Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

21.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

22.

Cofnodion. pdf eicon PDF 208 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Awst 2016 yn gofnod cywir.

 

23.

Y diweddaraf ar bedwar Adolygiad Comisiynu. (Llafar)

·         Adolygiad Comisiynu ar Ganolfannau Dydd – Adborth;

·         Adolygiad Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol – Adborth;

·         Adolygiad Comisiynu Gofal yn y Cartref – Adborth;

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl – Adborth.

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf am adolygiadau comisiynu parhaus i’r pwyllgor gan y Cynghorydd J E C Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn. 

 

Ychwanegodd fod angen gwaith parhaol ar yr Adolygiadau Comisiynu Gofal Preswyl a Chanolfannau Dydd. Roedd Adolygiadau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol, a Gofal Cartref i'w cyflwyno gerbron y Cabinet. Unwaith y cytunid arnynt gan y Cabinet, byddai'r adolygiadau yn cael eu dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad â'r cyhoedd.

 

Dywedodd ei bod hi am gael sylwadau grymus ynghylch disgwyliadau'r cyhoedd o'r gwasanaethau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

24.

Teledu Cylch Cyfyng. pdf eicon PDF 274 KB

Cofnodion:

Adroddwyd cylch gorchwyl yr adolygiad TCC i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet.

 

25.

Ymchwiliad i Iechyd a Deiet yn Abertawe. pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Adroddwyd cylch gorchwyl yr ymchwiliad i iechyd a deiet yn Abertawe i'r Pwyllgor.

 

Trafodwyd y cylch gorchwyl gan y Pwyllgor, yn enwedig cyfle potensial yr ymchwiliad a nodi'r swyddog arbenigedd perthnasol o fewn yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD y dylai trafodaethau pellach cael eu cynnal yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

26.

Rhaglen Waith 2016/17. pdf eicon PDF 288 KB

Cofnodion:

Adroddwyd am Raglen Waith Craffu 2016/2017 er gwybodaeth. Dywedwyd bod ymweliad i Gyngor Sir Fynwy wedi ei drefnu ar gyfer 13 Hydref 2016.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.