Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2017 yn gofnod cywir, yn amodol ar newid dyddiad cofnod
rhif 38 i ddarllen 9 Tachwedd. |
|
Cynigion ar gyfer ymgysylltu â phobl Ifanc a rhieni. (Llafar) (Jane Whitmore) Cofnodion: Dywedodd y
cadeirydd nad oedd Jane Whitmore wedi gallu mynychu'r cyfarfod. PENDERFYNWYD gohirio'r eitem tan y cyfarfod nesaf. |
|
Cofnodion: Trafododd y
pwyllgor faterion ynghylch ei ymchwiliad parhaus i ba mor barod yw pobl ifanc
ar gyfer cyflogaeth. Cyfeiriodd Aelod y
Cabinet at drafodaethau y cafodd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Leoedd
ynghylch y mater hwn. Gofynnodd iddo ef neu aelod o'i staff ddod i gyfarfod yn
y dyfodol i nodi'r problemau yr oeddent wedi'u hwynebu wrth recriwtio
prentisiaethau. Cyfeiriwyd at y
sylwadau blaenorol gan gynrychiolydd o Goleg Abertawe ynghylch lefelau
llythrennedd a'u trafod, a gofynnodd yr Aelodau am fwy o wybodaeth ac eglurhad
gan y coleg. Gofynnodd y PCC am
eglurhad ynghylch a oedd disgyblion ysgol yn dal i gael profion clyw a llygaid
yn yr ysgol, gan fod problemau â chlyw a golwg yn gallu effeithio ar gynnydd
plant yn y dosbarth. PENDERFYNWYD ar ôl ychwanegu'r pethau uchod y dylid
nodi'r cynllun gwaith a ddiwygiwyd uchod. |