Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2017 fel cofnod cywir. |
|
CYFLWYNIAD - ASESIAD POBLOGAETH Cyflwyniad - Sara
Harvey Cofnodion: Rhoddodd Sara
Harvey, Cyfarwyddwr Rhaglen Ranbarthol, Rhaglen Bae'r Gorllewin gyflwyniad ar
'Asesiad Poblogaeth' (http://www.westernbaypopulationassessment.org/cy/home-welsh/ ). Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y
canlynol: - ·
Rhaglen
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin ·
Gofynion
Allweddol ·
Beth
mae'r asesiad poblogaeth yn ei gynnwys? ·
Pam
ein bod yn cynnal yr asesiad poblogaeth? ·
Pynciau ·
Gwybodaeth
feintiol ·
Gwybodaeth
ansoddol ·
Papurau
Pwnc ·
Asesiad
poblogaeth - 3 Haen ·
Gwe-offeryn
digidol yr asesiad poblogaeth ·
Ffocws
hyd yma Gofynnodd y Pwyllgor
gwestiynau i'r swyddogion cyflwyno, a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau
a'r trafodaethau'n ymwneud â: - ·
Gwerthuso'r
hyn oedd wedi'i wneud yn dda, yr hyn nad oedd wedi'i wneud yn dda a'r gwersi a
ddysgwyd. ·
Panel
Rhanbarthol Dinasyddion ·
Pwy
oedd wedi pennu'r pynciau a'r posibiliad o ddiwygio'r pynciau neu ychwanegu
atynt. ·
Asesiad
poblogaeth fel swyddogaeth sy'n ategu trefniadau comisiynu lleol ·
Pryderon
am yr asesiad poblogaeth a sicrhau bod y preswylwyr yn cael y canlyniad gorau ·
Bylchau
a meysydd sydd fel petaent wedi'u colli o'r asesiad poblogaeth ·
Gwaith
cynnwys a grwpiau yr ymgynghorwyd â hwy ar gyfer yr asesiad poblogaeth. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
Iechyd a Deiet yn Abertawe - Siwgr. PDF 468 KB Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad ar 'Iechyd a Deiet yn Abertawe - Siwgr'.
Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Yr
enwau gwahanol ar gyfer siwgr ·
Cyfrifoldeb
cenedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth o ddeiet a
siwgr, yn enwedig wrth ystyried darparu bwyd a labelu gwell ac ymwybyddiaeth. ·
Carbohydradau
·
Meysydd
allweddol i'w blaenoriaethu ·
Y
gost - effaith amddifadedd ar ddewisiadau bwyd iach ·
Dŵr
am ddim mewn parciau ·
Addysg
mewn ysgolion ar ddeiet a siwgr ·
Darparu
mwy o gyngor ar y ffyrdd o fwyta llai o siwgr ·
Model
Brighton a Hove - ‘Sugar Smart Brighton & Hove’ ·
Hysbysebu
a noddi Nododd y Cadeirydd
ei bod wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach am eglurhad am
ba feysydd i'w blaenoriaethu. PENDERFYNWYD dylid nodi cynnwys yr adroddiad a'r
llythyr at y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach. |
|
Adborth gan ofalwyr. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y cadeirydd ddiweddariad ar yr adborth gan ofalwyr. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: - · Cwrdd â'r gofalwyr er mwyn nodi'r meysydd allweddol i'w blaenoriaethu · Asesiad Gofalwyr - yr hyn y mae'n ei gynnwys ac a oes gan ofalwyr ddigon o ymwybyddiaeth o'u hawl i ofyn am asesiad · Taliadau uniongyrchol ac a allent helpu gofalwyr · Bathodynnau adnabod i ofalwyr · Seibiant dros nos/ gwasanaethau seibiant · Gwasanaethau trydydd parti e.e. y Groes Goch PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddariad. |
|
Rhaglen Waith 2016/17. PDF 61 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y rhaglen waith ar gyfer 2016/2017 am adolygiad. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y rhaglen waith. |