfforddiant trwy brosiect Cynnydd. Amlinellodd y meysydd
cyflwyno presennol canlynol ar draws ysgolion yn Abertawe, sy’n cynnwys: ·
Cyrsiau
galwedigaethol a ddarperir ar safle'r ysgol gan staff yr ysgol, er enghraifft
Iechyd a Gofal Cymdeithasol; ·
Cyrsiau
galwedigaethol a ddarperir ar safle'r ysgol gan staff y coleg, er enghraifft
Gofal Plant a Datblygu Dysgu; ·
Cyrsiau
galwedigaethol a ddarperir oddi ar y safle gan staff y coleg, er enghraifft
Peirianneg ac Adeiladu; ·
Cwrs
galwedigaethol amser llawn a phrofiad sy'n ymwneud â'r gwaith (Academi Iau) a
ddarperir oddi ar y safle gan staff y coleg a chysylltiadau diwydiant, er
enghraifft Tirlunio a Garddwriaeth a Gwallt a Harddwch; ·
Cysylltiadau
â chyrsiau a mentrau sydd ar gael trwy Goleg Sir Gâr a Cholegau Castell-nedd
Port Talbot; Roedd y cysylltiadau
â Gyrfa Cymru ar draws yr holl ysgolion yn Abertawe hefyd wedi'u hamlinellu
wrth baratoi pobl ifanc gyda chefnogaeth, cynnwys cyflogwyr a pharodrwydd ar
gyfer gwaith, yn ogystal ag effaith bosib y cwricwlwm newydd i Gymru y mae’r
meysydd hyn yn rhan ohono. Dylai’r
pwysigrwydd o nodi prinder sgiliau a pharatoi pobl ifanc ar gyfer swyddi yn y
dyfodol, yn enwedig y rheini sy'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig, gael ei
gynorthwyo wrth symud ymlaen trwy ddatblygiad y rhaglen Sgiliau a Hyfforddiant
y cytunwyd arni trwy'r Fargen Ddinesig ac a gymeradwywyd gan lywodraethau Cymru
a'r DU. Gofynnodd aelodau
gwestiynau amrywiol a gwnaed sylwadau ynghylch yr adroddiad a'r cyflwyniad yn
enwedig ynghylch goblygiadau ac effaith y Fargen Ddinesig, agweddau at ddysgu
galwedigaethol mewn ysgolion, argaeledd cyrsiau i bobl ifanc, ehangu dysgu
galwedigaethol wrth symud ymlaen, nifer y bobl ifanc sy'n rhan o'r cyrsiau
amrywiol a diffyg sgiliau cyflogadwyedd presennol pobl ifanc, ac ymatebodd
swyddogion ac Aelod y Cabinet yn unol â hynny. Cytunodd aelodau
i ddarparu'r diweddaraf am y ddarpariaeth alwedigaethol yn Abertawe yn ogystal
ag ystadegau mwy manwl ynghylch niferoedd y bobl ifanc sy'n rhan o'r cyrsiau a
phrosiectau/mentrau amrywiol a gwybodaeth sy'n ymwneud â'r tirlun cymwysterau
presennol i gyfarfod y pwyllgor mewn tua chwe mis. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 27 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
cadeirydd at y cynllun gwaith fel a amlinellwyd a manylwyd arno yn yr
adroddiad. Penderfynwyd y byddai'r cynllun gwaith yn cael ei
nodi. |