Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

47.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

48.

Cofnodion. pdf eicon PDF 56 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2017 yn gofnod cywir.

 

49.

Adborth gan y Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol ar Barodrwydd Pobl Ifanc i Weithio. (Llafar) (Chris Cutforth)

Cofnodion:

Rhoddodd Martin Nicholls a Chris Cutforth gyflwyniad ar lafar a oedd yn amlinellu'r materion y mae'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol wedi'u profi ynglŷn â pharodrwydd pobl ifanc i weithio, yn enwedig wrth recriwtio prentisiaid ifanc.

 

Amlinellwyd a chyfeiriwyd at faes eang o ddylanwadau a ffactorau'r broses recriwtio, a manylwyd ar amrywiaeth o ystadegau, gan gynnwys y meysydd canlynol:

·       150 o brentisiaid wedi'u penodi ers 2003

·       mae 90% o brentisiaid cymwysedig yn dal i gael eu cyflogi ac mae dros 40% o'r gweithlu presennol yn cyn-brentisiaid

·       Mae o gwmpas 10% o'r gweithlu cyfan yn brentisiaid, a chynhelir y broses recriwtio flynyddol yn dilyn cynllunio'r gweithlu a phroffilio'n fanwl

·       Proses penodi 5 cam diwygiedig sy'n cynnwys prawf gallu, cyfweliad dros y ffon, llunio'r rhestr fer, prawf ymarferol a chyfweliad wyneb yn wyneb

·       Effaith y cynllun prentis modern newydd a chymwysterau NVQ ar oedran y recriwtiaid - 16-17 40%, 18-20 39%, 21+ 21%

·       Bydd hyfforddiant ar gyfer yr NVQ yn cael ei ddarparu drwy golegau lleol

·       Problemau go iawn â thechnegau cyfweliad/hyfforddi pobl ifanc a'r materion sy'n ymwneud â'u gallu i gyfathrebu'n gywir, yn enwedig yn y cyfweliad dros y ffôn - mae "profiad bywyd" pobl ifanc (18+) i weld yn helpu gyda hyn ac yn eu helpu i fynd i'r afael â phwysau cyfweliadau wyneb yn wyneb

·       Diffyg dealltwriaeth pobl ifanc (16-17) o dechnegau cyfweliad sylfaenol, a'r angen i ymchwilio er mwyn paratoi ar gyfer cyfweliad wyneb yn wyneb

·       Problemau gyda nifer o bobl nad ydynt yn cwblhau'r prawf gallu (gall fod hyd at 25%) a'r amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar hyn

·       Diffyg sgiliau cymdeithasol pobl ifanc a chyngor/arweiniad gan rieni

·       Yr angen i ddatblygu cysylltiadau â Thlodi a'i Atal wrth ddatblygu profiadau rhagflas/hyfforddi a chysylltiadau â thîm NEETS a'r Gwasanaeth Ieuenctid

·       Materion sy'n ymwneud â chyllid Cynnydd sy'n cael ei dargedu at ddisgyblion ysgol hŷn - gellid fod yn well ei wario ar ddisgyblion iau

·       Digwyddiad sydd ar ddod ar gyfer pobl ifanc, Sgwrs Fawr, a'r cyfle i Adeiladau Corfforaethol fynychu a hyrwyddo'i chyfleoedd

·       Adborth o ddigwyddiadau Sgwrs Fawr blaenorol a'r materion a godwyd gan bobl ifanc a oedd yn ymwneud â chyfleoedd cyflogaeth

·       Yr angen i godi gobeithion, dyheadau a sgiliau pobl ifanc

·       Materion go iawn sy'n ymwneud â recriwtio ar gyfer rhai crefftau oherwydd diffyg ceisiadau a diffyg safon y ceisiadau

·       Materion sy'n effeithio ar bresenoldeb a llwyddiant yr Ysgol Grefftau Bore Sadwrn yn Llys Jiwbilî a menter ddiwygiedig newydd y Bws Masnach y gellir ei chyflwyno i'r cymunedau lleol

·       Yr angen i gysylltu'r Bws Masnach â diwrnodau a digwyddiadau gyrfaoedd

·       Argymhellion Pwyllgor Menter a Busnes Llywodraeth Cymru o 2014 sy'n ymwneud â'r materion hyn (i'w dosbarthu i'r Pwyllgor)

