Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Gwneud Hawliau Dynol yn Realiti i Bobl Hyn. PDF 755 KB Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
ar 'Gwneud Hawliau Dynol yn Berthnasol i Bobl Hŷn' gan Chris Sivers,
Cyfarwyddwr Pobl. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Holwyd cwestiynau a
chafwyd trafodaeth ynghylch y pethau canlynol: - ·
Rhwydwaith
50+ ·
Hyfforddiant
ar ddementia ar gyfer yr holl staff rheng flaen ·
Proses
Asesiad Effaith Cydraddoldeb ·
Ffyrdd
i drechu unigrwydd ac arwahaniad a chyrraedd y rhai sy'n unig ac yn ynysig ·
Effaith
ymddygiad gwrthgymdeithasol ·
Mwy o
weithio ar draws y cenedlaethau. ·
Manteision
a chyfyngiadau Cydlynu Ardaloedd Lleol ·
Hyrwyddo
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac ymwybyddiaeth ohono ·
Gweithio
mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân ar y fenter 'pob cyswllt yn cyfrif' ·
Mwy o
waith partneriaeth gyda'r Cyngor i gysylltu'r adran tai, gwasanaethau cymdeithasol ac
adrannau perthnasol eraill. ·
Anodd
cysylltu â'r cyngor gyda mwy o gyswllt digidol a gwybodaeth ar y we. ·
Ail-grwpio
50+ oed yn grwpiau oedran llai i gydnabod yr anghenion gwahanol. ·
Hyfforddiant
ar afiechyd ·
Adborth
gan bobl hŷn ar gasgliadau gwastraff, yn arbennig y gwasanaeth casglu cynorthwyol ac mae eu profiadau o ddefnyddio'r canolfannau cyswllt yn eithaf negyddol. ·
Gwaith
partneriaeth gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ·
Cynllun
Gwarchod Cymdogaethau i Ieuenctid ·
Trosedd ac anhrefn - mae cynnydd
perfformiad y Bartneriaeth Abertawe
Mwy Diogel ar yr agenda ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 9 Mawrth 2017 am 4.30pm, Ystafell Bwyllgor 3A. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad. |
|
Rhaglen Waith 2016/17. PDF 61 KB Cofnodion: Rhoddodd y
cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017. PENDERFYNWYD AR
Y CANLYNOL: - 1)
Caiff
yr eitemau canlynol eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 20 Mawrth 2017:- ·
Adborth
ar ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Ofal Cartref (llafar) ·
Iechyd
a Deiet yn Abertawe (siwgr) ·
Y
diweddaraf am yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Meddwl (llafar) ·
Y
diweddaraf am yr Adolygiad Comisiynu Anawsterau Dysgu (llafar) ·
Y
diweddaraf am Gyngor Sir Fynwy (adroddiad) ·
Y
diweddaraf am Daliadau Uniongyrchol (adroddiad) ·
Cyflwyniad
ar yr Asesiad Poblogaeth. 2)
Caiff
yr eitemau canlynol eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 10 Ebrill 2017:
- ·
Teledu
cylch cyfyng. ·
Adborth
o'r cyfarfod anffurfiol gyda gofalwyr ·
Adroddiad
crynodeb terfynol Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol. |