Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

18.

Cofnodion. pdf eicon PDF 69 KB

Cymeradwyo fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod blaenorol Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

 

19.

Cyflwyniad - Effaith Deddfwriaeth ar Ofalwyr

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth gan Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe, ynghylch cefnogi gofalwyr a chyflwyno dyletswyddau newydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Amlygodd y newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf, yn arbennig y diffiniad newydd o ofalwr; y ddyletswydd i gefnogi gofalwyr; lles, dyletswyddau a chanlyniadau trosgynnol; mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a'r trydydd sector; y ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau ataliol; y ddyletswydd i asesu a chefnogi cynlluniau i ofalwyr; egwyddorion cyffredin asesu; buddsoddiad yn y 3ydd sector; a thaliadau uniongyrchol.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i Gyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe, ac ymatebwyd iddynt yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Defnyddio adeiladau cymunedol i gynnal cyfarfodydd grŵp;

·         Sut nad oedd Adran y Llywodraeth/rheolau'n cynorthwyo gofalwyr a oedd yn cael eu cosbi am gael cyflogaeth ac wedi colli budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt;

·         Effaith yr isafswm cyflog ar ofalwyr sy'n chwilio am gyflogaeth;

·         Cyfeirio a oedd yn cynorthwyo gofalwyr;

·         Yr angen i asesiadau fod yn amserol ac am gynnal adolygiadau rheolaidd;

·         Cyllid yw'r prif ffactor gydag asesiadau;

·         Y newid diwylliannol enfawr y mae ei angen i gydymffurfio â'r Ddeddf;

·         Mynediad i wasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod a'r newidiadau a gyflwynwyd drwy'r llinell 'cyngor, gwybodaeth a chymorth';

·         Pwysigrwydd bod staff yn gymwys ac wedi'u hyfforddi'n briodol;

·         Ymgysylltu â grwpiau/sefydliadau sy'n cynorthwyo gofalwyr;

·         Y rhwystrau parhaus a wynebir gan ofalwyr a'r frwydr barhaus y mae gofalwyr yn ei hwynebu er mwyn cyflawni eu hamcanion.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe hefyd y gofalwyr, Nonn Evans, Karenza Cassidy a Keith Skeggs a roddodd hanes manwl ac emosiynol o'u profiadau fel gofalwyr.  Nodwyd ganddynt y frwydr barhaus a wynebir gan ofalwyr a'r anawsterau roedd yn rhaid iddynt eu hwynebu gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Dywedwyd bod llawer o'r anawsterau wedi'u hachosi gan systemau/prinder adnoddau.  Heblaw hynny, roedd gwasanaethau a chefnogaeth yn cael eu cymryd oddi wrth bobl ac ni cheir empathi i ofalwyr a phrin yw’r gydnabyddiaeth maent yn ei chael.

 

Mynegwyd pryder gan y pwyllgor am brofiadau gofalwyr a chydnabuwyd bod angen i fwy o Aelodau Etholedig glywed eu hanes oherwydd bod llawer wedi clywed profiadau tebyg yn eu wardiau.  Cydnabuwyd canfyddiad negyddol o'r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cymunedau hefyd.  Serch hynny, pwysleisiwyd hefyd fod staff yn y gwasanaeth yn gwbl ymrwymedig a bod llawer o'r problemau wedi codi o ganlyniad i brinder adnoddau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe, Nonn Evans, Karenza Cassidy a Keith Skeggs am ddod i'r cyfarfod.  

 

20.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.