·       Materion sy'n ymwneud â'r pythefnos o brofiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgol a newid y cynllun o bosibl i gynllun deng wythnos "un diwrnod yr wythnos", a'r manteision posibl i gyflogwyr a myfyrwyr oherwydd y newid hyn

·       datblygu "pecyn cymorth" diwygiedig ar gyfer profiad gwaith a'r rhaglen hyfforddiant

·       Llwyddiant y cynllun cyn prentisiaeth a'r angen i ehangu

·       Effaith debygol y Fargen Ddinesig a'r Morlyn Llanw ar ddiffyg sgiliau lleol a gallu'r awdurdod i barhau â'i raglen adeiladu ei hun

·       Yr angen i gynllunio a recriwtio pobl ifanc ar gyfer y crefftau priodol o ganlyniad i'r uchod

·       Yr angen i hyrwyddo ac annog "crefftau" yn well fel canlyniad llwyddiannus a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol, yn enwedig gyda'r rhieni

·       Yr angen i newid agweddau a chanfyddiadau pobl ifanc a rhieni sy'n mynychu'r brifysgol ac yn gweithio am radd nad hyn yw'r ateb i bawb ac nid hwn yw'r unig opsiwn

·       Yr angen i hyrwyddo ac annog cyrsiau galwedigaethol

·       Hyfforddiant galwedigaethol o safon wael, yn enwedig i blant NEET

·       Llwyddiant ein hyfforddiant dwys a gynhaliwyd yng Nglandŵr

·       Yr angen i ddatblygu cysylltiadau Adeiladau Corfforaethol â Gyrfa Cymru a BHDA

 

Trafododd yr aelodau a'r swyddogion y materion a'r pynciau a restrir uchod yn helaeth, a'r cynigion, y mentrau a'r heriau ar gyfer y dyfodol.

 

50.

Cynigion ar gyfer ymgysylltu â phobl Ifanc a rhieni. (Llafar) (Jane Whitmore & Katie Spendiff)

Cofnodion:

Rhoddodd Jane Whitmore a Katie Spendiff gyflwyniad powerpoint a oedd yn manylu'r ymagweddau ar hyn o bryd ar gyfer cynnwys a gwaith presennol ar drosglwyddo i oedolaeth.

 

Mae'r meysydd a amlinellwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys:

·       Safle presennol yn Abertawe - gwreiddio CCUHP yn fframwaith polisi'r cyngor

·       Defnyddio ymagweddau o safon i gynnwys plant a phobl ifanc - Y Sgwrs Fawr, sy'n sylfaen i safonau cyfranogiad a thechnegau ymholi

·       Beth sy'n bwysig i Blant a Phobl Ifanc (PPI) - 8 blaenoriaeth a nodir gan y PPI drwy'r Sgwrs Fawr

·       Sut y mae'r PPI eisiau dysgu a chyflawni - sy'n ymwneud â'r ethos, yr amgylchedd ffisegol a dulliau addysgu ysgolion

·       Pa feysydd cefnogaeth y mae'r PPI eu hangen er mwyn symud ymlaen

·       Pa destunau a phynciau y maent yn dymuno eu hastudio

·       Materion a ffactorau sy'n effeithio ar drosglwyddo i'r ysgol uwchradd

·       Dyheadau PPI ar gyfer y dyfodol

·       Camau Nesaf

 

Cyfeiriwyd hefyd at bapur a luniwyd gyda'r PPI, sy'n amlinellu'r meysydd allweddol a nodwyd ar gyfer gwella i'w helpu i gyflawni, ffynnu a datblygu yn yr ysgol, sy'n cynnwys y canlynol:- cyfleusterau a chyfarpar, opsiynau bwyd/ffreutur, man hamdden a gweithgareddau corfforol, y defnydd o dechnoleg, arddulliau addysgu, dulliau a fformat gwersi, ehangu opsiynau a throsglwyddo a'r chweched dosbarth.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y materion uchod a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Materion a meysydd a gododd o'r cyflwyniad sydd angen trafodaeth a'u datblygu ymhellach: Cyfraniad/cefnogaeth rhieni a chynnwys, effaith cynigion Donaldson, cynllun arbrofol 'i Learn', datblygu hyder ac iechyd a lles emosiynol PPI a chodi dyheadau, yr angen i annog PPI i gymryd risgiau ac i asesu sefyllfaoedd.

 

 

51.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y byddai'r cynllun gwaith yn cael ei nodi.