Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

43.

Gohirio Rheol 12 Gweithdrefn y Cyngor "Cadeirydd Cyfarfodydd" er mwyn caniatáu i'r Aelod Llywyddol lywyddu dros eitemau'r agenda sy'n dilyn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 12 i alluogi cadeirydd y cyngor i lywyddu dros y cyfarfod hwn.

 

(BU'R CYNGHORYDD D W W THOMAS YN LLYWYDDU)

 

44.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd V M Evans yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

(BU'R CYNGHORYDD V M EVANS YN LLYWYDDU)

 

45.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd J P Curtice yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016-2017.

 

46.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J A Hale.

 

47.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.