Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cynigion ar gyfer ymgysylltu â phobl Ifanc a rhieni. (Llafar) (Jane Whitmore) Cofnodion: Dywedodd y
cadeirydd nad oedd Jane Whitmore yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond
nododd y byddai ar gael i ddod i gyfarfod PCC ym mis Chwefror. PENDERFYNWYD gohirio'r adroddiad tan y cyfarfod nesaf. |
|
Prosiect Cynnydd. (Llafar) (David Bawden /Tracey Nichols) Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
llafar gan David Bawden a oedd yn amlinellu cefndir a sail y Prosiect Cynnydd
sydd wedi'i ddatblygu ar draws rhanbarth ERW a chyda Cyngor Sir Gâr yn ei
arwain. Nododd fod y
cynllun wedi bod yn gweithredu'n llawn ers mis Medi 2016 a chaiff ei gynnal tan
2019 dan y trefniadau cyllido presennol. Prif nod y prosiect yw lleihau nifer y
bobl ifanc sy'n dod yn NEETS (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).
Nododd fod y cynllun yn cael ei gyflwyno yn Abertawe drwy weithio ar y cyd
rhwng yr awdurdod addysg lleol, Coleg Gŵyr a Gyrfa Cymru. Darperir y prif
gymorth i bobl ifanc drwy gyflogaeth Hyfforddwyr Dysgu sy’n gweithio mewn amryw
o ysgolion uwchradd yn y ddinas. Mae'r Hyfforddwyr Dysgu hyn yn gweithio'n agos
gyda phobl ifanc ac yn eu cynorthwyo drwy roi help unigol iddynt, cwblhau
prosiectau dal i fyny a chynnig cymorth gyda llythrennedd a rhifedd. Amlinellwyd prif
amcanion y prosiect, sef cyrraedd pobl ifanc diamddiffyn ac ymgysylltu â hwy,
lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant -
NEETS - a'u cefnogi i ennill cymwysterau. Amlinellwyd y
broses adnabod pobl ifanc cymwys ar gyfer y cynllun, sy'n seiliedig ar eu sgôr
VAP. Nod y prosiect yw cynnig cymorth a chyrsiau sy'n ychwanegol i'r hyn sydd
ar gael ar hyn o bryd. Manylodd ar y
mathau gwahanol o gyrsiau a oedd ar gael i bobl ifanc gael mynediad iddynt, a
oedd yn gyrsiau dysgu prif ffrwd a chwricwlwm amgen/ hyfforddiant
galwedigaethol. Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cefnogi pobl ifanc a’u cynorthwyo i
gael swyddi fel rhan o'r cynllun. Cyfeiriodd at yr angen i fesur cyflawniad yn gywir a hefyd gwblhau’r
ffurflenni monitro’n briodol er mwyn sicrhau parhad cyllido'r cynllun yn y
dyfodol. Cynhaliwyd
trafodaeth hefyd ynghylch yr angen am ddarpariaeth gwasanaethau cwnsela ac
iechyd meddwl ychwanegol i bobl ifanc a bod hyn yn fater pwysig yn lleol, yn
rhanbarthol ac yn genedlaethol. Datblygwyd cynllun newydd o'r enw
"Engage" er mwyn cynorthwyo yn hyn o beth, ac mae'n aros am
gymeradwyaeth gyllido ar hyn o bryd. |
|
Arfer da wrth gefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i gyflogaeth. (Llafar) (Gavin Evans) Cofnodion: Amlinellodd Gavin
Evans a Jo-Anne Walsh nad oedd un templed syml neu amlwg ar gyfer cynorthwyo
pobl ifanc i gael swyddi. Ceir amrywiaeth eang o
opsiynau/cynlluniau/gweithgareddau i bobl ifanc ar draws y ddinas ac mae'r
ddarpariaeth wedi'i seilio ar anghenion yr unigolyn. Nodwyd ganddynt fod
cynnydd calonogol blynyddol wedi'i wneud mewn perthynas â'r AGPh a Gyrfa Cymru
i leihau nifer y NEETs. Soniwyd ganddynt fod fframwaith gan Lywodraeth Cymru yn
ei le i gynorthwyo er yr awdurdod sy'n arwain yn Abertawe mewn cydweithrediad
â'i bartneriaid allweddol, megis ysgolion, Coleg Gŵyr, Cyfiawnder
Ieuenctid a'r sector gwirfoddol. Nodwyd y nodweddion
allweddol o ran cynorthwyo pobl ifanc ganddynt: ·
Adnabod
y bobl ifanc sydd mewn perygl ·
Broceriaeth
a chefnogaeth well ·
Olrhain a throsglwyddo pobl drwy'r system mewn ffordd fwy
cadarn ·
Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion y bobl
ifanc ·
Sgiliau
cyflogadwyedd cryfach a mwy o gyfleodd cyflogaeth Nodwyd ganddynt fod
hyfforddiant o safon, gwell monitro a mesur cyflawniad, cynnydd a chanlyniadau fel
meysydd allweddol i’w datblygu ond cyfeiriwyd hefyd at yr arfer da a oedd
eisoes ar waith gyda phartneriaid fel Cynnydd a Gyrfa Cymru, ac amlinellwyd
esiamplau da cyfredol o brofiad gwaith, dysgu yn y gweithle a phrentisiaethau
DASA. Cyfeiriwyd ganddynt
at ddatblygiad a llwyddiant y prosiect "Symud Ymlaen" a gynhaliwyd
dros y 2 i 3 blynedd diweddaf ac sydd wedi targedu pobl ifanc sy'n gysylltiedig
â'r system cyfiawnder ieuenctid a'r system gofal. Golyga hyn ymagwedd wedi'i
thargedu gyda phrofiad gwaith â thal, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Y gobaith yw y
caiff y cynllun ei gynnwys mewn model newydd i'r dyfodol, sef y prosiect
"Cam Nesa" sydd wrthi'n cael ei ddatblygu i blant 16-18 oed gyda
chyllid Ewropeaidd. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn cychwyn ym mis Ebrill
2017, a bydd yn adeiladu ar esiamplau cyfredol o arfer da y gellir eu cynnig i
bobl ifanc. Amlygwyd unwaith eto bwysigrwydd nodi problemau ac anghenion pobl ifanc yn
gynnar gan aelodau fel ffactor allweddol wrth symud ymlaen oherwydd gall fod
llawer yn anos mynd i’r afael â phroblemau unwaith y bydd plentyn yn 15/16 oed,
a gall hynny'n aml arwain at broblemau ychwanegol a mwy cymhleth. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD i nodi'r cynllun gwaith. |