Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Cynghorydd J A Hale - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd PABM - personol.

 

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod(ydd) Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ofal Cymdeithasol ac Ataliaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016 yn gofnod cywir.

 

8.

Y Polisi Cyllid sy'n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Y Diweddaraf (Llafar)

Cofnodion:

Rhannodd Simon Jones, Arweinydd Strategol Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar â'r pwyllgor ynghylch y Polisi Cyllid mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyfeiriodd at adroddiad Cefndir y Polisi Codi Tâl (Gwasanaethau Cymdeithasol) - Talu am Wasanaethau Cymdeithasol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 21 Ebrill 2016.

 

Ychwanegodd fod y Polisi Codi Tâl yn disgrifio sut roedd Dinas a Sir Abertawe'n codi tâl ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016, y rhestr o daliadau am y flwyddyn 2016/17 a'r cylch adolygu taliadau blynyddol.

 

Tynnodd sylw at y ffaith mai ymagewdd yr awdurdod oedd cysondeb a thryloywder.  Amlinellodd y newidiadau ariannol a gweithredoedd a oedd wedi cael eu cyflwyno a'r cylch adolygu blynyddol arfaethedig. 

 

Gofynnodd y cyngor nifer o gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd iddynt yn briodol.  Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr aelodau wedi cael digon o gyfle i fynegi eu barn am y polisi newydd.  Gwnaeth y swyddog hefyd ymateb i gwestiynnau'r aelodau ynghlyn â gofal cartref ac arfer gorau ym meysydd eraill.  Cafodd Cyngor Sir Fynwy ei amlygu fel awdurdod a oedd wedi cyflwyno ymagwedd sy'n seiliedig ar ganlyniadau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys y diweddariad

2)    Y dylai'r Cadeirydd ystyried ymweliad â chyngor Sir Fynwy.

 

9.

Adolygiad Comisiynu'r Gwasanaethau Dydd i Bobl Hyn. (Llafar)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr Adolygiadau Comisiynu parhaol canlynol: -

 

·         Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn;

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref;

·         Adolygiad Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol;

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl.

 

Rhoddwyd adroddiad i'r pwyllgor a, y cynnydd diweddaraf mewn perthynas â phob Adolygiad Comisiynu a thrafodd yr aelodau elfennau pwysig ynglŷn â phob un.  Amlinellwyd y canfyddiad negyddol am wasanaethau cymdeithasol mewn cymunedau a sut mae hyn yn effeithio ar unigolion.  Trafodwyd materion mynediad hefyd.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddariadau a darparu rhagor o ddiweddariadau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

10.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd raglen waith  wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai'r Cadeirydd/Aelod Cabinet drefnu ymweliad arall â llety cysgodol;

3)    Y dylid trefnu trafodaethau ynglŷn â gofalwyr ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol;

4)    Y dylai'r Cadeirydd gwrdd â'r Cynghorydd P Downing, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet, er mwyn trafod teledu cylch cyfyng;

5)    Y dylid tynnu'r Polisi Siwgr o raglen waith 2016/17.