Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692 

Eitemau
Rhif Eitem

35.

Election of Chair Pro Tem.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd E T Kirchner i fod yn Gadeirydd Dros Dro. 

 

(LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD E. T. KIRCHNER)

)

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 73 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016 fel cofnod cywir.

 

38.

Cyflwyniad - Tâl Uniongyrchol.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad ar Ofal a Chefnogaeth Greadigol drwy'r Taliadau Uniongyrchol gan Mariann Pedersen, Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, Nia Walters, Uwch-Ymarferwr a Ffion Larsen, Prif Swyddog Diogelu a Lles, Gwasanaethau i Oedolion.

 

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor am y newidiadau deddfwriaethol a'r effaith ar Daliadau Uniongyrchol.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a oedd yn cyflwyno a chafwyd trafodaeth am y pethau canlynol: -

 

·         Sut cynhelir asesiadau ar allu meddyliol;

·         Cost asesiadau o'r fath;

·         Safbwynt gofalwyr;

·         Addasrwydd darparwyr gofal;

·         Argaeledd darparwyr gofal amgen;

·         Statws cyflogwr derbynyddion Taliadau Uniongyrchol, sy'n wahanol i Asiantaeth;

·         Mwy o ddewis o ran pecynnau gofal;

·         Nifer sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol;

·         Ymagwedd fesul cam at gyfradd yn ôl yr awr a gynigir;

·         Terfyn ar adnoddau.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r swyddogion cyflwyno a'u timau am eu gwaith parhaus.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn chwe mis.

 

39.

Y diweddaraf am adolygiadau comisiynu. (Llafar)

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd J E C Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn nad oedd ganddi unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr adroddiad.

 

40.

Adroddiad am ymweliad i Gyngor Swydd Sir Fynwy . (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd J E Harris, y Cynghorydd dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, y diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy.

 

Trafododd y pwyllgor y dull meddwl Vanguard a ddefnyddir gan Gyngor Sir Fynwy a'i ymagwedd at Daliadau Uniongyrchol i gleifion a oedd wedi bod i'r ysbyty, er mwyn iddynt ddychwelyd adref yn gyflym. 

 

PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

41.

Rhaglen Waith 2016/17. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad.