Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C. R. Doyle yn
Gadeirydd Dros Dro. (Y CYNGHORYDD C. R. DOYLE OEDD YN LLYWYDDU) |
|||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau. |
|||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 19 Medi 2016 yn gofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: Cofnod 23 – Y
Diweddaraf am bedwar Adolygiad Comisiynu Diwygio paragraff 2
fel a ganlyn: ‘Ychwanegodd fod
angen rhagor o waith ar adolygiadau comisiynu'r Canolfannau Gofal Preswyl a
Dydd. Roedd yr Adolygiad Comisiynu Gofal
Cartref ar fin cael ei gyflwyno i'r Cabinet.
Ar ôl i'r Cabinet gytuno arno, byddai'r adolygiad yn cael ei ddosbarthu
ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.’ |
|||||||||||
Archwilio Iechyd a Deiet yn Abertawe. PDF 56 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
M. C. Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, y cylch gorchwyl ar gyfer
ymchwilio i iechyd a deiet yn Abertawe. Gofynnodd i'r
pwyllgor ymchwilio i'r rheswm am broblemau iechyd a deiet yn Abertawe ac amlygu
rhai o'r achosion posibl i'w trafod a sut roedd yr awdurdod yn mynd i'r afael
â'r mater. Trafododd y
pwyllgor yr opsiynau gorau sydd ar gael i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn
bennaf: ·
Y
bwyd a gynigir mewn prydau ysgol ac addysg bwyd mewn ysgolion; ·
Nifer
y siopau bwyd cyflym mewn cymunedau a'r bwyd afiach maent yn ei gynnig; ·
Y
mentrau bwyd sydd ar gael trwy CGGA; ·
Diffyg
argaeledd bwyd iach mewn cymunedau; ·
Sut
mae darpariaeth cludiant wael yn effeithio ar fynediad i fwyd iach mewn
cymunedau difreintiedig; ·
Sut
gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru/PABM gynorthwyo'r ymchwiliad; ·
Sut
mae cymunedau difreintiedig yn cael trafferth wrth ddilyn mentrau a diffyg
arian yn y fath gymunedau; ·
Yr
angen i gael trosolwg cyffredinol o'r sefyllfa yn Abertawe. PENDERFYNWYD gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfod
yn y dyfodol er mwyn darparu cyflwyniad cyffredinol ynghylch iechyd a deiet yn
Abertawe |
|||||||||||
Y Diweddaraf am Adolygiadau Comisiynu. (Llafar) ·
Adolygiad Comisiynu
Canolfannau Dydd - Adborth. ·
Adolygiad Comisiynu
Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol - Adborth ·
Adolygiad Comisiynu
Gofal Cartref - Adborth. ·
Adolygiad Comisiynu
Gofal Preswyl - Adborth Cofnodion: (Y CYNGHORYDD V. M. EVANS (CADEIRYDD) OEDD YN
LLYWYDDU) Rhoddodd y Cynghorydd
J. E. C. Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, y
diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr adolygiadau comisiynu parhaol. Rhoddwyd yr wybodaeth ganlynol:
Ychwanegodd y
byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi'n rheolaidd mewn cyfarfodydd yn
y dyfodol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||
Gwobrau ar gyfer Annibyniaeth. (Llafar) Cofnodion: Ceisiodd Aelod y
Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn eglurhad yn y cyfarfod nesaf
ynghylch yr eitem hon. Amlygodd y pwyllgor
yr angen i gydnabod staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymroddiad ar
adegau anodd a chroesawyd syniadau ynghylch gwobrwyo staff. PENDERFYNWYD: 1)
Y
byddai eglurhad ynghylch yr eitem hon yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf a
drefnir; 2)
Y
byddai manylion am wobrau a enillwyd gan staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael
eu rhoi yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|||||||||||
Y Diweddaraf Am Daliadau Uniongyrchol. Cofnodion: Rhoddodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad diweddaru ar
lafar i'r pwyllgor ynghylch taliadau uniongyrchol. Rhoddodd esboniad
am sut roedd y system yn gweithio, gan amlygu meysydd problemus, yn enwedig y
diffyg yn nifer y cynorthwywyr personol sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth. Cymharodd yr arferion a ddefnyddir mewn
awdurdodau lleol eraill â'r rhai a ddilynir yn yr awdurdod. Ychwanegwyd bod
Llywodraeth Cymru am i unigolion aros yn eu cymunedau. Fodd bynnag, roedd llawer o rwystrau i'r
system. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: ·
Proses
cyflogi cynorthwywyr personol; ·
Y
pwysau a roddir ar y rhai sy'n cyflogi cynorthwywyr personol; ·
Diogelu
pobl ddiamddiffyn; ·
Adolygu'r
arferion a ddefnyddir ar gyfer taliadau uniongyrchol; ·
Gweithdrefnau
Llywodraeth Cymru; ·
Biwrocratiaeth
wedi'i sbarduno gan gost; ·
Yr
angen am gysondeb gan syrfewyr; ·
Ailgyflwyno'r
system rota i gynghorwyr. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||
Rhaglen Waith 2016/17. PDF 60 KB Cofnodion: Rhoddodd y cadeirydd
yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017. Ychwanegodd y
cynhaliwyd yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy ar 13 Hydref 2016 ac y bu'n
addysgiadol iawn. Byddai'n rhoi
adroddiad i'r cyfarfod nesaf a drefnir. Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn
i adroddiadau'r Cabinet ynghylch model gwasanaeth Gwasanaethau i Oedolion a'r
Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref gael eu hadrodd i'r cyfarfod nesaf a drefnir. PENDERFYNWYD: - 1)
Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y bydd y cadeirydd yn rhoi adroddiad ynghylch yr ymweliad
â Chyngor Sir Fynwy i'r cyfarfod nesaf a drefnir; 3)
Y byddai adroddiadau ynghylch model gwasanaeth
Gwasanaethau i Oedolion a'r Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref yn cael eu
hadrodd i'r cyfarfod nesaf a drefnir; 4)
Gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfod yn y dyfodol er
mwyn darparu cyflwyniad cyffredinol ynghylch iechyd a deiet yn Abertawe. |